Mae llyfr newydd
a gyhoeddir gan wasg Y Lolfa yn esbonio enwau lleoedd mewn
ffordd syml, hyd yn oed i bobl sydd heb brofiad blaenorol
or iaith. Mae llawer o bobl, yn enwedig ymwelwyr, yn
cael trafferth wrth geisio ynganur iaith Gymraeg ond
gydar gyfrol Welsh Place-names unzipped mae Brian Davies
wedi ysgrifennu llyfr sydd yn esbonio ystyron ac ynganiadau
enwau lleoedd Cymraeg yn y modd symlaf posibl.
Ynghyd â
helpu pobl i ddeall ystyr enwau miloedd o bentrefi, trefi
a dinasoedd, dylair llyfr helpu pobl i ddysgu llawer
o sylfeinir iaith, drwy ddefnyddior Rhestr Arbennig
o Eiriau Cymraeg sydd yn y llyfr. Yn ôl Lefi Gruffudd
or Lolfa: "Er nad ywr rhestr yn esbonio pob
enw lle yng Nghymru, maen cynnwys y rhan fwyaf, a thrwy
ddefnyddior rhestr bydd modd i bobl ddehongli hyd yn
oed yr enwau hiraf ac anoddaf, fel Machynlleth a Llansainffraidglynceiriog.
Maer llyfr hefyd yn gymorth i ynganu, ac maen
esbonion syml a chlir y treigliadau Cymraeg."
Maer awdur
Brian Davies wedi bod â diddordeb mewn enwau lleoedd
Cymraeg ers ei blentyndod: "Roedd fy nhad yn cymryd pleser
mewn esbonio ystyron enwau, ai ddehongliad ai
gyfieithiad o ystyr Cwmrhydyceirw dros hanner canrif yn ôl
a ddechreuodd fy niddordeb mewn ystyr enwau lleoedd."
Maer llyfr
yn cynnwys rhan ar y wyddor Gymraeg, Hanes Cymru, treigliadau,
ynganiadau ynghyd â rhestr sylweddol o eiriau Cymraeg.
Maer llyfr yn rhan or gyfres Its Wales sydd
yn ceisio cyflwyno gwahanol agweddau o fywyd Cymreig mewn
ffordd syml a darllenadwy. Cafodd yr awdur Brian Davies ei
eni yn Glais yng Nghwm Tawe. Mae wedi cael gyrfa fel athro
a darlithydd Ffiseg, ac mi fun Gyfarwyddwr Addysg a
Materion Cyhoeddus yn y Sefydliad Ffisegol.
Welsh Place-names
Unzipped
Brian Davies
Its Wales, 7
086243 514 5
£3.95
|