Mae Lleucu Meinir yn gyflwynwraig teledu ac mae hi'n gweithio ar
raglennni fel Cwmni Hon a Hacio i S4C. Mi gafodd Suw Charman sgwrs
bach gyda Lleucu am ddyfodol yr iaith, rhaglenni cerddoriaeth a'i
swydd hi.
Alli di ddeud tipyn bach am dy gefndir? Beth roeddet ti'n
gwneud cyn gweithio i Gwmni Hon?
Ers yn ifanc yn yr ysgol, roeddwn i wedi'n rhyfeddu gan gamerau
stills a fideo. Ges i'n SLR cyntaf i yn 16 oed, a dwi erioed
wedi edrych nôl. Mae ffotograffiaeth yn un o mhrif
ddiddordebau i. Roeddwn i wastad ar brofiad gwaith gyda chwmniau
teledu anti i mi, ac roeddwn i'n dwli ar yr awyrgylch, y cydweithio
ar prydau bwyd oeddech chi'n eu cael pan yn ffilmio
ar leoliad.
Ers y mod i'n 14oed 'wy 'di bod yn trefnu gigs i Cymdeithas
yr Iaith Gymraeg yn ceisio hybu'r sîn roc Gymraeg yng
Nghymru. Ma' hyn wastad 'di bod yn bwysig iawn i mi. Ers yn
ifanc iawn hefyd 'wy 'di bod yn gweithio i gwmni cyfanwerthu
crefftau fy nhad yn teithio i Morocco, Tiwnisia, Bwlgaria,
Twrci ac o gwmpas Cymru yn dewis a phrynnu crefftau.
|
|
Hefyd yn trefnu a'n gweithio ar stondinau crefftau o gwmpas Cymru,
Lloegr, Iwerddon a'r Alban. Roedd pob gwyliau ysgol, coleg, a chyfnod
o 6 mis ar ol coleg yn cael ei dreulio yn gwneud hyn. Gweithiais
i Cymdeithas yr Iaith am flwyddyn hefyd, cyn ymuno a thim Cwmni
Hon, yn trefnu cyfarfodydd, gigs a fideo promo ar eu cyfer.
Rydw i bob amser wedi bod yn weithredol iawn gyda Cymdeithas yr
Iaith, mudiadau sy'n edrych ar ôl buddianau anifeiliaid a
rhai fel Greenpeace a CND. Mae hi wastad 'di bod yn bwysig iawn
imi drin eraill fel yr hoffwn i gael 'y nhrin (dydw i ddim bob amser
yn llwyddo i gadw i hyn yn anffodus!).
Sut gest ti'r swydd gyda Cwmni Hon?
Tra'n feichiog roeddwn i'n gwneud dyddiadur fideo iddyn nhw - ddim
yn dangos yr enedigaeth ei hun! A gofynais am yr hawl i wneud show
reel bach i Boomerang. Gofynon nhw a fuase well gen i weithio iddyn
nhw gan eu bod yn chwilio am ymchwilydd a newyddiadrydd fideo ar
y rhaglen. Roeddwn i'n gweithio i Creu Cof, camni teledu analog
y cynhyrchwyr cyn imi syrthio'n feichiog.
Sut mae dy wythnos nodweddiadol?
Sdim dal o wythnos i wythnos. Mae'n gawl potsh o ymchwilio, is-gynhyrchu,
cyfarwyddo eitemau camera sengl ar leoliad, cyfarwyddo rhaglenni
aml gamera gydag uned OBE - fel uned olygu a chyfarwyddo ar olwynion
- a chyflwyno wrth gwrs. Weithiau rydw i'n gwneud y gwaith camera
fy hun, a'n gwerthu'r rhaglenni i'r wasg hefyd. Dyna beth rwy'n
ei fwynhau fwyaf am y gwaith - y gwahaniaethau.
Wyt ti'n mwynhau dy swydd?
Rwy'n dwli ar y swydd. Ond, hoffen i ganolbwyntio ar gyfarwyddo
o hyn ymlaen, falle ychydig o gyflwyno hefyd. Ond, mae'n bendant
yn well gen i fod mas o'r swyddfa!
Ydy darlledu Cymreig mewn iechyd da ar hyn o bryd?
Y we yw'r dyfodol. Ac unwaith y bydd y dechnoleg ar gael, mae HON
yn gobeithio dechrau sianel Gymraeg neu Chymreig ar y we yn targedu
cynulleidfaoed mas o Gymru yn ogystal â'r Cymry eu hunain.
Ydy teledu Cymreig wedi gwella gyda'r cyrhaeddiad o S4C Digidol?
Mae e 'di bod yn gyfle i hyfforddi lot o dalent newydd, trio mathau
gwahanol o raglenni i gynulleidfaoedd targed gwahanol, e.e. Cwmni
Hon. Ond, nawr bod y nifer o wylwyr yn datblygu mae'r sianel newydd
yn mynd yn fwy saff eto. Yn anffodus bydd Cwmni Hon yn dod i ben
ddiwedd y flwyddyn gan orffen unrhyw hybu gan S4C i sicrhau diwydiant
teledu cryf yng nghanolbarth Cymru a rhaglenni a blas gwahanol i
fenywod!
Pe hoffai rhywun gael swydd mewn darlledu, beth dylen nhw wneud?
Ceisio cael profiad gwaith tra'n yr ysgol a'r coleg, ymddangos yn
frwdfrydig, cael gwaith fel ymchwilydd neu redwr i ddechrau a sicrhau
eich bod yn mynd fewn i'r maes am y rhesymau cywir.
Dw i'n meddwl bod rhaid ini gael mwy o raglenni ieuenctid, fel
Bandit a Bicini. Wyt ti'n cytuno?
Mae'n bendant angen mwy o raglenni i'r ifanc ar S4C, ond nid dim
ond rhaglenni sy' jest yn ysgafn, neu jest yn wleidyddol. Mae angen
dangos gwreiddioldeb wrth gomishynnu rhaglenni sy'n delio â
diddordebau'r ifanc mewn ffordd mwy crwn, e.e. wrth gael rhaglenni
am fandiau eich bod yn cael cyfle i wybod mwy amdanyn nhw ag i siarad
a nhw yn hirach am bethau diddorol, fel oedd Fideo 9 yn arfer gwneud.
Hefyd mae angen rhywbeth fel i-dot yn gyson ar ein teledu yn hytrach
na thaflu briwsion bob yn hyn a hyn.
A dw i eisiau gweld mwy i ddysgwyr ar y teledu. Beth wyt ti'n
meddwl?
Mae'n bendant angen mwy o gyfle yn gymdeithasol a thrwy'r cyfryngau
i ddysgwyr gael ymarfer clywed a siarad yr iaith.
Ydy S4C Digidol yn helpu'r iaith?
O ran yr ifanc mae angen mwy o bethau ffres, newydd yn y cyfryngau'n
gyffredinol i wneud yr iaith yn ran angenrheidiol o ddiwylliant,
i wneud i bobl eisiau bod yn rhan ohono ac nid i'w weld ond fel
pwnc diflas yn yr ysgol.
Ddylai S4C daearol yn dangos mwy o raglenni yn y Gymraeg?
Sdim dyfodol i S4C analog, dylswn ni droi ein hegni tuag at y we
ag i drio sicrhau radio a deunydd darllen mwy perthnasol i'r ifanc
ac i Gymry'n gyffredinol.
|