|
|
Gwynfor Evans
Gwynfor Evans yn ddiddadl yw Cymro mwyaf yr ugeinfed ganrif.
Mewn gyrfa wleidyddol hir ac unplyg - ef oedd llywydd Plaid
Cymru o 1945 hyd 1981 - fe drodd Plaid Cymru o fod yn blaid
fach i fod yn rym allweddol yn hanes Cymru. Ef ei hun
oedd y dylanwad unigol mwyaf y tu ôl ir symudiad
at ddatganoli ac at ffurfio Cynulliad Cymreig. Wedi graddio
yn y gyfraith bu am gyfnod yn arddwr masnachol cyn y gallodd
- wedi buddugoliaeth ddramatig Caerfyrddin ym 1966 - droi at
wleidyddiaeth fel gyrfa. |
Cyhoeddodd ddeg o lyfrau gan gynnwys Aros Mae, ei gyfrol o hanes Cymru,
gan ennill doethuriaeth Prifysgol Cymru am hynny. Yn dad i saith o
blant, dwywaith cymaint â hynny o wyrion a dwy orwyres fach,
y maen byw gydai wraig, Rhiannon, ym Mhencarreg yn Sir
Gaerfyrddin.
Marian Delyth
Mae Marian Delyth yn ddylunydd a ffotograffydd adnabyddus y
gwelir ei gwaith ar rychwant eang o gyhoeddiadau. wedi magwraeth
yn Aberystwyth, aeth i Goleg Celf Casnewydd i ennill gradd dosbarth
cyntaf mewn dylunio graffig ac yna i Birmingham i ennill gradd
uwch mewn ffotograffiaeth. Wedi cyfnod ym myn hysbysebu, yn
darlithio, ac yn gweithio yn y Cyngor Llyfrau, fe lansiodd yrfa
ar ei liwt ei hun gan dyfun ffigwr dylanwadol ym myd celf
yng Nghymru. Roedd yn un o sylfaenwyr cymdeithas Gweled ar
Ffotogallery yng Nghaerdydd. |
|
Enillodd lu o wobrau am ei gwaith, gan gynnwys Gwobr Tir na n-Og.
Maen byw ym Mlaenplwyf, ble maen mwynhau garddio a magu
ieir.
|
|