Gyda diswyddiadau a damweiniau yn y diwydiant dur yn achosi poendod
yn ddiweddar mae llyfr newydd gan wasg Y Lolfa yn gofnod o'r drychineb
waethaf i ddigwydd erioed yn hanes cymoedd diwydiannol y de.
Mae'r llyfr Black Mountains yn crynhoi atgofion glowr o'r
enw Alf Gordon wnaeth fyw drwy danchwa Senghennydd a brwydr
enwog y Somme cyn cyrraedd ugain oed.
Disgrifia drychineb Senghennydd "fel un o'r ffrwydriad
mwyaf erchyll yn hanes mwyngloddio." Lladdwyd 439 o bobl
a darlunia'r llyfr sydd wedi ei ysgrifennu ar ffurf cyfweliad
rhwng y tad (Alf Gordon) a'i fab, sef awdur y llyfr (David
Barnes), effaith y digwyddiad ar y gymuned ac ar Dde Cymru.
Sonia fel y bu i amryw o oroeswyr y danchwa ladd eu hunain
gan nad oeddynt yn gallu dygymod â bywyd yn dilyn y
drychineb.
|
|
Fodd bynnag yn ôl yr awdur David Barnes roedd bywyd cymunedol
yn llawer cryfach a chlosiach y dyddiau hynny, "Roedd gwerthoedd
cryf cymunedol a brawdgarol yn nyddiau Alf, er fod yna galedu a
chwerwder hefyd. Wrth fynd yn hyn roedd yn gweld y gwerthoedd yma
yn cael eu disodli gan unigolyddiaeth arwynebol."
Mae Black Mountains yn ddogfen bwysig yn hanes cymdeithasol Cymru
a chrybwyllir nifer o draddodiadau ac arferion llên gwerin
oedd ynghlwm â'r diwydiant glo.
Cier hefyd portread byw a difyr o fywyd gweithiwr cyffredin yn
y cyfnod a phrofiadau dirdynnol milwr ifanc ym Mrwydr y Somme. Recordiwyd
y cyfweliadau sy'n gynsail i'r llyfr yn niwedd y chwedegau a dyma'r
tro cyntaf i gynnwys y casetiau gael eu cyhoeddi.
Mae'r awdur David Barnes wedi bod yn dysgu a darlithio Hanes mewn
nifer o ysgolion a cholegau a bellach mae wedi ymgartrefu ym Machynlleth.
Cafodd ei dad Alf Gordon ei eni a'i fagu yn Sir Fynwy.
Black Mountains
David Barnes
IBSN: 086243 612 5
Y Lolfa
£6.95
21 Mai 2002
|