|
Paham mae dicter, o Myfanwy
yn llenwi'th lygaid duon di
a'th ruddiau tirion, o Myfanwy
heb wrido wrth fy ngweled i?
pa le mae'r wên oedd ar dy wefus
fu'n cynnau 'nghariad ffyddlon, ffôl?
pa le mae sain dy eiriau melys
fu'n denu 'nghalon ar dy ôl
pa beth a wneuthum, o Myfanwy
i haeddu gwg dy ddwyrudd hardd?
ai chwarae oeddit, o Myfanwy
â thannau euraidd serch dy fardd?
wyt eiddo im drwy gywir amod -
ai gormod cadw'th air i mi?
ni cheisiaf fyth mo'th law, Myfanwy
heb gael dy galon gyda hi
Myfanwy, boed dy holl o'th fywyd
dan heulwen ddisglair canol dydd
a boed i rosyn gwridog ienctid
ddawnsio ganwaith ar dy rudd
anghofiais oll o'th addewidion
a wnest i rywun, 'ngeneth ddel
a rho dy law, Myfanwy dirion
i ddim ond dweud y gair, Ffarwel
gan Ceiriog
|
|