go back home!
Get Fluent CD-ROMs
CMC t-shirts
Welsh music
where to learn
cheat sheets
how to learn
Welsh song lyrics
teachers and courses
ratw
CMC news
short stories
interviews
features
weblogs
books
papers and magazines
audio
chat
join the CMC email list
keep updated
explore
links
who is Suw?
contact us
help us
give us money
press room
legal stuff
thanks!
     
 

Cwmni da

Mae Lleucu Meinir yn gyflwynwraig teledu ac mae hi'n gweithio ar raglennni fel Cwmni Hon a Hacio i S4C. Mi gafodd Suw Charman sgwrs bach gyda Lleucu am ddyfodol yr iaith, rhaglenni cerddoriaeth a'i swydd hi.

Alli di ddeud tipyn bach am dy gefndir? Beth roeddet ti'n gwneud cyn gweithio i Gwmni Hon?
Ers yn ifanc yn yr ysgol, roeddwn i wedi'n rhyfeddu gan gamerau stills a fideo. Ges i'n SLR cyntaf i yn 16 oed, a dwi erioed wedi edrych ‘nôl. Mae ffotograffiaeth yn un o mhrif ddiddordebau i. Roeddwn i wastad ar brofiad gwaith gyda chwmniau teledu anti i mi, ac roeddwn i'n dwli ar yr awyrgylch, y cydweithio a’r prydau bwyd oeddech chi'n eu cael pan yn ffilmio ar leoliad.

Ers y mod i'n 14oed 'wy 'di bod yn trefnu gigs i Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ceisio hybu'r sîn roc Gymraeg yng Nghymru. Ma' hyn wastad 'di bod yn bwysig iawn i mi. Ers yn ifanc iawn hefyd 'wy 'di bod yn gweithio i gwmni cyfanwerthu crefftau fy nhad yn teithio i Morocco, Tiwnisia, Bwlgaria, Twrci ac o gwmpas Cymru yn dewis a phrynnu crefftau.

Lleucu Meinir

Hefyd yn trefnu a'n gweithio ar stondinau crefftau o gwmpas Cymru, Lloegr, Iwerddon a'r Alban. Roedd pob gwyliau ysgol, coleg, a chyfnod o 6 mis ar ol coleg yn cael ei dreulio yn gwneud hyn. Gweithiais i Cymdeithas yr Iaith am flwyddyn hefyd, cyn ymuno a thim Cwmni Hon, yn trefnu cyfarfodydd, gigs a fideo promo ar eu cyfer.

Rydw i bob amser wedi bod yn weithredol iawn gyda Cymdeithas yr Iaith, mudiadau sy'n edrych ar ôl buddianau anifeiliaid a rhai fel Greenpeace a CND. Mae hi wastad 'di bod yn bwysig iawn imi drin eraill fel yr hoffwn i gael 'y nhrin (dydw i ddim bob amser yn llwyddo i gadw i hyn yn anffodus!).

Sut gest ti'r swydd gyda Cwmni Hon?
Tra'n feichiog roeddwn i'n gwneud dyddiadur fideo iddyn nhw - ddim yn dangos yr enedigaeth ei hun! A gofynais am yr hawl i wneud show reel bach i Boomerang. Gofynon nhw a fuase well gen i weithio iddyn nhw gan eu bod yn chwilio am ymchwilydd a newyddiadrydd fideo ar y rhaglen. Roeddwn i'n gweithio i Creu Cof, camni teledu analog y cynhyrchwyr cyn imi syrthio'n feichiog.

Sut mae dy wythnos nodweddiadol?
Sdim dal o wythnos i wythnos. Mae'n gawl potsh o ymchwilio, is-gynhyrchu, cyfarwyddo eitemau camera sengl ar leoliad, cyfarwyddo rhaglenni aml gamera gydag uned OBE - fel uned olygu a chyfarwyddo ar olwynion - a chyflwyno wrth gwrs. Weithiau rydw i'n gwneud y gwaith camera fy hun, a'n gwerthu'r rhaglenni i'r wasg hefyd. Dyna beth rwy'n ei fwynhau fwyaf am y gwaith - y gwahaniaethau.

Wyt ti'n mwynhau dy swydd?
Rwy'n dwli ar y swydd. Ond, hoffen i ganolbwyntio ar gyfarwyddo o hyn ymlaen, ‘falle ychydig o gyflwyno hefyd. Ond, mae'n bendant yn well gen i fod mas o'r swyddfa!

Ydy darlledu Cymreig mewn iechyd da ar hyn o bryd?
Y we yw'r dyfodol. Ac unwaith y bydd y dechnoleg ar gael, mae HON yn gobeithio dechrau sianel Gymraeg neu Chymreig ar y we yn targedu cynulleidfaoed mas o Gymru yn ogystal â'r Cymry eu hunain.

Ydy teledu Cymreig wedi gwella gyda'r cyrhaeddiad o S4C Digidol?
Mae e 'di bod yn gyfle i hyfforddi lot o dalent newydd, trio mathau gwahanol o raglenni i gynulleidfaoedd targed gwahanol, e.e. Cwmni Hon. Ond, nawr bod y nifer o wylwyr yn datblygu mae'r sianel newydd yn mynd yn fwy saff eto. Yn anffodus bydd Cwmni Hon yn dod i ben ddiwedd y flwyddyn gan orffen unrhyw hybu gan S4C i sicrhau diwydiant teledu cryf yng nghanolbarth Cymru a rhaglenni a blas gwahanol i fenywod!

Pe hoffai rhywun gael swydd mewn darlledu, beth dylen nhw wneud?
Ceisio cael profiad gwaith tra'n yr ysgol a'r coleg, ymddangos yn frwdfrydig, cael gwaith fel ymchwilydd neu redwr i ddechrau a sicrhau eich bod yn mynd fewn i'r maes am y rhesymau cywir.

Dw i'n meddwl bod rhaid ini gael mwy o raglenni ieuenctid, fel Bandit a Bicini. Wyt ti'n cytuno?
Mae'n bendant angen mwy o raglenni i'r ifanc ar S4C, ond nid dim ond rhaglenni sy' jest yn ysgafn, neu jest yn wleidyddol. Mae angen dangos gwreiddioldeb wrth gomishynnu rhaglenni sy'n delio â diddordebau'r ifanc mewn ffordd mwy crwn, e.e. wrth gael rhaglenni am fandiau eich bod yn cael cyfle i wybod mwy amdanyn nhw ag i siarad a nhw yn hirach am bethau diddorol, fel oedd Fideo 9 yn arfer gwneud. Hefyd mae angen rhywbeth fel i-dot yn gyson ar ein teledu yn hytrach na thaflu briwsion bob yn hyn a hyn.

A dw i eisiau gweld mwy i ddysgwyr ar y teledu. Beth wyt ti'n meddwl?
Mae'n bendant angen mwy o gyfle yn gymdeithasol a thrwy'r cyfryngau i ddysgwyr gael ymarfer clywed a siarad yr iaith.

Ydy S4C Digidol yn helpu'r iaith?
O ran yr ifanc mae angen mwy o bethau ffres, newydd yn y cyfryngau'n gyffredinol i wneud yr iaith yn ran angenrheidiol o ddiwylliant, i wneud i bobl eisiau bod yn rhan ohono ac nid i'w weld ond fel pwnc diflas yn yr ysgol.

Ddylai S4C daearol yn dangos mwy o raglenni yn y Gymraeg?
Sdim dyfodol i S4C analog, dylswn ni droi ein hegni tuag at y we ag i drio sicrhau radio a deunydd darllen mwy perthnasol i'r ifanc ac i Gymry'n gyffredinol.

 
     

© suw charman 2002, 2003 unless otherwise stated

[Get Fluent] [CMC t-shirts] [buy Welsh music] [where to start] [cheat sheets]
[how to learn] [Welsh lyrics] [teachers and courses] [ratw] [CMC news]
[short stories] [interviews] [features] [weblogs] [books] [papers and magazines]
[audio] [chat] [join the email list] [keep updated] [links] [who is Suw?]
[contact us] [help us] [give us money] [press room] [legal stuff] [thanks] [home]


Legal warning notice: The material on this site is protected by copyright laws. Use of this site is strictly subject to our current terms which may change from time to time. Please also read our privacy policy and security statement.