go back home!
Get Fluent CD-ROMs
CMC t-shirts
Welsh music
where to learn
cheat sheets
how to learn
Welsh song lyrics
teachers and courses
ratw
CMC news
short stories
interviews
features
weblogs
books
papers and magazines
audio
chat
join the CMC email list
keep updated
explore
links
who is Suw?
contact us
help us
give us money
press room
legal stuff
thanks!
     
 

ffafrio chwaraeon mewn llyfr am arwyr Cymru

Mewn llyfr newydd ar arwyr Cymru mae'n ymddangos fod yr awdur Alun Roberts wedi ffafrio arwyr o'r byd chwaraeon dros arwyr o feysydd eraill. Mae'r llyfr Welsh National Heroes yn cynnwys crynodeb o fywydau a chyfraniadau pennaf y Cymry amlycaf erioed. Er fod y llyfr yn cynnwys nifer o arwyr amlwg o wahanol feysydd fel Dewi Sant, Owain Glyndwr, yr Esgob William Morgan a Dafydd ap Gwilym mae rhan fwyaf o arwyr yr ugeinfed ganrif yn dod o'r bod chwaraeon.

Mae'r awdur a'r hanesydd Alun Roberts yn amddiffyn ei ddewis: "Dwi'n meddwl fod y llyfr yn adlewyrchu obsesiwn y Cymry â chwaraeon yn yr ugeinfed ganrif. Efallai mai pregethwyr oedd yr arwyr yn y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ond dwi'n meddwl fod natur yr arwyr yn newid gyda'r oes."

Mae’n siwr bydd y llyfr yn arwain at drafodaeth, gyda amryw mae'n debyg yn synnu o weld nad yw, ymhlith eraill, Dr William Price, Arglwydd Tonypandi, Kate Roberts, Barry John a Gareth Edwards wedi'w cynnwys.

Dywedodd Alun Roberts: "Dwi'n cydnabod mai dewis personol yw hwn ac efallai ei fod yn adlewyrchu fy niddordebau a fy rhagfarnau. O ran yr arwyr rygbi rhaid cofio fod Gareth Edwards a Barry John wedi'w cynnwys mewn llyfr am Arwyr Rygbi a gyhoeddwyd gan Y Lolfa yn ddiweddar."

Beth bynnag am y dadlau am bwy sydd fewn a phwy sydd mas mae Welsh National Heroes yn lyfr ysgafn a difyr sydd hefyd yn addysgol, ac mae'n siwr o ddiddori pobl y pethe ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Welsh National Heroes
Alun Roberts
ISBN: 086243 610 9
Y Lolfa
£4.95

 
     

© suw charman 2002, 2003 unless otherwise stated

[Get Fluent] [CMC t-shirts] [buy Welsh music] [where to start] [cheat sheets]
[how to learn] [Welsh lyrics] [teachers and courses] [ratw] [CMC news]
[short stories] [interviews] [features] [weblogs] [books] [papers and magazines]
[audio] [chat] [join the email list] [keep updated] [links] [who is Suw?]
[contact us] [help us] [give us money] [press room] [legal stuff] [thanks] [home]


Legal warning notice: The material on this site is protected by copyright laws. Use of this site is strictly subject to our current terms which may change from time to time. Please also read our privacy policy and security statement.