|
Daeth hanner cant o gynigion i law, gan ddeunaw o awduron
gwhanol, ac roedd y safon ar y cyfan yn dda. Gofynwyd am stori
fyddain gydnaws ag ysbryd hwyliog a chwareus gwefan
Clwb Malu Cachu, safle lliwgar ar gyfer dysgwyr o bob
lefel. Straeon eitha byr felly, o dan 350 o eiriau.
Roedd rhai or awduron wedi mynd i gyfeiriad llên
meicro, gan lunio straeon cynnil oedd yn awgrymu sefyllfa
a ffeithiau, yn hytrach nau cofnodin blwmp ac
yn blaen; tra oedd eraill wedi mynd i gyfeiriad mwy traddodiadol,
gyda dechrau, canol a diwedd amlwg ond diwedd annisgwyl
yn aml iawn!
|
|
|
Mae Ifor ap Glyn yn
darllen y feirniadaeth
|
|
Penderfynwyd mai straeon yr ail garfan oedd debyca o fod at ddant
mynychwyr Clwb Malu Cachu, ac felly er bod y ddau feirniad wedi
oedi dipyn uwchben Trafferthion Dysgu, Hanner Awr Wedi Pump, Y Pethau
Bach Pwysig, Y Gath, Arfon ar Gair Budur, Y Crys-T, Glan y
Môr a Gardd Nain ymhlith eraill, y stori a ddaeth ir
brig oedd Yr Aduniad.
Dyma stori effeithiol gan awdur syn deall sut i gael y gorau
or ddrama yn y sefyllfa, or galwad ffôn syn
agor y stori, ir tro annisgwyl ar ei diwedd. Mae na
ambell i fân lithriad a ddylid ei gywiro cyn cyhoeddi, ond
gwobrwyer awdur Yr Aduniad.
[intro]
[yr aduniad]
|
|