Mae Fflwff yn cuddio Mae rhaid i Fflwff fynd at y milfeddyg i gael ei brechiadau. Ond mae Fflwff yn cuddio, yn cysgu rhywle yn y ty+. Ble mae hi? Mae Mair yn chwilio am Fflwff. Mae hi wedi edrych yn y stafell molchi ac yn y gegin. Mae hi wedi edrych yn y lolfa ac yn y twll dan staer. Ond dydy Fflwff ddim i'w gweld yn unman. Mae Fflwff yn cysgu - mae hi'n breuddwyddio am lygod ac adar. "Ble mae Fflwff?" mae Mair yn gofyn. "Fflwff!" Mae Mair yn chwilio lan loft - mae hi'n edrych yn stafell ei rhieni, ond dydy Fflwff ddim yna. Mae Mair yn mynd i'w stafell wely hi. Mae hi'n agor drws ei chwpwrdd dillad, ond dydy Fflwff ddim tu fewn. Mae hi'n edrych o dan y gwely ond dydy hi ddim yna chwaith. Ble mae Fflwff? Mae rhieni Mair yn aros i fynd - dydyn nhw ddim eisiau bod yn hwyr. Ond... beth ydy hwn? Mae'n ddu. Mae'n flewog... Cynffon Fflwff ydy e! "Fflwff, beth wyt ti'n wneud?" medde Mair. Mae Fflwff yn cysgu ar ben y cwpwrdd dillad! Dydy hi ddim eisiau mynd i'r milfeddyg o gwbl!