Ynys
Môr o gyrff yn ymdonni,
Yn taranu ac yn penelinio'u ffordd
Trwy ras ddychmygol.
Plygir pob pen,
Troir pob coler i fyny
Rhag y brithlaw sydd yn chwilio am bob un gwendid
Ac yn treiddio pob hollt,
Wedi'i yrru fel y mae gan wynt main.
Dyma'r eneidiau colledig wedi lapio amdanynt yn gynnes
Rhag trais hyrddwyntoedd Ionawr,
Sydd yn gafael yn hetiau diamddiffyn ac yn wynebau tyner,
Gan grafangu'n wyllt ym mroc môr ddoe.
Dyma'r ysbwriel - wedi'i daflu o bocedi di-ri
Sydd heddiw yn chwyrlïo o gwmpas mewn corneli diwarchod.
Mae'n llenwi gyda'r llanw dynol
Ar hyd ei balmant digysgod.
Fe'u gyrrir,
Fe'u teflir
Dan lach dyheadau wedi'u dal am hir
Am fargeinion ac eiddo;
Maent yn codi fel gwenyg brigwynion
Sydd yn dygyfor yn forynnau
Dan orfod cynnwys haeddiannol eu hannwyl waledi,
A'r dyfarniad y daw hapusrwydd o boced ysgafnach;
Fel ewyn y don
Maent yn tyrfo a thorri yn ddidostur
Ar balmant y glannau.
Glannau palmantog, llwydion,
Cyn llwyded â'r wynebau, a amddifadir o olau'r haul;
Gwag o unrhyw ddisgleirdeb,
O unrhyw optimistiaeth neu obaith,
Gwên, hyd yn oed.
Dim ond y penderfyniad di-ildio
A ysgythrir ar wynebau gwachul y llanw cynyddol.
Uwchben y baw a'r felan,
Uwchben twrw lleisiau a pheiriannau
Clywir sgrechian cant o wylanod
Sy'n cylchdroi'n rhwydd mewn awyr ddiffrwyth,
Gan chwilio, gan hela;
Yr un mor awyddus am fargen
Maent yn deifio'r awyr
Gyda fflach o adenydd brithion
I lanio a dadlau'n swnllyd dros y nwyddau
A wasgarir wrth eu traed,
Cyn toddi drachefn i'r awyr lwyd.
A phrin i'w glywed,
Uwchben aderyn, creadur a'r elfennau
Dyna felodi, yn rhyfedd o ansoniarus
Sydd yn drifftio o ffliwt unig.
Wedi'i gwisgo mewn dillad annigonol ar ddiwrnod o'r fath
Mae hi'n siglo.
Nid yw ei llygaid ifainc yn gweld y môr,
Ond delweddau pell,
Gweledigaeth o gynhesrwydd a normalrwydd
A rheswm.
Mae ei throed yn tapio'r maen oer,
Y curiad wedi'i weld ond heb ei glywed;
Mae'n ynyswraig, wedi'i gadael mewn rhyw arwahanrwydd gogoneddus,
Yn anymwybodol yn ei byd ynysol.
Ynys wedi'i lleoli yng ngorffwylltra môr chwyrn,
Sy'n cynnig heddwch dros dro
A ysgubir gan y tonnau yn eu difrawder.
Ond maer diwn yn ddidrugaredd, didostur;
Mae'n ymgordeddu'n llechwraidd am gorneli
Ac i mewn i gilfachau'r meddwl.
Mae mor ddyfalbarhaol â'r glaw mân,
Cyn daered â'r p?ls o donnau sydd yn lledgyffwrdd ei
byd.
Ond anwybyddir gan ei chi goddefgar
Sydd yn gorwedd wrth ei thraed,
Yn ddisymud, hydrin,
Ac yn ddifater ynghylch y gwylltineb o'i chwmpas.
Y tu hwnt i'r dyfroedd bas sy'n ymlusgo i lepian ei thraed
Mae'r tonnau'n cyfuno a rhedeg efo'i gilydd,
Ysgwydd yn ysgwydd;
Unedig, ond nid yn yr ysbryd.
Mae pob un yn wahanol i'w gymydog,
Yn annibynnol, yn ddidaro,
Yr un mor ynysig.
Gan wthio ymlaen, gan gael eu hysgubo ymlaen,
Mae pob un yn brwydro i gadw ei ben yn uwch na'r lleill,
I gadw ei le.
Maent yn mynd ar ras at y lan
- ond nid ei glannau hi.
Does wiw croesi'r atol allanol,
Suddedig, hanner cuddiedig,
Sydd yn amddiffyn tir neb llonydd rhyngddynt.
Does wiw mynd yn rhy agos
Rhag ofn y bydd eu cydwybodau'n eu tynnu'n agosach,
Rhag y camgymrir eu haelioni am wendid,
Rhag cael eu hudo gan y gerddoriaeth.
Ond mae ambell un yn sgrialu'n lladradaidd i fyny'r tywod
I adael rhodd gloyw wrth ei thraed;
Carreg gron, cragen a olchir i'w glan
Cyn yn cilio ag ochenaid i'r dyfroedd,
Wedyn i ymsuddo i'r dyfnderoedd tywyll, anghyfeillgar
Lle mae'r llifoedd yn tynnu'n gryf.
Am ennyd - gwên,
Amnaid.
Rhyw gydnabyddiaeth o ddynoliaeth.
Ond dros dro yw'r olion traed hyn yn y tywod,
A gollir cyn pen hir i safnau môr oer, newynog.
Ac mae alaw anghyfarwydd i'w chlywed o hyd,
Heb ei hysgrifennu, hyd yn oed,
Yn dal i seinio'i hud
Sydd yn hudo'r diarwybod.
Yn ddiddiwedd y mae'n chwarae, nes y bydd y llanw'n cilio,
Ac wedi'i ymsefydlu yn ei byd ei hun,
Gwneith pob un, y caethion, a'r rhydd
- Oni wyddant pa un ydyn nhw? -
Ddychwelyd i'r lle hwnnw.
(Ffordd Mostyn, Llandudno. Ionawr 2002)
© Tony Ellis 2002, 2003
|
|