go back home!
Get Fluent CD-ROMs
CMC t-shirts
Welsh music
where to learn
cheat sheets
how to learn
Welsh song lyrics
teachers and courses
ratw
CMC news
short stories
interviews
features
weblogs
books
papers and magazines
audio
chat
join the CMC email list
keep updated
explore
links
who is Suw?
contact us
help us
give us money
press room
legal stuff
thanks!
     
 
un funud fach
gan Rhiannon Meleri  

Cymylau ewyn Guiness yn pwyso’n drwm ar y gorwel, sawr claear fodca ar y aer a’r stryd yn llonydd ac yn llwm fel unrhyw b’nawn arall am bum munud i bump. Braf fyddai gwylio’r machlud yn arllwys ei dangnefedd yn gymysgedd o wirodydd amryliw i las y môr ar awr fel hon; clo perffaith ar ddiwrnod diflas arall fyddai hynny. Wyt ti’n cytuno?

Cynnaf sigaret arall oddi ar fonyn f’un dwetha gan gofio’r drafferth ges i wrth geisio cynnu’r llall yng ngwyneb gwynt y môr. Gwyliaf y pentwr matshys ar a traeth (prawf o’m hamryw gynigion aflwyddiannus) yn cael eu mwytho’n ofalus dro ar ôl tro gan donnau’r llanw. Tynnaf yn awchus gan deimlo’r mwg yn lleddfu f’ysgyfaint ac yn dwysáu pleser yr alcohol yn mwytho f’ymennydd. Bron ‘mod i’n medru teimlo’r gwaed yn amsugno pob defyn olaf o nicotin, ‘fath â gelen yn gwrthod gollwng gafael tan iddi ddwyn pob diferyn o waed oddi wrth ei hysglyfaeth. Teimlaf bob gewyn yn fy nghoff i’n ymlacio’n llwyr a’r tywod oer dan fy nhraed yn troi’n garped plu cynnes dan effaith anasthetig y gwin a’r nicotin.

Ti’n llai aflonydd o lawer nawr, mae’n rhaid fod y ffags a’r alcohol wedi llwyddo i’th ymlacio. Dwi’di rhoi’r gorau i ofyn bellach oes ots gen ti ‘mod i’n smygu; wedi’r cyfan, ti’di hen ddygymod â’m harferion afiach i erbyn hyn. Ni’di dod i ryw fath o gytundeb tawel yn do? Cyn belled ag y byddi di’n byw gyda fi bydd rhaid i ti fyw yn ôl fy rheolau i, mynd i le bynnag dwi’n mynd, bwyta be dwi’n roi i ti a diodde’n dawel os ti’m yn fodlon â be ti’n gael, wedi’r cyfan, dwi’di diodde digon o’th achos di.

Pan glywai i amdanat ti gyntaf y peth cynta wnes i rhwng fy nagrau oedd tanio ffag a honno’n cael ei dilyn yn gyflym gan ddogn go hael o wisgi. Er i mi amau ers wythnosau dy fod ti’n llercian yno’n rhywle fedri di ddim dychmygu cymaint o sioc oedd hi pan drodd yr amheuaeth yn un cawdel anniben hyll. Siawns nad oeddet ti am fod yma mwy nag yr oeddwn i am dy gael di yma, ond wnest ti ddim dweud dim byd naddo, jest diodde’n dawel a gwneud i mi chwydu bob hyn a hyn er mwyn f’atgoffa dy fod ti’n dal yno. Doedd dim peryg y buaswn i’n anghofio amdanat ti, yn enwedig a thithai’n cael y fath effaith andwyol ar bob elfen o ‘mywyd.

Mae dy fodolaeth wedi ei serio ar fy nghof, ac ar fy nghalon hefyd bellach. Dwi’n dy garu di erbyn hyn, dwi’n gwybod hynny’n iawn ar ôl yr hyn fu’r ddau ohonom ni drwyddo hefo’n gilydd dros yr wythnos ddiwethaf. Dwi’n dy garu di am dy fod yn rhannu’r un gwaed â fi, yn hollol ddibynnol arna ‘i ac am dy fod ti’n fod dynol go iawn. Wedi dy gymryd di’n ganiataol am bum mis roedd realiti erchyll yr wythnos ddiwethaf fel rhywun yn dweud wrtha’i mai pum mis arall oedd gen i i’w fyw. Wn i ddim yn union be ddigwyddodd, w+yr y doctoriad ddim chwaith, ti’n unig all ateb hynny. Os mai ceisio rhoi ysgytwad i mi oedd dy fwriad yna fe lwyddaist i’r dim. Plannwyd rhyw ofn yn fy nghalon tebyg i’r teimlad o fod ofn marw, ofn hollol anhunanol a deimlais ar dy ran di gan iddo ddiflannu’r eiliad y clywais i dy fod ti’n mynd i fod yn iawn. Roedd y posibilrwydd o dy golli di heb groesi fy meddwl hunanol i tan hynny. Ti a fi oedd yno’n dioddef unigrwydd ein gilydd mewn ysbyty oer, finne’n gweddïo drwy’r adeg na faset ti’n fy ngadael i a thithe’n gwaedu dy ddagrau heb symud llaw na throed am ddeuddydd. Dy fywyd di oedd yn ddibynol ar fy mywyd i, ond ar y pryd fy mywyd i oedd yn ddibynnol ar dy fywyd di.

I’r fan hon y basen i’di dod pe bait ti’di ‘ngadael i ac o’r fan hon y basen i’di gadael y boen ar ôl. Mae’r llanw’n troi’n fwrlwm gwyllt dan lwybr arian y lleuad a’r machlud hwnnw wedi hen ddod a mynd. Taflaf fonyn fy siagarét gyda ‘ngofidiau i’r dw+r a’u gwylio am ennyd yn diflannu’n ddim. Dyw min yr awel ddim more greulon bellach a dwi’n hapus braf ac yn gynnes yma gyda ti, y ddau ohonom yn rhannu’r un gwres. Mae gen i freuddwyd y cawn ni gerdded hyd y traeth yma gyda’n gilydd ryw ddiwrnod, y ddau ohonom wedi’n gwahanu erbyn hynny ond yn byw’r un bywyd hefo’n gilydd. Wyt ti’n barod i fynd adref eto? Dwi’di gori ar fy mhroblemau’r ddigon hir nawr, un atgof bach o’th berffeithrwydd di oedd ei angen arna i i ysgwyd yr iselder a’i adael yma i’r môr wneud yr hyn a fyn ag ef.

get the text document

Mae Rhiannon Meleri ar gael i ysgrifennu - os hoffech ddarllen mwy o’i gwaith, cysylltwch.

     

© rhiannon meleri 2001, 2002, 2003
Do not copy or distribute in any form without express permission.

[Get Fluent] [CMC t-shirts] [buy Welsh music] [where to start] [cheat sheets]
[how to learn] [Welsh lyrics] [teachers and courses] [ratw] [CMC news]
[short stories] [interviews] [features] [weblogs] [books] [papers and magazines]
[audio] [chat] [join the email list] [keep updated] [links] [who is Suw?]
[contact us] [help us] [give us money] [press room] [legal stuff] [thanks] [home]


Legal warning notice: The material on this site is protected by copyright laws. Use of this site is strictly subject to our current terms which may change from time to time. Please also read our privacy policy and security statement.