Mae cyhoeddwyr llyfr
newydd Gruffydd Meredith wedi mynd ati i mewn ffordd wahanol i geisio
annog pobl ifanc i brynu llyfr Cymraeg. Ar ôl trio gwahanol
ddulliau eraill, er enghraifft gwerthu llyfrau mewn tafarndai, mae
gwasg Y Lolfa yn cynnig copi o CD gan MC Mabon am ddim gyda phob
copi or llyfr Dyddiadur Alci Hypocondriac. Yn ôl Garmon
Gruffudd o wasg Y Lolfa:
"Gan fod Gruffydd
Meredith yn fwy enwog fel canwr rap nag fel awdur o nin meddwl
y bydde fen ffordd dda o gael pobl i brynu ei lyfr. Y syniad
yw fod y darllennydd yn rhoir CM ymlaen wrth ddarllen y llyfr,
ac os ydyn nhw am fwynhaur profiad celfyddydol ir eithaf
dyle nhw hefyd yfed chwech can o Stella yr un pryd."
Maer llyfr syn
gofnod o fywyd diogyn syn crwydro o fed-sit i fed-sit ac o
glefyd i glefyd hefyd yn cynnwys dwsinnau o ffotograffau du a gwyn
a thoriadau papur newydd bisar syn ychwanegu at naws y llyfr.
Maer awdur yn ogsystal â disgrifio uffern bywyd bedsit
yn athronyddu ar fywyd yn ei ffordd amharchus ei hun, er enghraifft:
"Pam ffyc bod hen
bobl yn codi more gynnary er mwyn neud bygyr ôl trwy'r dydd
tra gallen nhw gysgu tan ddau y pnawn ac yne gwylio'r teli, cymryd
drygs ac yfed llwythi o alcohol a chael eu harestio gyda'r nos."
Maer CD syn
dod am ddim gydar llyfr yn unigryw gan mai hon ywr CD
gyntaf yn y Gymraeg heb sôn am y Saesneg i gael i recordio
ar ddictaffôn.
Details: |
dyddiadur
alci hypocondriac
Gruffyd Meredith
ISBN: 0-86243-600-1
Y Lolfa
£5.95
|
|