|
Daeth yr alwad ffôn yn gwbl annisgwyl. Roeddwn i ar
fin gwneud fy hun yn gysurus yn fy nghadair freichiau efo potel
o win da a llyfr cyffrous. Dw i ddim yn mynd allan yn aml ers
marwolaeth Daisy. Doeddwn i ddim yn siwr beth iw feddwl
pan glywais i lais fy hen gariad, ar ôl cymaint o flynyddoedd.
Roeddwn i heb weld Greta ers ein dyddiau prifysgol a doeddwn
i ddim yn siwr os oeddwn i eisiau ei gweld hi eto chwaith
roedd yr atgof am ein cyfarfod olaf yn dal i frifo. Ond mynnodd
hi i ni gyfarfod ac roedd na dinc chwareus yn ei llais.
A oedd hin bwriadu ceisio aildanion carwriaeth ni?
Gofynnais sut oedd John, ei gw^r, ond ddywedodd hi ddim byd.
Yn y diwedd cytunais iw chyfarfod mewn gwesty lleol wythnos
yn ddiweddarach, fy mhen-blwydd yn bumdeg oed fel y digwyddai
fod . |
|
|
yr awdur, Lynn Phillips
|
|
Wel, maer noson fawr wedi cyrraedd a dyna fi rw^an yn llynci
fy nhrydydd G&T ym mar y Ddraig Goch ac yn dechrau
difaru dod heno. Cynheuaf sigarét arall a thaflu cipolwg
ar fy watsh: hanner awr wedi wyth. Mae hin hwyr, yn union
fel yr hen ddyddiau. Dw in teimlon wirion hanner
can mlwydd oed a mor nerfus â phlentyn ysgol.
Or diwedd dyna hi yr un gwallt hir, yr un llygaid
disglair. Ond mae fy ngobeithion yn suddon syth. Dyna John
efo hi a tu ôl iddo fo, criw o bobl eraill myfyrwyr
a oedd efo ni yn y brifysgol. Wrth gwrs, y lembo , mae Greta wedi
trefnu parti syrpreis i mi ar gyfer fy mhen-blwydd!
Mae pawb yn casglu om cwmpas a dw in cuddio fy siom
ymysg llongyfarchiadau pawb. Ond mae Gretan fy nhynnu fi un
ochr er mwyn cyflwyno merch ddeniadol i mi: "Dyma Mary, ffrind
i mi sy newydd symud i fyw yn dy ardal di. A dw in meddwl
eich bod chin gwneud cwpwl perffaith. Mary, dyma fy hen ffrind
prifysgol, Clarissa".
aduniad - reunion
mynnu – to insist
tinc chwareus – playful ting
aildanio – to rekindle
fel y digwyddai fod – as it happened
cynnau – to light (cyneuaf i – I light)
taflu cipolwg – to glance
lembo - twit
[intro]
[beirniadaeth]
|
|