Mae'r Lolfa ar fin cyhoeddi argraffiad newydd o'r llyfr The
Lakes of North Wales gan Jonah Jones. Mae'r fersiwn wreiddiol
o'r arweinlyfr a gyhoeddwyd gan Wildwood House ac yn ddiweddarach
gan Whittet Books Ltd wedi bod allan o brint ers blynyddoedd.
Mae'r gyfrol yn cynnwys nifer o ddarluniau a ffotograffau
gan yr awdur, yn ogystal â mapiau bras a chyfeiriadau
at rifau OS ar gyfer cerddwyr sydd am ddefnyddio map gyda'r
llyfr ac mae'r argraffiad diwygiedig yma, sydd wedi'w ailddylunio
yn llwyr, yn cynnwys nifer o luniau newydd. Fodd bynnag uchafbwynt
y llyfr yw sylwadau craff yr awdur am y llynnoedd a thirlun
Eryri. Mae'n crynhoi'r wybodaeth a'r atgofion a gasglodd wrth
gerdded ac astudio'r ardal am dros ddeugain mlynedd.
|
|
Yn ogystal â disgrifiadau o olwg ffisegol y llynnoedd mae'n
sôn am eu hanes, eu defnydd, y bywyd gwyllt ac yn aml cyfeiria
at hanesion, barddoniaeth neu lenyddiaeth sy'n gysylltiedig â
hwy. Dywedodd:
"Er bod y llyfr ar gyfer cerddwyr yn bennaf dwi'n siwr fod
gan y llynnoedd mawreddog yma hefyd apêl arbennig i ddaearegwyr,
botanegwyr, naturiaethwyr, haneswyr a hyd yn oed peirianwyr - o
gofio fod dyn wedi ymyrryd ar ac wedi creu nifer o'r llynnoedd."
Mae Jonah Jones yn fwy enwog i'r rhelyw fel cerflunydd a pheintiwr.
Mae arddangosfa o dros 50 o'i beintiadau newydd gloi yn Neuadd Dewi
Sant Caerdydd. Ymhlith ei weithiau mwyaf cofiadwy mae'i bortreadau
efydd o John Cowper Powys, Bertrand Russell a Syr Clough Williams-Ellis
a'r meini coffa i David Lloyd George a Dylan Thomas yn Abaty Westminster.
Er iddo dreulio dros ddeugain mlynedd o'i fywyd ym Mhorthmadog mae
Jonah Jones bellach wedi ymgartrefi yng Nghaerdydd.
Bydd The Lakes of North Wales ar werth mewn siopau llyfrau a chrefftau
trwy Gymru neu gellir ei archebu ar wefan Y
Lolfa.
The Lakes of North Wales
Jonah Jones
ISBN: 0 86243 626 5
Y Lolfa
£7.95
|