go back home!
Get Fluent CD-ROMs
CMC t-shirts
Welsh music
where to learn
cheat sheets
how to learn
Welsh song lyrics
teachers and courses
ratw
CMC news
short stories
interviews
features
weblogs
books
papers and magazines
audio
chat
join the CMC email list
keep updated
explore
links
who is Suw?
contact us
help us
give us money
press room
legal stuff
thanks!
     
  Super Furry Animals
gan Debs Prowse

"Dyma gân o'r enw Turning Tide, a chysegrwyd i'r person lawr fan 'na. Gobeithio fyddwch chi'n teimlo'n well yn fuan."

Brixton Academy, 3 Tachwedd 1999, ac mae rhyw ddyn anlwcus wedi cael ei dynnu allan o'r dorf ac yn gorwedd yn anymwybodol ar stretsier yn y pwll diogelwch. Am y 15 munud diwethaf, mae paramedics a gweithwyr cymorth cyntaf wedi gofalu amdano fo, ei gariad yn gwylio mewn dagrau, tra fod Gruff Rhys yn checio'n aml ar gyflwr y dyn.

Noson llawn digwyddiadau, 'te.

Mae'n, wir, dwi byth wedi gweld Super Furry Animals mor ddifyrrus, wedi ymlacio a mor siaradus. Mae'n hollol wahanol i'r dyddiau pan gellid gwylio nhw o rhes flaen yr LA2 heb dywallt eich peint, y dyddiau pan fyddai Gruff ddim yn siarad onibai i gyflwyno'r gân nesaf; heno, mae o'n gwatwar y dorf yn ysgafyn yn ystod Fire In My Heart, wrth stopio weithiau i adael i'r gwrandawyr ganu ar ei gyfer, yn sefyll efo'u freichiau wedi'u croesi ac yn
lledwenu tra o'n ni'n neud ei job amdano fo. Mae o'n fwy o showman heno na dwi wedi gweld o'r blaen. Mae'r dorf yn mynd yn hollol wallgof. Erbyn y diwedd, pan mae'r Gods Of Communication yn sefyll heb symud ar y llwyfan yn ystod The Man Don't Give A Fuck, mae boi efo dreadlocks yn ei wallt yn neidio dros y terfyn dogelwch, wrth osgoi dau ddyn diogewlch ac yn goresgyn y llwyfan ar ei ben ei hun, yn dawnsio'n wyllt o flaen yr aliens cyn i reolwr y llwyfan, yn y diwedd ei dynnu i ffwrdd.

Naw diwrnod ar ôl y gig a dwi ar y ffôn i faswr y Furries, Guto Pryce, wrth gofio'r noson. Dwi'n dweud wrtho fo o'n i wedi trafod y gig yn Brixton efo newyddiadurwr, Simon Price. 'Da ni'n meddwl roedd o'r gig gorau SFA o'n ni 'di gweld erioed. Mae'n debyg 'mod i 'di gweld nhw'n chwarae tua 20 neu 30 o weithiau erbyn hyn, ond rhaid mai'r Brixton ydy'r gorau. Mae'r sw^n yn ardderchog ac mae 'na lai o gamgymeriadau.

Mae Guto yn chwerthin. Dwi'n adennill fy hunanfeddiant yn gyflym - dwi'm yn deud dy fod ti'n arfer neud lot o gamgymeriadau, dwi'n deud wrtho fo, ond mae'r sioe yn dynnach.

Yn lwcus, mae Guto'n cytuno. "Yn hollol. 'Da ni 'di chwarae lot o gigs shoddy dros y blynyddoedd, yn neilltuol pan oedd y band yn dechrau. 'Da ni'n ymwybodol o hynny a dwi'n meddwl bod ni'n mynd yn well rwan."

Cymharwch hwn i’r tro cyntaf imi weld y Super Furries yn chwarae, ym mis Mehefin 1996 yn yr LA2; roedd y lle'n hanner-gwag ac roedd hi’n bosib i fynd i'r blaen a dal i ddal eich diod heb gael eich bwrw drosodd. Dwi'n cofio Gruff yn datgan y caneuon ond yn deud dim byd arall, dim banter o gwbwl. Cymharwch hynny â safle rwan - dyddiau yma mae'n fwy o extravaganza.

"Os ti'm yn mynd yn well does dim pwynt neud o," meddai Guto.

Mae Super Furry Animals newydd ddod yn ôl o daith hir o America a Phrydain. Ydyn nhw'di deffro eto?

Guto: "Dim ond jest, ond 'da ni'n mynd ar daith unwaith eto dydd Mawrth."

Ydych?! Lle 'dach chi'n mynd?

"Ewrop. Scandinavia, Holland, Yr Almaen, Sbaen a Ffrainc."

Am faint?

Tan y gig yng Nghaerdydd."

‘Y gig yng Nghaerdydd’ fydd y sioe enfawr byddan nhw'n chwarae yn yr Arena Ryngwladol ar 20 Rhagfyr. Duw! Rhaid bod chi 'di blino!

"'Da chi'n dod i arfer efo fo ar ôl sbel," mae Guto'n chwerthin.

Roedd hi'n daith a dynnodd adolygiadau ffantastig, yn enwedig yr un gan Neil Kulkamey o'r gig yn Llandudno yn Melody Maker. Sut mae hi'n teimlo i weld rhywun yn bod yn frwdfrydig am rywbeth bod chi 'di creu? Rhaid fod o'n anhygoel.

"Ydy, mae'n dda bod pobol yn 'get it', 'sti," mae Guto yn cyfaddau. "Ond, welaist ti'r adolygiad yn yr Independent? Roedd 'na un drwg ynddo fo, felly mae'n ddoniol, mae gan pobol blas gwahanol hefyd. 'Da ni'n cael gwasg da fel arfer, felly mae'n neis iawn."

Mae'n ymddangos bod chi'n fand 'industry'; hynny yw, dydy'r cyhoedd sy'n prynu'r recordiau sy'n mynd i'r siartiau ddim yn dal arno fo...

Mae Guto'n chwerthin. "Dwi'n dymuno y fydden nhw!"

Cyfweliad cyntaf y Super Furry Animals imi weld oedd tua 4 mlynedd 'nôl yn y Melody Maker. Roeddwch chi'n dadlau os ydy safleoedd yn y siartiau'n bwysig neu beidio. Felly, 'dach chi ddim wedi newid eich meddwl am y testun 'na?

"Wel, 'da ni isho cael ein clywed," ebe Guto. "Dyna'r peth. Os mae pobol yn prynu eich record a dydy o ddim yn mynd i'r siartiau, am unrhyw reswm, os maen nhw'n cael eu prynu mewn siopau sydd ddim yn effeithio'r siartiau, wedyn... mae'n ok, ti'n gwybod?"

Ond mae'r busnes yn licio chi, on'd ydyn? Pawb sy'n gwybod...

Guto: "Erm... Ydyn, ond mae'r cylchgrawn Q yn ein casáu ni!"

Wel, bob tro mae 'na ryw wancyr...

Dwi'n meddwl weithiau bod Super Furry Animals yn dod drosodd fel band 'cwlt'; mae'n ymddangos bod y rhai 'in the know' yn rili 'get it', y cerddorion a'r newyddiadurwyr, ond yn aml dydy'r cyhoedd ddim. Ydych chi'n hapus efo'r notoriety'ma, neu fyddech chi'n hapusach pe byddai pob sengl yn mynd i #1?

Mae Guto'n bendant. "O, bydda i'n hapus pe byddai pob sengl yn mynd i #1! ‘Da ni'n neud miwsig er mwyn iddo fo gael ei glywed. Mewn ffordd, mae'n neis i gael fanbase, 'da ni byth wedi bod yn elitist, 'da ni byth wedi deud bod ni isho chwarae o flaen cymaint o bobol a dyna'r cwbwl. Ond ar y llaw arall fyddan ni byth yn cymrodeddu'n hunain er mwyn chwarae o flaen mwy o bobol. Bydd o'n digwydd yn ein modd ni."

Felly 'da chi'n bendant iawn am sut ydych chi ishi neud pethau?

Guto: "O, ydyn."

Ti'n golygu bod chi ddim yn industry puppets?

"Nag ydyn - fyddai fo ddim yn lot o hwyl!"

Mae'n siwr fod o'n wir - os mae'ch hobi yn mynd yn yrfa, mae'n stopio bod yn hwyl.

"Ydy," mae Guto'n cytuno. "'Da ni'n lwcus iawn i fod yn y safle yma, - teithio'r byd a chwarae miwsig. 'Da ni'n lwcus iawn. Dwi'n siwr mae 'na bobol yn y byd sy'n ennill chwech, saith mil o bunnau y flwyddyn wrth neud jobs cachu ac yn cael dim byd am neud o hefyd. Dwi'm yn ennill miliynau a dwi'n gyfoethog, - dim o gwbwl, ond dwi'n llwyddo a dwi'n fos fy hun a dwi'n cael lot o hwyl; dwi'n mynd ar daeth efo'n ffrindiau a phethau. Mae 'na bobol sy'n cwyno am eu statws bri neu beth bynnag, ond maen nhw wedi mynd allan o'u ffordd i fod yn ‘celebrities’ yn y lle cyntaf."

Ydych chi'n dyfaru gwneud unrhywbeth?

"Dim rili," ebe Guto. "'Da ni'n trio... wel, ydyn, ond 'da ni'n trio'n galed i edrych ymlaen a bod yn bositif, a gwneud rhywbeth amdano fo. Os oes 'na broblem efo'r ffordd mae pethau'n rhedeg, 'da ni'n neud rhywbeth amdano fo a symud ymlaen."

'Da chi'm yn meddwl, 'Dwi'n dymuno o'n i 'di neud hynny'n wahanol’?

"Wel, ydyn," meddai Guto. "Dwi'n golygu, mae 'na gyfweliadau yn y wasg, er enghraifft, lle 'da chi'n dymuno oedden nhw wedi mynd yn wahanol. Byddai fo'n neis i gael cyfweliad lle 'da chi'n siarad am y miwsig... roedd 'na rywbeth yn Select oedd yn eithaf cythruddol, do'n nhw ddim yn siarad am y miwsig, dim ond ‘antics’ y band. Ond byddan ni'n fwy gofalus yn y dyfodol."

Oes 'na gwestiwn bod chi'n casáu clywed mewn cyfweliadau?

Mae Guto'n ateb yn syth. "Dwi'n casáu'r un sy'n mynd... wel, dydy o ddim yn digwydd yn aml, ond pan maen nhw'n gofyn 'Ydych chi'n wallgof?’ mae'n eitha sarhaus. Ac yn ddiog. Achos, pan maen nhw'n meddwl bod chi'n neud pethau'n wahanol, maen nhw'n meddwl bod chi'n wallgof."

Neu'n cymryd cyffuriau...

Guto: "le! A'da ni'n meddwl, ‘Nage!’ ac mae'n hollol sarhaus."

Wel, efallai bod chi wedi cymryd cyffuriau yn y gorffennol, ond y prif beth ydy eich bod chi'n bum person creadurol iawn.

Mae Guto'n cytuno. "Yn union! Dyna be' 'da ni isho neud, so dyna sut 'da 'ni'n cael buzz. Y ffordd 'da ni'n neud pethau, dyna'r ffordd 'da ni'n mwynhau neud o. Mae'n rhyfedd. Dwi methu deall bandiau sy'n neud pethau bod nhw ddim yn rili licio. Y ffordd maen nhw'n cynhyrchu recordiau nad ydynt yn rili licio, dwi ddim yn deall o."

Maen nhw'n neud o am resymau masnachol?

"Ydyn! Rhesymau 'byddai fo’n swnio'n well ar y radio'. Dwi’n meddwl bod ein recordiau'n swnio'n dda ar y radio, ond 'da ni ddim yn gofyn rhyw gynhyrchwr i ddod mewn a neud nhw swnio fel cân radio neu beth bynnag."

Mae'r Furries wedi bod yn brysur iawn yn y stiwdio eleni - maen nhw wedi recordio albwm Cymraeg o'r enw Mwng, ac maen nhw'n bwriadu rhyddhau fo ym mis Mawrth. Pam ydych chi 'di recordio albwm Cymraeg ar wahan?

"Roedd gynnom ni ganeuon Cymraeg pan recordion ni Guerilla," mae Guto'n esbonio, "ond meddylion ni byddai fo'n well i roi nhw efo'u gilydd yn lle cân token Cymraeg yma ac yno, ar ochr-B ac efallai un neu ddau ar albwm. O'n ni'n meddwl byddai fo'n neis i roi nhw efo'u gilydd. Achos mae Mwng yn swnio'n fwy fel albwm. Recordiwyd yn bennaf yn fyw yn y stiwdio, ac maen nhw'n mynd yn well efo'u gilydd."

Pa mor dda bydd o'n neud, wyt ti'n meddwl? Fydd y caneuon Cymraeg yn effeithio pa mor dda mae o'n gwerthu?

"Dwi'm yn siwr... dwi'n meddwl bydd o'n neud yn iawn," meddai Guto. "Mae gennym ni ‘fanbase’ sy'n prynu'r recordiau, ac mae hynny'n cw^l, ti`n gwybod?

Pan 'da ni'n rhyddhau senglau, hyd yn oed os 'da ni ddim yn cael unrhyw airplay 'da ni'n gwybod fydd y fanbase yn prynu'r record. Ac mae hynny'n deimlad rili neis, i wybod mae 'na bobol tu ôl i chi."

Newch chi ryddhau senglau o Mwng?

"'Da ni'n meddwl ohono fo. Efallai un. le, pam lai? Yn amlwg, dydy o ddim yn mynd i werthu miliwn o gopïau ar y diwmod cyntaf, ond dydy hynny ddim yn reswm i beidio â neud o."

So, na fydd safle yn y siartiau yn bwysig iawn efo sengl Cymraeg?

"Dydy o byth wedi bod yn bwysig iawn," ebe Guto yn bendant. "'Da ni jyst isho i'n recordiau cael eu clywed. Dydy o ddim yn gystadleuaeth, dydy o ddim yn sbort neu rywbeth."

Wrth gwrs, mae'r band newydd ddod adre o daith fawr, so dydy hyn ddim yn hawdd i'w ofyn... fydd 'na daith i gyhoeddi Mwng?

"Dyna be' 'da ni'n meddwl amdano ar hyn o bryd," meddai Guto. "Hoffen ni neud rhywbeth gwahanol... dwi'n siwr y fydd rhywbeth, cwpwl o sioeau. Achos mae'r album yn live based hefyd, so bydd o'n dda i'w chwarae fo'n fyw."

Bydd hynny'n ddiddorol - i weld sut bydd ffans Saesnig yn adweithio i holl sioe o eiriau Cymraeg.

"Bydd," mae Guto'n cytuno. "Efallai cawn ni'n boo off y Ilwyfan, dwi'm yn gwybod. Ond o leia bydden ni wedi trio."

Dwi'n meddwl. Mae pawb sy'n dod i weld SFA yn gwybod bod chi'n Gymraeg.

"Ydyn, dyna'r peth," meddai Guto. "Dwi'n meddwl bod ein ffans yn open minded. Mae pobol yn mwynhau'r darn electronig ar y diwedd, ac maen nhw'n licio popeth 'da ni'n neud."

Wel, cerddoriaeth ydy'r ‘common denominator’. Dyna'r un peth bod pawb yn rhannu. Dyna'r peth prydferth am gerddoriaeth, mae o'n mynd heibio bob ffin. Efallai bod hyn yn swnio'n hipi dipi, ond mae'n wir!

Mae Guto'n chwerthin. "Ti'n gywir!"

A'r ‘common denominator’ yma ydy'r peth sy'n gyrru bron mil o bobol ar draws y byd, o wledydd mor bell o'u gilydd â Brasil a Siapan, Awstralia a Gogledd America, i ymuno â'r Super Furry Animals e-group, rhyw fath o ganolfan gysylltiad ar gyfer ffans y band. Cafodd ei ddechrau tair blynnedd nôl gan ffan Americanaidd, Karen, sy'n rhoi llawer o'i hamser, ymdrech ac ymdroddiad mewn i ofalu amdano fo. Dwi 'di ymuno â'r rhestr fy hun yn ddiweddar, dwi'n deud wrth Guto.

Mae Guto yn frwdfrydig iawn am Karen a'r grw^p. "Mae hi'n ffantastig. Mae'n hollol humbling pan 'da chi'n gweld pa mor bell mae pobol yn teithio i'ch gweld chi, neu faint o waith mae hi'n neud ar yr internet. Mae'n hollol humbling."

Mae hi'n gweithio'n galed iawn.

"Ydy! Mae hi'n anhygoel! Ac ar y daith Americanaidd daeth hi â llawer o recordiau i ni hefyd, oedd yn grêt!"

Ers imi ymuno â'r e-group, dwi 'di sylwi bod lot o bobol yn gofyn os ydy'r Furries yn bwriadu rhyddhau casgliad o'u fideos. Dwi'n gofyn hwn i Guto.

"Nag ydyn!" mae o'n chwerthin. "Na ydy'r ateb!"

Pam?

"Dwi'n casáu pob un o'n fideos," mae o'n chwerthin. "Maen nhw'n hollol gachu! Roedd Fire In My Heart yn dda, ac roedd Northem Lites yn dda, ond yn bennaf maen nhw wedi bod yn wastraff o arian! Ond dim ond barn fi ydy hynny. Maen nhw 'di bod yn ok ond os ‘da chi n mynd i neud casgliad dwi'n meddwl dylsen nhw fod yn dda iawn."

Beth am International Language of Screaming? Roedd hwnna'n fideo da.

"Oedd, ond roedd o'n gomedi," mae Guto'n ochneidio. "O'n ni isho iddo fo fod yn horribl ac ofnus, ond yn y diwedd roedd o fel ffycin' Carry On horror!"

Ond dydych chi ddim yn ofnus neu'n horribl! Dyna'r pwynt! 'Da chi ddim yn dod draws fel hynny!

"Ond 'da ni isho bod yn horribl ac yn ofnus!"

Ond nid y Super Furry Animals ydy hynny! 'Da chi'n greaduriaid cwtchlid, blewog! Mae'n ymddangos taw fi yw’r unig berson sy'n meddwl fel hyn:

"Dwi'n meddwl bod ni heb gael ein deall gan y mwyafrif o gyfarwyddwyr ein fideos..."

Beth ydy hoff fideo y band?

"Roedd Demons yn dda achos caethom ni w^yl yn Colombia am wythnos! Dyna'r ffordd dwi'n edrych amo fo!"

Beth am ganeuon? Oes 'na weithiau pan 'da chi'n mynd ar y llwyfan gan feddwl, ‘dwi'm isho chwarae'r gân 'ma achos mod i'n ei chasáu hi rwan'?

"Weithiau, oes," ebe Guto. "Mae Something 4 The Weekend yn anodd ar hyn o bryd - mae rhai ohonom ni'n licio fo, a dydy'r lleill ddim. Yn bennaf, dyna achos 'da ni isho symud ymlaen, ond 'da ni'n gwybod fod pobol yn dod i'n gweld ni er mwyn clywed ein senglau a chlywed y caneuon bod nhw'n adnabod hefyd, felly 'da ni'n trio chwarae'r hen stwff a'r stwff newydd hefyd.

Mae'n rhaid ichi fod yn deg i bobol sy'n dod i'ch gweld chi hefyd. Pe tasech chi'n chwarae gormod o ganeuon sydd heb eu clywed o'r blaen, byddai pobol yn ‘pissed off’ dwi'n meddwl."

Mae perfformiadau byw'r Super Furry Animals' wedi newid dros y blynyddoedd; y peth diweddara' ydy'r Gods Of Communication sy'n dod ar y llwyfan yn ystod The Man Don't Give A Fuck. Pwy sydd yn y costiwmau?

Mae Guto'n chwerthin. "Unrhyw un 'da ni'n gallu ffeindio, fel arfer! Rhywun o'r gynilleidfa pum munud o'r diwedd!"

Dwi'n rhyfeddu os mae'r sioeau gwell 'ma'n ran o'r ‘cynllun'. Beth ydy nod SFA? Ac ar ôl iddo fo gael ei gyflawni, fyddwch chi'n rhoi fyny?

"Na fyddwn. Miwsig ydy'r nod, a dwi'n meddwl bod ni yn ei gyflawni fo," meddai Guto. "Mae gennym ni lot mwy o syniadau..."

Mae 'na gyflenwad heb ddiwedd, on'd oes?

Mae Guto'n cytuno. "Oes! 'Da ni'n lwcus achos 'da ni'm yn cael trafferth pan 'da ni'n mynd i'r y stiwdio. Does dim rhaid i ni boeni am y caneuon, 'da ni jyst yn poeni am sut i'w recordio nhw, achos dyna be' 'da chi'n neud mewn stiwdio. Ond 'da ni'n edrych ar gwpwl o albymau o flaen yn ein pennau eniwe."

Sut `da chi'n ffeindio'r amser i sgrifennu caneuon newydd?

"Does dim angen amser i sgrifennu caneuon newydd," mae Guto'n cywiro fi. "Yr unig peth ydych chi angen ydy'ch brên! 'Da ni wastad yn cael syniadau newydd, a phan 'da chi'n mynd i'r stiwdio maen nhw i gyd yn dod allan."

Ww, mae Guto'n slapio'n arddwm!

Guto: "Pam?"

Wel, dwedaist ti 'does dim angen amser!' Ww, ok! Dwi 'di cael fy nghywiro!

Mae Guto'n chwerthin. "Na, o'n i jyst yn meddwl yn uchel! 'Da ni'n sgrifennu caneuon a 'da ni ar daith yn aml ond da ni'n get by. Hyd yn oed os 'da ni'n chwibanu yn y cawod. 'Da chi wastad yn creu melodïau. Dyna peth arall dwi'n deall, bandiau sy'n cael problemau sgrifennu caneuon newydd. Achos mae gennym ni gymaint o syniadau newydd, 'da ni methu aros i fynd i'r stiwdio."

A dydy'ch caneuon ddim jyst yn gitar/drwm/bâs teip o beth... mae 'na gymaint o haenau...

"Pan 'da ni'n mynd i'r stiwdio, mae 'na lot o syniadau'n barod, felly 'da ni jyst angen cael y syniadau am sut i'w trefnu nhw."

Be' dach chi'n hiraethu amdano pan 'da chi ar daith?

"Bwyd da!" Mae Guto'n chwerthin. "Heb fwyd da, dwi'n mynd yn sarrug ac yn flinedig!"

Dwi ‘di sylwi bod cariadon y bechgyn yn troi fyny i lot o gigs y band. Ydyn nhw'n mynd ar yr holl daith?

"Duw, nag ydynt!" mae Guto'n chwerthin. "Mae'n debyg byddan nhw'n mynd yn wallgof! Dydy'r bws ddim yn le neis i fod! Na, dwyt ti ddim yn gweld nhw yn Derby neu Stoke. Dwyt ti ddim yn gweld nhw yn y llefydd sydd ddim mor ‘glamorous’!"

Oherwydd eich bod ar daith cymaint o'ch amser, oes `da chi ddigon o amser i ymlacio?

"Ffyc, dwi 'di anghofio sut i ymlacio, i fod yn onest! Playstation a recordiau, TV, bwyd, gwin, popeth da mewn bywyd!"

Ydych chi'n cael y siawns i weld bandiau eraill yn aml? Os ydych, beth ydy'r band gorau ichi weld eleni?

"'Da ni'n gweld y bandiau sy'n chwarae efo ni`n bennaf... mae na lot o fandiau da. Chwaraeodd Topper efo ni yn Llandudno ar yr ail noson, ac o'n nhw'n ardderchog."

Eleni mae'r band wedi hyrwyddo Clwb Pêl Droed Cardiff City. Beth ydy hyn amdano, ac am faint o amser?

Guto: "Mae'n golygu dim stress ohonom ni achos 'da ni jyst yn printio'r crysau a dyna'r gwbwl, does dim rhaid i ni hongian allan neu beth bynnag. Hyd yn oed efo'r photo shoot, aeth yr aliens yn ein lle! Mae o'n neud bywyd yn haws i ni i gyd."

Tro diwetha' imi gyfweld â Gruff, dywedodd am anfon yr eirth ar daith i Siapan er mwyn i'r band osgoi neud o!

"le!" mae Guto'n chwerthin. "Mae chwarae'n fyw'n laff, ond dim ots am unrhywbeth arall."

'Da chi byth wedi bod yn fand 'meet 'n' greet', on'd ydych?

Mae Guto'n chwerthin. "Duw, nag ydyn!"

Pan dwi'n eich gweld chi mewn partis aftershow, dwi'm yn siwr am ddod drosodd i ddeud helo...

Mae Guto'n cywiro fi. "Dylset ti!"

Ond bob tro 'da chi'n edrych fel, 'o Duw, dyma un arall o'r digwyddiadau ‘schmoozing’ 'na!'

"Pan mae'n ffans, 'da ni'm yn meindio," mae Guto'n esbonio. "Ond pan mae'n ddigwyddiad y busnes, dwi yn meindio!"

Mae'n rhaid ichi ysgwyd llaw rhywun sy'n un peth â llyfu'u tinau...

"'Da ni'm yn neud o'n aml, ‘da ni'n lwcus" meddai Guto. "Dydy Creation ddim yr un fath o label eniwe, 'da ni'n ffrindiau efo pawb yno 'da ni'n dod ymlaen efo pawb."

Ydych chi'n gyfforddus efo'ch safle, neu ydych chi dal yn embarrassed weithiau? Nes i sylwi roedd Gruff yn fwy cyfforddus a siaradus yn V99 a Brixton nag oedd o yn gigs eraill.

"'Da ni byth yn embarrassed ar y llwyfan achos 'da ni'n hyderus yn be' da' ni'n neud. 'Da ni'n mynd yn embarrassed dim ond os mae pawb yn gofyn am ein autographs! Ond 'da chi'n dod i arfer efo fo, dydy o ddim yn rywbeth bod ni 'di crefu amdano. Mae o'n mynd i ddigwydd, mae'n anochel, ond mae o dal i fod yn dipyn bach yn embarrassing. Mewn siopau, yn y dre, dydy o ddim yn digwydd yn aml ond mae o'n embarassing. Ond ar y llwyfan, os wyt ti'n mynd i fod yn embarrassed ddylset ti ddim bod yno. Mae 'na lot 'da ni isho rhoi drosodd a 'da ni isho i bobol ei glywed fo."

Mae'n debyg bod y band wedi cael cwpwl o flynyddoedd llawn o brofiadau anhygoel. Beth ydy profiad gorau i SFA gael eleni?

"Roedd America'n ardderchog, dyna'r un dwi'n meddwl," meddai Guto. "America oedd y peth diwetha' ardderchog i ddigwydd, so dyna'r un sy'n aros yn fy meddwl. Jyst mynd i lefydd newydd, dyna'r peth 'mod i'n mwynhau. Roedd San Francisco yn ffantastig."

Beth ydy'r peth mwyaf anhygoel a gallai ddigwydd i Super Furry Animals yn y dyfodol?

"Ffycin' hell, dwi'm yn gwybod! Dwi'n golygu, parhau neud be' 'da ni'n neud, ond yn fwy ac yn well. Dyna'r nod. Ond 'da ni'n gyfforddus iawn efo'r ffordd mae pethau'n mynd. Mae o'n mynd yn raddol, so mae o'n neis a dydy o ddim wedi bod yn rhy wallgof. 'Da ni 'di neud pob taith mewn llefydd mwy, a 'da ni'n teimlo'n gyfforddus efo fo."

Ac wrth gwrs, mae 'na'r gig yn y CIA mis nesaf...

"Oes! Wel, dyna'r un mawr, mae'n siwr."

Beth sy'n neud chi'n falch o'ch hunain?

"Miwsig, yn bendant, achos bydd y recordio yno am byth, gobeithio, a dwi'n falch iawn o'r recordiau. A'r gigs hefyd. Gobeithio bydd lot o bobol yn dod adre o'r gigs gan fwynhau nhw, a gobeithio welwn nhw rywbeth gwahanol a chael profiad dymunol. Dwi'm isho bod yn cocky, ond dwi'n meddwl fod o'n digwydd lot o'r amser, dwi'n meddwl bod ni'n mynd yn dda at chwarae'n fyw. So dwi'n falch o hynny. Gobeithio 'mod i'n gywir!"

Yn bendant mae o'n gywir. Dydy Super Furry Animals byth wedi bod mor ddymunol, mor ddifyrrus, mor gariadus, dim ots faint maen nhw isho dod drosodd fel ofnus weithiau. Hyd yn oed os mae cath yn poeri a chrafu, tu ôl y crafangau mae'na anifael cwtchlid, blewog yn aros i gael ei charu.

I ymuno â e-group SFA neu i dderbyn newyddion am y band, ymwelwch eu safle we swyddogol: http://www.superfurry.com.

 
     

© debs williams 2000 - 2003

[Get Fluent] [CMC t-shirts] [buy Welsh music] [where to start] [cheat sheets]
[how to learn] [Welsh lyrics] [teachers and courses] [ratw] [CMC news]
[short stories] [interviews] [features] [weblogs] [books] [papers and magazines]
[audio] [chat] [join the email list] [keep updated] [links] [who is Suw?]
[contact us] [help us] [give us money] [press room] [legal stuff] [thanks] [home]


Legal warning notice: The material on this site is protected by copyright laws. Use of this site is strictly subject to our current terms which may change from time to time. Please also read our privacy policy and security statement.