Efallai bod rhai ohonnoch
chi wedi clywed am SWS - Social Welsh and Sexy - y gymdeithas
Gymraeg sy'n mynd o nerth i nerth. Mi wnes i ddechrau'r gymdeithas
wedi i mi syrffedu ar gwyno nad oedd yna unrhyw gymdeithas Gymraeg
arall yn gweddu i mi yn bersonol. Mi roeddwn i'n ysu am noson
bob hyn a hyn, lle roedd hi'n hwyl i gyfarfod Cymry eraill yn
Llundain heb deimlo fod rhaid i mi gefnogi - dim ond mwynhau.
Roedd gen i awydd i fod yn ran o gymdeithas a oedd yn mwynhau'r
presenol ac yn frwdfrydig am y dyfodol yn lle dim ond hiraethu
am y gorffenol. Os nad oes 'na gymdeithas i mi a phobl fel fi,
mi ddechreuai un meddwn wrth fy hun. A dyna ddechrau SWS! |
|
Stifyn Parri a Colin
Jackson
|
|
Roedd hynny dros saith mlynedd yn ol erbyn hyn. Dechreuais wrth
logi ystafell yn y Groucho Club a gwahodd 40 o ffrindiau i gyfarfod
yno a chael ambell lasied o win a chymdeithasu gyda'u gilydd. Mi
wnaeth bob un ohonynt droi i fynnu ac mi gafodd bawb amser da iawn.
Deufis yn ddiweddarach death cant a hanner o bobl ac erbyn hyn mae
yna dros dair mil yn Llundain.
Tair mlynedd yn ol mi benderfynnais i geisio creu SWS yn Efrog
Newydd ac wedi gofyn i'r actores Sian Phillips i hyrwyddo SWS UK
mi benderfynnais i ofyn i Catherine Zeta Jones i fenthyg ei henw
i SWS NY. Mi wnaeth hi gytuno! Mae dros pum cant o aelodau yn Efrog
Newydd ac mi rydw i wedi cychwyn y Gymdeithas yng Nghaerdydd hefyd.
Erbyn hyn rydym wedi dwyn sylw y papurau newydd dros y byd ac wedi
denu mwy o enwogion fel Bryn Terfel, Bonnie Tyler a Colin Jackson
ein hyrwyddo ni. Mae'r nosweithiau cymdeithasol yn symud lleoliad
ac felly yn cadw nerth wrth ddenu mwy o sylw a mwy o aelodau. Does
dim byd diflas yn digwydd ar nosonSWS, dim areithiau hir gan ddynion
busnes, neu corau'n canu, dim ond llond ystafell o hwyl, egni a
phobl yn mwynhau cwmni eu gilydd. Mae rhai pobl yn ailddarganfod
ffrindiau yno, rhai yn cyfarfod eu cariadon, a rhai eraill yn defnyddio'r
noson fel ffordd i gyfarfod ffrindiau newydd.
Fy mwriad nesa yw cychwyn SWS OZ yn Awstralia.
Os ydach chi eisiau bod yn aelod mae hi'n hawdd ac yn rhad! Dim
on £10 y
flwyddyn! Rydym yn cyfarfod tua bob tri mis. Ymunwch ni.
Ewch i www.swsuk.com,
www.swsny.com
neu www.swscymru.com. Neu
e bostiwch info@mrproducer.co.uk
ar gyfer manylion pellach.
Mwynhewch!
Hwyl
Stifyn Parri x
|