Mae rhaid i Fflwff fynd
at y milfeddyg i gael ei brechiadau. Ond mae Fflwff yn cuddio, yn
cysgu rhywle yn y ty+. Ble mae hi?
Mae Mair yn chwilio am
Fflwff. Mae hi wedi edrych yn y stafell molchi ac yn y gegin. Mae
hi wedi edrych yn y lolfa ac yn y twll dan staer. Ond dydy Fflwff
ddim iw gweld yn unman.
Mae Fflwff yn cysgu -
mae hi'n breuddwyddio am lygod ac adar.
"Ble mae Fflwff?"
mae Mair yn gofyn. "Fflwff!"
Mae Mair yn chwilio lan
loft - mae hi'n edrych yn stafell ei rhieni, ond dydy Fflwff ddim
yna. Mae Mair yn mynd i'w stafell wely hi. Mae hi'n agor drws ei
chwpwrdd dillad, ond dydy Fflwff ddim tu fewn. Mae hi'n edrych o
dan y gwely ond dydy hi ddim yna chwaith.
Ble mae Fflwff? Mae rhieni
Mair yn aros i fynd - dydyn nhw ddim eisiau bod yn hwyr.
Ond... beth ydy hwn?
Maen ddu. Maen flewog... Cynffon Fflwff ydy e!
"Fflwff, beth wyt
ti'n wneud?" medde Mair. Mae Fflwff yn cysgu ar ben y cwpwrdd
dillad! Dydy hi ddim eisiau mynd i'r milfeddyg o gwbl!
get
the text document
geirfa
cuddio
- to hide
milfeddyg - vet
brechiadau - vaccinations
chwilio - to search
stafell molchi - bathroom
cegin - kitchen
lolfa - lounge
twll dan staer - cupboard under the stairs
i'w gweld yn unman - anywhere to be seen
breuddwyddio - to dream
llygod - mice
adar - birds
|
gofyn
- to ask
lan loft - upstairs
rhieni - parents
cwpwrdd dillad - wardrobe
edrych - to look
tu fewn - inside
gwely - bed
chwaith - either
flewog - furry
cynffon - tail
ar ben - on top
o gwbl - at all
|
|