go back home!
Get Fluent CD-ROMs
CMC t-shirts
Welsh music
where to learn
cheat sheets
how to learn
Welsh song lyrics
teachers and courses
ratw
CMC news
short stories
interviews
features
weblogs
books
papers and magazines
audio
chat
join the CMC email list
keep updated
explore
links
who is Suw?
contact us
help us
give us money
press room
legal stuff
thanks!
     
 

anweledig - 6.5.99

Beth yw’r ots gennyf fi am Gymru? Damwain a hap, neu anffawd yw fy mod yn rhan ohoni. A pwy ’da ni i fyny gobeithion newydd… yn ddim mwy na babi mewn bedydd feddyliais i erioed y byddwn i’n eiddo i genedl a llwyth mwy apathetic, di-asgwrn cefn, ddisymwth. Beth yw’r ots os mai fin nos fan hyn lladdwyd Llywelyn… dydw’i ddim yn cofio hyn, a doeddwn i ddim o gwmpas pan reibwyd Tryweryn, a hwyl diniwad oed ‘Brad y llyfra’ gleision’, yn ddim byd mwy na ‘stroc o genius’ gan y Saeson.

Prin arwisgwyd bonheddwr charlie yn ’69, daeth miloedd i ‘dre i godi llaw, aeth y benwan i gilmeri… yn y niwl a’r baw! Saunders, DJ, Valentaine: All this Welsh shit is a waste of time. All this Welsh shit is a waste of time? Meddyliwch am hasan yn nociau Gaerdydd, a gafodd o wahoddiad i dathliadau’r Urdd? Mae’n hen bryd symyd yn ein blaen. A dyma ddeffro ‘ryw fora’ a gweld dyn nud a dall. A meddylias am eliad a ydwi’n gall i ddi-ystyriol, miliynnau o eneidiau gwych a rhanodd cyfoethogodd, dysgodd i ni i beidio a phlygu a derbyn yr hyn sydd yn iawn i’r lleiafrif! Beth nawr yw’d ddadl yngly^n â’r iaith? A’i brad yw mynd a’r gân a’r gair, o amgylch y byd, ac o stryd i stryd. "Un genedl, dwy iaith - one nation, two languages". Yng nghanol Dafydd El, Rod Richards, ar pwdl, a’r tipyn cymro yn yr "advert pot noodle", oes gynna’ ni ddiddordab o gwbl, fel ‘udodd "Y Tystion", mae Kosovo dal mewn lludw. A dyma di’r pwynt ar ddiwedd y dydd, yw ein bod fel eneidia yn gwbl rhydd i rannu, cyfoethogi, a dysu ein gilydd, i beidio a phlygu i’r hyn sydd yn iawn i’r lleiafrif. (Plygu i’r hyn sydd yn iawn i’r lleiafrif.)

"I have decided on the name National Assembly for Wales, to stress that it will be for everyone in Wales, English and Welsh speakers… north, south, east and west… north, south, east and west… everyone in Wales… everyone in Wales."

A rwan ble mae Ron’o fachen Davies, wedi erlid yn rheibus gan gymdeithas, scitzophrenig, anwybodus, am fod yn ddyn o gig a gwaed. Meddylich chi am funud, pe bai Glydw^r yn hoyw? "Na fydda’ hynny ddim yn iawn o gwbl!" Yn 1536 meddianwyd y famwlad mewn gloddest o hunan bwysigrwydd a brad! Dim ond llyfu tin y "cwin", efallai’n debyg i ’99 pan estynwyd llaw ir teulu breintiedig, nad oedd yn gysylltiedig mewn unrhywffordd i’n cynulliad ni, y cachgwn gostyngiedig. A be am wahoddiad: DI, RS a Gwynfor Evans… a’u hysbryd gonest, gobeithiol, di-dor… aeth Dafydd Ap Gwilym am sesh mewn tafarn i chwilio am hogan, ma’r meddylfryd yn bell o fod yn ysfa fodern. A oedd o’n deffro bob bora yn "diolch i ddw bod o’n Gymraeg", fel caethweision yr Arglwydd Penrhyn ynglhwm wrth y graig… a dyma wnaeth nhw, deffro rhyw fora a gweld dyn mud a dall, a meddwl am eiliad, a ydyn nhw’n gall i ddi-ystyru miliynna’ o eneidia gwych, a ranodd, cyfoethogodd, dysgodd i ni i beidio a phlygu a derbyn yr hyn sydd yn iawn i’r lleiafrif… ma’n hen bryd deffro.

     

© suw charman 2002 unless otherwise stated

[Get Fluent] [CMC t-shirts] [buy Welsh music] [where to start] [cheat sheets]
[how to learn] [Welsh lyrics] [teachers and courses] [ratw] [CMC news]
[short stories] [interviews] [features] [weblogs] [books] [papers and magazines]
[audio] [chat] [join the email list] [keep updated] [links] [who is Suw?]
[contact us] [help us] [give us money] [press room] [legal stuff] [thanks] [home]


Legal warning notice: The material on this site is protected by copyright laws. Use of this site is strictly subject to our current terms which may change from time to time. Please also read our privacy policy and security statement.