go back home!
Get Fluent CD-ROMs
CMC t-shirts
Welsh music
where to learn
cheat sheets
how to learn
Welsh song lyrics
teachers and courses
ratw
CMC news
short stories
interviews
features
weblogs
books
papers and magazines
audio
chat
join the CMC email list
keep updated
explore
links
who is Suw?
contact us
help us
give us money
press room
legal stuff
thanks!
     
  Patrick Jones - empty rooms of beautiful communication
gan Debs Prowse

Yn dyner, enigmatic ac annisgwyl o olygus, mae Patrick Jones yn ddyn sy'n crynu gan nerfusrwydd wrth iddo fe berfformio ei rantiau huawdl; dyn sy'n gyson chwerthin yn uchel a dwfn, y tlws yn ei ael a'r wisg guerilla prin yn awgrymu ei statws fel dyn teuluol.

"Brawd Nicky Wire".

Roedd yna amser - y tu allan i'w dre enedigol, y Coed Duon, ta beth - pan mai ei frawd enwog oedd yr unig gydnabyddiaeth a roddid i Patrick. Y diwrnodau hyn, fodd bynnag, mae e'n enwog yn rhinwedd ei waith fel dramodydd a bardd o bwer telynegol mawr.

Understand
that coming
is only a prelude
to going

Fe ddes i ar draws Patrick am y tro cynta' - y tro cynta' i mi gael unrhyw awgrym o'i fodolaeth -pan dderbyniais i gopi o'i lyfr, Mute Communication yn annisgwyl, a llythyr yn dweud ei fod wedi bwriadu ysgrifennu ers amser, gan fod "Nick yn dweud ei fod yn gylchgrawn da."

Byddai bron i ddwy flynedd yn pasio cyn i ni gyfarfod.

Fe wnes i ac Emma gyfarfod a Patrick ar ôl ei gig hectig a llawn nerfusrwydd yn The Water Rats yn Llundain ym mis Gorffennaf. Roedd y lle yn orlawn, yn hollol orlawn, y gynulleidfa wedi'i rhannu yn dair carfan pendant iawn: ffigyrau o'r diwydiant, dilynwyr y Manics a rhai dilynwyr amlwg iawn, iawn i Patrick Jones - y rhain oedd yn sefyll y tu flaen i r llwyfan, yn geirio pob sill, llygaid ar gau, feather boas i fyny.

Roedd y cythrwfwl wedi'r gig yn olygfa anhygoel. Roedd yr ymryson am lofnod, ac ychydig o eiriau gyda'r dyn ei hun, yn debycach i oygfa o gig mewn arena na darlleniad barddoniaeth mewn tafarn fechan yng ngogledd Llundain.

Roedd gofyn disgwyl am awr, felly, cyn i ni allu llusgo Patrick oddi wrth ei ddilynwyr addolgar am ddigon o amser i allu cyflawni ein croesholiad.

And
nothing
is
perfection

Fe gafodd CD diweddar Patrick o farddoniaeth i gefndir cerddorol adolygiadau cymysg. Fe gafodd groeso cynnes gan y Melody Maker, ond ychydig o wythnosau ynghynt fe wnaethon nhw gyfweliad byr gyda Patrick a roddodd yr argraff i fi fod yr awdur wedi'i syfrdanu rywfaint gan y cwbl

"le," cytuna Patrick, "ond wy'n credu i'r peth fod yn eitha' positif achos wy'n credu fod Steven Wells yn licio ychydig o rantio ac mae rhywfaint o'r farddoniaeth yn eitha' tebyg i hynny! Ond roedd yr un heddiw wedi codi ychydig o linellau, ac ro'n i'n hoffi hynny. Wedi'r cwbl, barddoniaeth yw e, dyw e ddim yn trio bod yn eiriau i ganeuon, dyw e ddim yn trio bod yn... mae'r geiriau yn bwysig, beth am ei gadael hi felly. Dydw i ddim yn licio pobl yn dweud taw sloganau y'n nhw, achos dy'n nhw ddim. 'Manics 1992'? Dyw e ddim! Dyw e'n ddim byd tebyg!"

Yn ôl rhai mae barddoniaeth ymysg y gyrfaoedd anodda' i llwyddo ynddi. Fyddai Patrick yn cytuno fod hynny'n wir?

"Byddwn yn sicr. Ond dydw i ddim yn meddwl am y peth fel gyrfa, mwy fel galwad."

Nid barddoniaeth yw’r unig beth a wna Patrick. Mae e hefyd yn darlithio ac yn dysgu.

"Gweithio gyda phobl ifanc, un ar bymtheg oed, yn eu dysgu nhw sut i fynegi'u hunain," meddai.

Ydi hyn yn gweithio? Ac ydi e'n cael pobl oddi ar y strydoedd ac yn rhoi rhywbeth iddyn nhw roi ei ffocws arno?

"Wy' wedi cael rhai llwyddiannau hyfryd gyda phobl sy' wedi dod o hyd i'w lleisiau eu hunain ac wedi dechrau sgrifennu," meddai Patrick wrtha i. "Ac, iawn, maen nhw'n dal i wneud beth maen nhw’n ei wneud, mynd a malu pethau neu beth bynnag, ond mae'r pethau maen nhw’n sgrifennu amdanyn nhw fel Irvine Welsh, pobl felly, sy'n gwneud miliynau allan o'r peth, ond maen nhw’n byw y peth, t'mod, felly wy'n trio'u cael nhw i sylweddoli fod eu bywyd nhw yn llenyddiaeth - neu ei fod yn gallu bod yn llenyddiaeth."

Yn ei llyfrau am Adrian Mole, y crwt ysgol sy' am fod yn ddeallusun, fe ddefnyddiodd Sue Townsend gymeriad o'r enw Barry Kent, bwli heb unrhyw ddiddordeb mewn dysgu o gwbl, sy' yn y pen draw yn dod yn awdur enwog. Ydi Patrick wedi dod ar draws unrhyw Barry Kents go-iawn?

"Do, rhywbeth tebyg," meddai. "Er...ie, yn enwedig yn y cymoedd, y diwylliant macho yna wy'n credu, lle mai dim ond pobl hoyw sy'n sgrifennu, math o beth. Felly wy'n trio torri'r rhwystrau lawr ac unwaith i chi wneud hynny… dyw e ddim yn job iawn, dim ond pan mae gwaith yn dod. Dydw i ddim yn eistedd yn fy ngardd yn disgwyl am ysbrydoliaeth."

Rydw i'n gwybod oddi wrth fy mhrofiadau i fy hun ei bod hi'n tueddu i fod yn rhywbeth sy’n wir yn tarfu arnoch chi, sefyllfa bersonol neu rywbeth cyffredinol sy'n wir yn rhoi llond bola i chi, ac ry'ch chi'n cael eich gyrru i sgrifennu am y peth. Dy'ch chi ddim yn meddwl, 'heddiw wy' am sgrifennu cerdd' - mae e'n rhywbeth sy' jyst yn dod i chi.

Patrick: "Yn hollol, ie. Ond mae yna lawer o feirdd-wrth-eu-galwedigaeth i'w cael sy'n gwneud y math yna o beth a does dim enaid iddo fe."

Ydi swydd bardd y frenhines yn berthnasol erbyn heddiw?

"Na'di, sa i'n credu. Os oedd'na rywun eitha' radical, yna y gallen nhw wyrdroi'r peth. Ond fydden nhw ddim yn caniatau hynny nawr yn na fydden nhw?"

Rwy'n clywed fod y boi sy'n wrthi nawr yn eitha' radical - wel, o gymharu a Ted Hughes ta beth.

"le, wel falle fod hynny'n gam yn y cyfeiriad iawn. Ond wedi dweud hynny, wy'n credu fod pobol yn cael eu troi oddi wrtho fe. Sa i'n credu fod gan bobl unrhyw ddiddordeb yn yr hyn mae e'n sgrifennu amdano."

Freedom
without
responsibility

Beth sydd o flaen Patrick nawr?

"Wy’n gweithio ar ddrama newydd nawr ar gyfer yr hydref. Sa i'n gwybod a dweud y gwir, jyst mwy o sgr'rfennu mewn gwirionedd. Cael ychydig o seibiant. Felly, drama newydd yn y Sherman ac Everyfhing Must Go eto ym mis Mawrth y flwyddyn nesa'."

Rwyt ti'n cyhoeddi dy lyfrau dy hun. Wnei di gyhoeddi ar ran pobl eraill?

"Sa i'n credu 'mod i mewn sefyllfa i wneud hynny ar hyn o bryd. Wy'n cael rhywfaint o stwff hyfryd gan bob iau, stwff eitha' da, ond fe allai gostio lot o arian ac mae eisiau meddwl am y marchnata. Does dim amser gyda fi ar hyn o bryd. Ond un diwrnod, falle, ie."

Dyma'r cynta' o sioeau byw Patrick, gyda chefnogaeth band syn cynnwys gan fwya' aelodau o Derrero a Pink Assassin, sy' hefyd wedi ymddangos ar yr albwm. Rwy'n dweud wrth Patrick y byddwn i'n hoffi bod yn onest gyda fe a, heb fod eisiau'i fychanu e o gwbl, dweud 'mod i wedi meddwl, o glywed ei fod e'n rhyddhau CD o farddoniaeth i gefndir cerddoriaeth, fod yna botensial i'r peth fod yn wirioneddol erchyll. Nid oherwydd ei steil o farddoniaeth, ond achos nad ydych chi'n ystyried barddoniaeth fel rhywbeth a allai fod â cherddoriaeth yn y cefndir. Roedd hi'n bosib y byddai'n peth yn gwbl ddi-fflach, felly ro'n i wedi cadw gafael ar y CD am ychydig o wythnosau, yn meddwl bod angen i fi baratoi fy hun. Ond pan wnes i wrando arno o'r diwedd, ro'n i wedi fy syfrdanu. Do'n i erioed wedi meddwl fod gan Emma unrhyw ddiddordeb mewn barddoniaeth, ond pan wnes i chwarae'r CD iddi hi roedd e'n beth mawr ganddi. Os ydi e'n gallu cyffwrdd â phobl sy' ddim fel arfer â diddordeb mewn barddoniaeth, wedyn mae hynny'n dda yn tydi?

"Ydi," meddai Patrick, dan wenu. "Mae e, wy'n credu, am wneud barddoniaeth i beidio a bod yn farddoniaeth, mewn ffordd."

Mae ganddo fe bwynt. Mae e fel rap, ond gydag, angerdd, ac fe allwch chi ddeall y geiriau.

"Ro'n i wedi sgr'rfennu'r cwbl cyn eu gyrru nhw at y grwpiau, felly doedd y gerddoriaeth erioed gyda fi yn fy nghlust. Felly wnes i eu darllen nhw fel rwy'n darllen fy marddoniaeth, heb fod â churiad i'r peth o gwbl."

A fyddet ti fel rheol yn adrodd dy farddoniaeth gyda chymaint o angerdd ac o weiddi?

"Bydden, er heb gymaint o weiddi achos gyda'r gitars a phopeth mae'n rhaid i ti gystadlu weithiau. Ond wy’n ofalus i beidio a throi yn Henry Rollins! Ond angerddol, ie."

Mae yna lot o deimlad yna. Ro'n i'n dy wylio di ar y llwyfan, ac ar un llaw mae'na ferch yn y gornel yn heclo fel y diawl ac rwyt ti'n nerfus, mae yna ychydig o gryndod yn dy law ac mae gen ti'r olwg yma ar dy wyneb sy'n awgrymu dy fod ti'n cael trafferth cofio rhai o'r geiriau, ond o fewn hynny mae yna deimlad amlwg o faint wyt ti'n rhoi i'r peth, y ffordd rwyt ti wir yn credu yr hyn rwyt ti'n ei ddweud.

"Ie. Ond wy'n ei chael hi'n anodd i droi'r tudalennau! Wy'n ei chael hi'n anodd i roi cerddi cyfan ar gof - am ryw reswm alla i jyst ddim a gwneud hynny!"

Sut wnes ti ddewis y grwpiau sy'n cael eu defnyddio ar yr albwm?

"Oherwydd Greg Havers [cyd-berchennog Big Noise Recorders, a ryddhaodd y CD] wy'n credu. Fe ddywedodd e fod gydag e gysylltiadau gyda Catatonia, y Furries, pethau fel'na. Yn wreiddiol jyst James a lot o beiriannau drymiau oedd i fod. Ro'n i'n naif iawn - ro'n i'n meddwl y gallen i ei wneud e ar fy nghyllideb i fy hun, pethau fel'na ­ felly es i at Greg ac fe ddywedodd e ei fod e wedi crybwyll y syniad wrth bobl a'u bod nhw wedi dweud ei fod e'n swnio'n ddiddorol, a dyna sut y tyfodd e. Felly ychydig o lwc oedd y peth yn llwyr. Wy'n credu taw'r unig grwp a oedd yn rhy brysur oedd y Stereophonics, ond heblaw hynny fe ddywedodd pawb y bydden nhw’n rhoi cynnig arni. Fe wnaethon ni anfon rhywbeth at Anthony Hopkins, roedden ni eisiau iddo fe ddarllen cerdd, ond roedd e'n rhy brysur."

Mae'r gerddoriaeth yn gweddu'n llwyr i awyrgylch y farddoniaeth, yn tydi?

"Wel, ydi, wy'n credu hynny. Ond doedd y cylchgrawn Select ddim yn gweld y peth fel hynny, roedden nhw’n rhyw fath o feirniadu'r peth."

Dwyt ti ddim yn clywed y gerddoriaeth yn un glust a'r farddoniaeth yn y llall - rwyt ti'n clywed y peth fel un.

"Mae e'n beth, wy'n credu, sy ‘chydig yn wahanol, ydi. Mae'n broses gyffrous!'

A oeddet ti wedi dy blesio gyda'r canlyniad?

"O yn sicr, oeddwn. Roedd y peth bron â bod yn ormod i fi mewn gwirionedd, fod gen ti dy CD dy hun yn dy law ac mae pobl eisiau gwrando arno fe."

Desperation
to react from
the societally
induced
mind isolation

Pa mor llwyddiannus oedd drama Patrick, Everything Must Go?

"Fe werthon ni bob tocyn i wyth sioe allan o ugain, felly oedd, roedd e'n dda iawn."

Fydd y ddrama yn teithio?

"Ryn ni'n ail-agor yn y Sherman fis Mawrth nesa', yna yn y Lyric, Hammersmith, gobeithio-fe fydd hynny'n dda."

Wrth gwrs, mae pawb yn gwybod fod pedwerydd albwm y Manics wedi 'benthyg' ei deitl gan ddrama Patrick, ac mai brawd Patrick yw Nicky Wire. Oes yna unrhyw un yn cyhuddo Patrick o fanteisio ar enwogrwydd ei frawd?

"O oes, pawb!" meddai wrth chwerthin. "Ydw, wy'n credu fod y mwyafrif o bobl yn gwneud."

Ac rwyt ti, wrth reswm, yn dweud wrthyn nhw i fynd i grafu...

"Ydw, yn hollol! Wy' wedi bod yn sgrifennu ers o'n i'n 17 neu'n 18, mae hynny ddwy flynedd ar bymtheg yn ôl. Felly mae'n bandwagon hir os o'n i am fod ar y bandwagon! Maen nhw [y Manics] jyst yn ffrindiau ac yn bobl sy'n fy ysbrydoli i. Nick a James, Sean, Richey pan oedd e o gwmpas, felly mae e jyst yn albatros. Mae e'n helpu mewn rhai ffyrdd, fel bod yn yr NME falle o ganlyniad, ond wedi hynny mae wedi parhau ar ei haeddiant ei hun, ac os nad wyt ti'n ei hoffi fe mae hynny'n iawn."

Wanna catch a sunrise
wanna verse a scream

Oes gen ti hoff air?

Mae Patrick yn chwerthin yn uchel. 'Wy' yn hoffi fucking, ond dim ond fel ansoddair. Ha ha! Pan ydw i'n mynd i'r ysgol wy'n dweud, 'gewch chi ddefnyddio fucking ond dim ond fel ansoddair!' Ac rwyt ti'n eu gweld nhw’n meddwl,'Y'?' Ac rwy'n hoffi beautiful. Wy yn hoffi beautiful."

I am asleep,
my child awakens me

Mae Emma yn dod â'i chyffyrddiad bach o swrealaeth i'r cyfweliad. Mae hi'n gofyn i Patrick am beth mae e'n feddwl cyn breuddwydio.

"Cythrwfwl fel arfer!" mae e'n chwerthin. "Mae fy mreuddwydion i fel arfer yn llawn llais a chythrwfwl. Sa i byth yn cael breuddwydion braf! Wy'n cael y freuddwyd yma yn gyson fod'na rywun yn y stafell syn gofyn i fi wneud rhywbeth ac mae'n rhaid i fi ei wneud e - mae e'n beth seicolegol rhyfedd, timod? Mae hwnna wastad 'na. Sa i'n gwybod beth yw ystyr y peth - ac maen nhw wir yn y stafell - mae'n swreal iawn."

Mae'n rhaid ei bod hi'n rhyfedd iawn heno gyda'r holl bobl yma, rhai yn chwilio am lofnodion, eisiau cyfweliadau ac yn y blaen. Rwyt ti'n amlwg wedi gwneud llawer o gyfweliadau yn ddiweddar-oes yna rywbeth fyddet ti wedi hoffi cael dy holi yn ei gylch?

"Nac oes, ddim mewn gwirionedd. Wy' yn dymuno weithiau y byddai pobl yn canolbwyntio mwy ar destun y cerddi, neu beth yw perthynas hynny gyda llenyddiaeth? Neu beth mae'n ei ddweud am y byd? Mae pobl fel tasen nhw’n gadael hynny allan weithiau, ydyn. Fel pan wyt ti'n darllen llyfr da neu gasgliad da o gerddi, rwyt ti'n meddwl, nawr mae hynny'n dweud wrtha' i am y byd, am fy mywyd i, pethau fel'na, lle weithiau wy'n credu nad yw pobol ddim yn meddwl ei fod e. Fe ddywedodd y dramodydd Arthur Miller ei fod e'n sgrifennu dramau er mwyn gwneud i bobl deimlo yn llai unig. Wy'n dwlu ar hynny ac wy'n teimlo fod barddoniaeth yn gallu gwneud hynny. Felly os mai rantio am fyd y loteri yw e, os yw e'n gwneud i ni deimlo fel bod rhywun arall yn sgr'rfennu am hynny... weithiau mae'n ymchwil ysbrydol iawn. Ond wy'n gweld rhai pobl sy' ddim yn ei gweld hi felly."

Rwyt ti yn teimlo rhyw fath o… mae barddoniaeth yn cyfathrebu gyda ti. Rhaid i fi gyfadde' mai un o fy hoff feirdd yw Spike Milligan. Rwyt ti'n darllen yr hoff stwff sgrifennodd e yn ystod ei chwalfa ar y nerfau, y pethau am ecoleg - am fod yn chwech troedfedd o daldra ac yn dymchwl coeden can troedfedd er mwyn gwneud cadair fydd yn ei wneud e'n bedair troedfedd o daldra pan fydd e'n eistedd ami - ac rwyt ti'n gallu uniaethu ag e. Mae'n anhygoel i gael yr holl deimladau dwys yma a bod â'r gallu i gael pobl ar yr un donfedd â chi.

"Yn hollol. Dyna'r foment fwya' braf ohono fe, pan mae pobl yn dod atat ti a dweud, 'fe gyffyrddodd y gerdd yna â fi.' Dyna'r ochr ddynol ohono fe. Wy’n treulio dipyn o amser yn fy nghwmni i fy hun ac mae'n bellter mewn ffordd ond mae'n bellter lle ydw i'n teimlo'n agos, os ydi hynny'n gwneud unrhyw synnwyr."

Mae Commemoration and Amnesia allan nawr ar Big Noise Recordings.

 
     

© debs williams 2002, 2003
cyfiethiad gan kate crockett

[Get Fluent] [CMC t-shirts] [buy Welsh music] [where to start] [cheat sheets]
[how to learn] [Welsh lyrics] [teachers and courses] [ratw] [CMC news]
[short stories] [interviews] [features] [weblogs] [books] [papers and magazines]
[audio] [chat] [join the email list] [keep updated] [links] [who is Suw?]
[contact us] [help us] [give us money] [press room] [legal stuff] [thanks] [home]


Legal warning notice: The material on this site is protected by copyright laws. Use of this site is strictly subject to our current terms which may change from time to time. Please also read our privacy policy and security statement.