go back home!
Get Fluent CD-ROMs
CMC t-shirts
Welsh music
where to learn
cheat sheets
how to learn
Welsh song lyrics
teachers and courses
ratw
CMC news
short stories
interviews
features
weblogs
books
papers and magazines
audio
chat
join the CMC email list
keep updated
explore
links
who is Suw?
contact us
help us
give us money
press room
legal stuff
thanks!
     
 

yr aduniad

gan Lynn Phillips


Daeth yr alwad ffôn yn gwbl annisgwyl. Roeddwn i ar fin gwneud fy hun yn gysurus yn fy nghadair freichiau efo potel o win da a llyfr cyffrous. Dw i ddim yn mynd allan yn aml ers marwolaeth Daisy. Doeddwn i ddim yn siwr beth i’w feddwl pan glywais i lais fy hen gariad, ar ôl cymaint o flynyddoedd. Roeddwn i heb weld Greta ers ein dyddiau prifysgol a doeddwn i ddim yn siwr os oeddwn i eisiau ei gweld hi eto chwaith – roedd yr atgof am ein cyfarfod olaf yn dal i frifo. Ond mynnodd hi i ni gyfarfod ac roedd ‘na dinc chwareus yn ei llais. A oedd hi’n bwriadu ceisio aildanio’n carwriaeth ni? Gofynnais sut oedd John, ei gw^r, ond ddywedodd hi ddim byd. Yn y diwedd cytunais i’w chyfarfod mewn gwesty lleol wythnos yn ddiweddarach, fy mhen-blwydd yn bumdeg oed fel y digwyddai fod .  
yr awdur, Lynn Phillips
yr awdur, Lynn Phillips

Wel, mae’r noson fawr wedi cyrraedd a dyna fi rw^an yn llynci fy nhrydydd ‘G&T’ ym mar y Ddraig Goch ac yn dechrau difaru dod heno. Cynheuaf sigarét arall a thaflu cipolwg ar fy watsh: hanner awr wedi wyth. Mae hi’n hwyr, yn union fel yr hen ddyddiau. Dw i’n teimlo’n wirion – hanner can mlwydd oed a mor nerfus â phlentyn ysgol.

O’r diwedd dyna hi – yr un gwallt hir, yr un llygaid disglair. Ond mae fy ngobeithion yn suddo’n syth. Dyna John efo hi a tu ôl iddo fo, criw o bobl eraill – myfyrwyr a oedd efo ni yn y brifysgol. Wrth gwrs, y lembo , mae Greta wedi trefnu parti syrpreis i mi ar gyfer fy mhen-blwydd!

Mae pawb yn casglu o’m cwmpas a dw i’n cuddio fy siom ymysg llongyfarchiadau pawb. Ond mae Greta’n fy nhynnu fi un ochr er mwyn cyflwyno merch ddeniadol i mi: "Dyma Mary, ffrind i mi sy’ newydd symud i fyw yn dy ardal di. A dw i’n meddwl eich bod chi’n gwneud cwpwl perffaith. Mary, dyma fy hen ffrind prifysgol, Clarissa".

aduniad - reunion
mynnu – to insist
tinc chwareus – playful ting
aildanio – to rekindle
fel y digwyddai fod – as it happened
cynnau – to light (cyneuaf i – I light)
taflu cipolwg – to glance
lembo - twit

[intro]
[beirniadaeth]

 
     

© lynn phillips 2003

[Get Fluent] [CMC t-shirts] [buy Welsh music] [where to start] [cheat sheets]
[how to learn] [Welsh lyrics] [teachers and courses] [ratw] [CMC news]
[short stories] [interviews] [features] [weblogs] [books] [papers and magazines]
[audio] [chat] [join the email list] [keep updated] [links] [who is Suw?]
[contact us] [help us] [give us money] [press room] [legal stuff] [thanks] [home]


Legal warning notice: The material on this site is protected by copyright laws. Use of this site is strictly subject to our current terms which may change from time to time. Please also read our privacy policy and security statement.