yng nghanol y dant
y llew
ag o gwmpas y glesni daw
gwas y neidr ai gâr sydd gerllaw
pwyntiodd at lecyn da
lle cuddia planhigyn bach
ag efo pedair adennydd yn ei law
y feillionen sydd gerllaw
wyt ti dal ar dir
y byw
rhaid fi ddeud dwi yn drwm fy nghlyw
wyt ti dal ar dir y byw
wyt ti dal yn credu mewn Duw
gofalus rhwng bys
a bawd
codais fy lwcus frawd
ai ddal yn sownd, uwch fy mhen, ir nen
ag o bwer y ddellen brin
llawenydd a lenwa mron
ag eto pedair adennydd yn ei law
y feillionen sydd gerllaw
wyt ti dal ar dir
y byw
rhaid fi ddeud dwi yn drwm fy nghlyw
wyt ti dal ar dir y byw
wyt ti dal yn credu mewn Duw
meillionen tyrd
a lwc i mi
meillionen tyrd a lwc i mi
wyt ti dal ar dir
y byw
rhaid fi ddeud dwi yn drwm fy nghlyw
wyt ti dal ar dir y byw
wyt ti dal yn credu mewn Duw
meillionen tyrd
a lwc i mi y ddelien hud!
meillionen tyrd a lwc i mi y ddelien hud!
meillionen tyrd a lwc i mi y ddelien hud!
meillionen tyrd a lwc i mi y ddelien hud
meillionen tyrd a lwc i mi
|