go back home!
Get Fluent CD-ROMs
CMC t-shirts
Welsh music
where to learn
cheat sheets
how to learn
Welsh song lyrics
teachers and courses
ratw
CMC news
short stories
interviews
features
weblogs
books
papers and magazines
audio
chat
join the CMC email list
keep updated
explore
links
who is Suw?
contact us
help us
give us money
press room
legal stuff
thanks!
     
 

Pete Fowler - arlunydd, bwystfilwr a rhyngwladwr

Meddyliwch, os wnewch chi, am soffa oren wedi ei osod yn anghydweddol ar y traeth ar anial o ynys. Mae palmwydd yn siglo yn addfwyn yn ar awel, mae cymylau gwlân cotwm pinc yn sgwlio drwy'r awyr clir, mae mab Radiator (hanner anifail, hanner CD player) yn dod â diodydd draw i ddyn tenau'n gwisgo het oren sy'n cysgodi'n hollol llygaid sydd eisioes wedi eu cuddio tu ôl sbectol, a merch gyda gwallt dy sy'n sigriblio nodiadau yn ddiwyd wrth i'r ddau siarad. Mae bwystfilod gyda llygad Cyclops a chwe coes yn ffwdanu yn y cefndir, o dro i dro yn blincio eu amrant fawr dros llygaid lliw castan.

"Felly, Pete," mae'r ferch dweud, "Mae gen ti le neis yma. Nest ti e dy hunan?"

Wrth gwrs, "ie" fyddai'r ateb - mae arddull Pete Fowler yn adnabyddol, nid dim ond oherwydd y bwystfilod, ond hefyd oherwydd y synnwyr o fywiogrwydd, yn gymysg gyda tan-dônau tywyll, sy'n treiddio llawer o ei gelfyddyd e. Mewn gwirionedd, naethon ni'r cyfweliad trwy ebostiau, cwrdd yn y di-ofod od a yw'r rhyngrwyd, ble allai Pete fod, am wn i, mewn gwirionedd yn ateb gyda'i laptop, tra'n eistedd ar soffa oren fawr ar anial o ynys.

Pete Fowler


Yn wrieddiol o Gaerdydd, astudiodd Pete celfyddyd gain yn Falmouth, ond mae'n herc hir o fan'cw i fod yn arlunydd enwog, fasnachol lwyddiannus.

"Wedi ymadael colleg, roeddwn i'n ddadrithiedig gyda gwaith yn seiliedig ar orielau a'r cystadleuaeth ffyrnig o fod arlunydd," mae'n esbonio, "felly, ynghyd â dau ffrind, dechres i gyhoeddi comic fy hunan o'r enw Slouch. O'r comic 'ma, daeth y diddordeb yn ein gweithiau a wnaeth o'r diwedd fy arwain i i Llundain i ddechrau gyrfa fel arlunydd ar ei liwt ei hun/darlunwr/gwn-am-gyflog.

"Dw i'n meddwl bod gweithio ar y comic wedi bod yn drobwynt i mi, oherwydd roedd y dylanwadau yn fy ngwaith celf ar y pryd yn ddelweddau comic gan fwyaf felly cysylltodd bobpeth, a daeth y syniad o fod yn gallu cynhyrchu delweddau yn fasnachol, yn hytrach na mewn gofod gwyn fel oriel."

 

On the beach Ydy gweithio yn fasnachol yn eich cyfyngu ychydig, i gymharu a'r ffordd mwy 'ffrwd-o-ymwybyddiaeth' pan yn gweithio i foddhau eich hun un unig?

"Mae'n dibynnu ar beth dw i'n gwneud ar y pryd," medde Pete. "Mae rhai cyfryngau yn addas at ddull ffurf rhydd, tra bod eraill yn gofyn am fwy o gynllunio a strategi. Os na 'dw i'n gweithio ar gynllun i gleient, mae fy arlunio'n gweithio orau pan mae fy meddwl yn rhedeg ei hun.

"Ar hyn o bryd, dw i'n tueddu gwneud popeth 2D ar y cyfrifiadur, yn defnyddio Adobe Illustrator, Streamline a Photoshop, er, fel arfer bydda i'n sganio delwedd o waith llaw i'r cyfrifiadur a bydda i'n gweithio oddi ar hynny. Dw i'n hapus yn defnyddio cyfrifiadur a technoleg yn gyffredinol, ond mae e'n rhoi'r ofn i mi pan maen nhw'n mynd o chwith, a ti'n sylwaeddoli faint mae dy fywyd yn chwyldroi o'u cwmpas."

 

Wrth edrych ar waith Pete, mae'n eglur fod dylanwad cryf Tsiapanïaidd ac, yn wir, mae e wedi cael ei gamadnabod fel arlunydd Tsiapanïaidd, rhwybeth sy'n ei foddhau.

"S'dim ots pa genedligrwydd mae pobl yn meddwl dw i," medde fe. "Mae'r byd yn lleihau a dych chi'n agor i'r cyfan ohono, os dych chi eisiau, felly dw i'n meddwl ei fod e'n ddiddorol os yw pobl yn meddwl ei fod Pete Fowler o Rumney, Caerdydd yn dod o Asia. Dw i'n hoffi bod yn ryngwladol.

"Roeddwn i'n arfer defnyddio delweddaeth Tsiapanïaidd yn fy ngwaith, llai nawr, ac dw i'n meddwl fod e'n hawdd am pobl Tsiapanïaidd ei hoffi, oherwydd mae'n cynnwys iconau a cyfeirebau cynefin, ond beth sy'n fwy diddorol iddyn nhw yw pam dewises i'r delweddau neu arddulliau 'na, a beth byddan nhw yn newid iddo wedi i mi eu cynnwys yn fy ngwaith. Mae'n annodd i dweud yn union pam dw i wedi cael fy nylanwadu gan ddiwylliant Tsiapanïaidd, dw i'n ceisio deall hynny fy hunan."

 

    Pete on the beach

Llynedd, arddangosodd Pete ei waith am y tro cyntaf yng Nghymry, yn ei dref cartref o Gaerdydd. Roedd e'n cynnwys lluniau, bwrddau sglefrio, modelau 3D, arluniau a gorchuddion CDs.

"Aeth e'n dda iawn. Yn wir, nes i ddim rhagweld yr ymateb cafodd e," esbonia Pete, gan ddangos syndod. "Fy agwedd at y safle oedd i'w wneud e'n rhywlle gallet ti dod a lladd amser, edrych ar y darnau o gelf a gwrando i gerddoriaeth. Nid fel oriel arferol sy'n gallu bod ychydig yn antiseptig. Roedd pobl yn sglefrio burdd, DJo yn ystod eu brêc cinio, a sesiynau dawns defod."


Wedi'r ffyniant o sioeau llynedd, mae e'n cynllunio arddangosfeydd ychwamegol am y flwyddyn 'ma.

"A hyn o bryd, dw i'n gweithio ar sioe yn Tokyo, wedi ei drefnu am fis Gorffenaf, ac un arall i ddilyn yn Llundain yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Yn ogystal, dw i'n mynd i roi ychydig o ddarniau newydd yn y siop dillad, Drooghi, yn fuan felly edrychwch allan am y rheina os dych chi'n yng Nghaerdydd!"

 

Ond, dydy Pete ddim yn un i gyfngu ei hunan i un cloer neilltuol, felly er fod ei sioeau wedi bod yn llwyddiannus, mae e'n edrych am syniadau newydd bob amser.

"Ar hyn o bryd, dw i'n cynllunio amred bach o wrthrychau a fydd ar gael yn 2001. Byddan nhw'n wedi eu wneuthiro gyda hud a lledrith i sicrhau fod y cwsmer yn cael yr eithaf mewn ansawdd a bodlonrwydd," mae e'n gwneud sbort am eiliad, cyn troi'n difrifol eto.

"Yn ogystal, dw i'n ymwneud gyda cwmni dillad yn Japan o'r enw Satan Arbeit, a dw i'n gweithio ar amred o ddillad a bagiau ar werth yn Tsiapan a, gobeithio, ynm Mhrydain. Rhwng gorchwylion eraill mae'n gweithio ar gêm newydd o'r enw Cerx, safleoedd gwe, gwaith arlunio a animeiddio."

 

Wrth gwrs, mae Pete Fowler yn enwog am ei waith gyda'r Super Furry Animals. Nid ers i Peter Saville gymeryd cyfrifoldeb am y gwaith celf ar Joy Division a New Order, ar Factory Records, y mae un arlunydd wedi cael cysylltiad mor gryf gyda band, ond â yw'r Bwystfilwr yn meddwl y gall ei unigolrwydd fel arlunydd cael ei golli oherwydd y cyswllt rhwng ei hunan a'r Furries?

"Na, dw i'n falch fod pobl yn gweld fy nghelfyddyd fel delwedd o'r band, ac dw i'n f'adnabod am hynny. Dw i ddim yn poeni am gysylltiad neu unigolrwydd, dw i dim ond eisiau cario 'mlaen gyda'r gwaith."

 

Daeth y partneriaeth i fod pan welodd Gruff peth o gelfyddyd Pete yn Atolwg, papur Cymreig am ddim, ac roedd wedi ei gymeryd ar unwaith. Cysylltodd Creation Records a Pete, cwrddodd e gyda'r band, a daethon nhw'n ffrindiau da wrth i'r gwaith symyd ymlaen.
They're coming!

"Roedd e wedi bod ffordd organig o weithio yn wir," medd Pete, "wrth i mi nabod y band yn well, mae'r cunlluniau a syniadau wedi dod yn fwy diddorol a dan ni'n gweithio'n eitha agos - mae'r band yn gweld bron pob cyfnod o'r cynllun ac maen nhw'n cael llawer o fewnbwt.

"Ar Radiator nes i'r gwaith cynllunio gyda Creation Records ac wedi hynny, dodon ni'r peth da'i gilydd, tan y cyfnod cyn-brint, gyda'r tîm cynllunio o'r tu allan. Yn fwy diweddar, dw i wedi bod gweithio'n eitha agos gyda Mark James (aka Mushi) ar syniadau, lluneddau a cysyniadau ar y rhyddhad o Mwng."

 

Gyda Guerrilla, roedd Pete yn gallu awyru rhai o'i fodelau, naeth defnyddio "amrywiaeth o ddefnyddiau, yn cynnwys Fimo, Milliput, Super Sculpey, ewyn datblygol a llenwr curff car" a oedd e wedi bod gwneud yn dawel am rhai blynyddoedd. Ond, pam dewis Guerrilla i newid o 2D i 3D?

"Roedd y band eisiau rhywbeth gwahanol wedi Radiator, felly awgrymes i ddefnyddio 3D ynghyd â delweddaeth gan gyfrifiadur a ffotograffiau. Roeddwn bob amser yn meddwl o fy ngwaith 3D fel fy arf cudd a penderfynes i ei fod yr amser cywir i'w ddefnyddio wedi dod."

 

Dros amser, mae Pete wedi ymwneud mwy gyda allbwn gweledol y band ac mae'r fideos am Fire In My Heart a Do Or Die wedi rhoi i Pete y cyfle i fforio ei nwyd o'r ddwledd symudol.

"Roedd y cymeriadau defnyddiod SFA ar grysau ag ati, yn troi mewn i gostiymau [am Fire In My Heart] a goruchwyliais rhai o'r agweddau gwelodol. Dw i'n meddwl taw fy nheitl ar bapur oedd Ymgynghorwr Creadigol! Ac nes i peth o'r llong ofod, y drws ac yn y blaen - roedd hynny yn hwyl!"

"Roedden ni'n lwcus i weithio gyda tîm da ar y fideo Do or Die. Byddai fe'n fendigedig i weithio mewn animeiddio ond mae e'n gostus iawn ac cymryd gormod o amser i wneud ar promo. Baswn i'n caru gwneud mwy o stwff yn y cyfeiriad 'na."

 

Wrth ddychwel i'r testun o gelf gochudd, â ydy'r cerddoriaeth yn dylanwadu'r celf mewn unrhyw fodd?

"Nes i beth gwaith i Radiator heb wrando ar yr LP yn hollol," medde Pete, "ond ers hynny dw i'n cael y gerddoriaeth cyn dechrau arlunio."

Felly, beth ydy meddyliau Pete ar yr albwm llwyddiannus ty hwnt, Mwng?

"Dw i'n hoffi e lots, efalli taw hwn yw fy hoff LP gan y band hyd yma. Cymraeg neu beidio, dw i'n meddwl ei fod yn albwm bendigedig a mae pobl wedi pigo i fyny ar hynny."

 

Gellir gweld dilyniant clir trwy waith celf albwmau SFA, gyda pob un albwm ychydig yn wahanol i'r diwetha, gyda'r celf yn ffitio cymeriad y gerddoriaeth yn brydferth. Gyda Mwng, datblygodd Pete delweddaeth SFA eto, ond y tro yma mae e'n mewn cyfeiriad mwy 'minimalist'. Tra roedd Guerrilla yn fater cynhyrchiedig, haenus iawn, mae prydferthwch Mwng yn ei symldod, yn y 'rawness' ac ardrawiad emosiynol y caneuon. Fel hyn, mae'n gywir fod y cynllun ar Mwng yn llawer fwy syml nac ar Guerrilla.

"Roedd y syniad syml yn fwriadol," mae Pete yn manylu. "Roedden i eisiau cael llawes yn ddramatig wahanol o'r rhai cynt a fy syniad i oedd y mwng, eitha llythrennol pan ti'n gwybod y cyfieithiad Saesneg!"

 

Dw i'n esbonio i Pete bod, ar y rhestr ebost SFA, llawer o bobl yn chwilfrydig am y 'defnyddiad' o fewniad y CD mewn 'papur gwrthsiam' a roedd dyfaliad hefyd ei fod yn rhyw fath o dransfer neu effalli rhywbeth dodi yn y ffwrn a culhau (fel y pecynau creision o flynyddoedd yn ol)...

"Mae e'n ardderchog fod pobl yn disgwyl rhyw fath o "interactivity" gyda'r llawes. Efalli bod defnyddiadau arall iddo? Am wn i, dim ond mewniad yw e! Ac un neis hefyd, dan ni'n meddwl, serch hynny dw i'n hoffi'r syniad o lun culhau!"

 

Wrth i'r haul fachlud i'r môr, yn castio tywyn coch tanllyd dros ein anial o ynys, y bwystfilod yn ymddangos yn iasol yn y cyfnos, dw i'n ffeindio fy hunan yn chwilfrydig am rhywbeth sylwes i ychydig yn ôl. Mae e'n syniad dw i ddim yn gallu ysgwyd, dim gwahaniaeth pa mor galed dw i'n ceisio neu pa mor hir dw i'n llygadrythu ar rhai o fwystfilod Pete. Mae'r rhai sy'n gwisgo kagools, yn ymddangos yn drwgdybus adnabyddol.

"Mae unrhyw debygrwydd i bersonau byw neu marw yn hollol gyd-ddigwiddiad," mae Pete yn gwadu, "ac mewn dim ffordd yn ddarluniad o'r personau ychod."

Rhywsut, dros yr ether, dw i'n synhwyro glaschwerthin.

 

Visit Pete Fowler at Fowlerism.net!

 

all imagery © Pete Fowler, 2000, 2001, 2003
used with permission

     

© suw charman 2002, 2003 unless otherwise stated

[Get Fluent] [CMC t-shirts] [buy Welsh music] [where to start] [cheat sheets]
[how to learn] [Welsh lyrics] [teachers and courses] [ratw] [CMC news]
[short stories] [interviews] [features] [weblogs] [books] [papers and magazines]
[audio] [chat] [join the email list] [keep updated] [links] [who is Suw?]
[contact us] [help us] [give us money] [press room] [legal stuff] [thanks] [home]


Legal warning notice: The material on this site is protected by copyright laws. Use of this site is strictly subject to our current terms which may change from time to time. Please also read our privacy policy and security statement.