|
hei, Mr Urdd
'neud di ddangos imi ffyrdd
o garu, heb amharu
ar fy meddwl, yn ormodol
dwi isho gweld fy nyfodol
o, dwi'n gwisgo trons Mr Urdd
gwnes 'i ddwyn nhw pan oedd neb yn sbio
cyn torri lawr a chrio
o, dwi'n gwisgo trons Mr Urdd
mae'n cyfaddef popeth ar y bathodyn
mae'n waeth na gwisgo blodyn
yng Ngellilydan gyda'r wawr
mae'r gwlith mor llachar ar y llawr
o dan y wawr
ar y ffordd i Drawsfynydd
i drwsio'n 'sgidiau yn siop y crudd
erbyn hanner dydd
o, dwi'n gwisgo trons Mr Urdd
mae'n waeth na gwisgo 'sgodyn
|
|