go back home!
Get Fluent CD-ROMs
CMC t-shirts
Welsh music
where to learn
cheat sheets
how to learn
Welsh song lyrics
teachers and courses
ratw
CMC news
short stories
interviews
features
weblogs
books
papers and magazines
audio
chat
join the CMC email list
keep updated
explore
links
who is Suw?
contact us
help us
give us money
press room
legal stuff
thanks!
     
 

pleser poenus dysgu Cymraeg

Ceir sylwadau llym a digon beirniadol o'r Cymry Cymraeg mewn llyfr sydd newydd ei gyhoeddi am y profiad o ddysgu Cymraeg ar gwrs Wlpan, You Don't Speak Welsh! Yn ôl yr awdures, Sandi Thomas, mae agwedd y Cymry Cymraeg at ddysgwyr yn anghredadwy: "Os ydyn nhw am i'r Gymraeg barhau, pam eu bod yn gwrthod siarad yr iaith gyda dysgwyr?" Ategir y teimlad rhwystredig yma sawl tro yn y gyfrol, sy'n gofnod o'r profiadau pleserus a phoenus o ddysgu Cymraeg ar gwrs Wlpan yn Aberystwyth: "Why must the most frightening, the most intimidating part of learning Welsh be the fear of speaking it in public?"

Ceir darlun gwahanol a diddorol tu hwnt o Gymru a'i diwylliant o safbwynt Americanes yn y gyfrol, yn ogystal â'r problemau enbyd mae rhywun yn ei gael wrth ddysgu'r iaith. Bydd unrhyw ddysgwr yn gallu uniaethu gyda phroblemau'r awdur gyda threiglo ac ynganu: ('There must be a better word for library than "thluhvurhrgethl"') a bydd y gyfrol yn sicr yn ddefnyddiol a phwrpasol i athrawon a thiwtoriaid.

Yn ogystal â beirniadu'r Cymry mae Sandi Thomas, sy'n Americanes o Galifornia, yn datgan ei chariad at Gymru a'r iaith Gymraeg: "Dysgu Cymraeg yw un o'r pethau gorau dwi erioed wedi wneud - mae e wedi agor byd newydd i fi, a dwi yn gobeithio bod yn rhugl yn y Gymraeg a symud i fyw i Gymru rhyw ddydd."

Yn ôl Lefi Gruffudd ar ran Y Lolfa: "Mae'r gyfrol yn rhoi golwg ffresh o Gymru a'r Gymraeg - golwg rhywun o'r tu allan sy'n rhyfeddu at bopeth - bydd yn agoriad llygad i'r Cymry Cymraeg sy bob amser yn cymryd pethau mor ganiataol."

You Don't Speak Welsh!
Sandi Thomas
086243 585 4
£5.95
Cyhoeddwyd gan Dinas
Dyddiad Cyhoeddi: 18.6.01.

[back]

     

© suw charman 2002, 2003 unless otherwise stated

[Get Fluent] [CMC t-shirts] [buy Welsh music] [where to start] [cheat sheets]
[how to learn] [Welsh lyrics] [teachers and courses] [ratw] [CMC news]
[short stories] [interviews] [features] [weblogs] [books] [papers and magazines]
[audio] [chat] [join the email list] [keep updated] [links] [who is Suw?]
[contact us] [help us] [give us money] [press room] [legal stuff] [thanks] [home]


Legal warning notice: The material on this site is protected by copyright laws. Use of this site is strictly subject to our current terms which may change from time to time. Please also read our privacy policy and security statement.