gan Debs Prowse
Nhw yw'r band a
wnaeth eu ffordd i Bandiau Cymreig Wythnosol ar gair technegol,
ond ers camarwainodd eu cwmni recordiau, Big Noise Recorders,
ni i gyfweld Derrero am ein rhifyn cyntaf mwy na tair blynedd
yn ôl, mae'r band wedi dod yn osodyn cadarn ar stereo
Bandiau Cymreig Wythnosol, heb sôn am yn ein calonnau.
Wedi mwydro? Dylech chi fod...
Efalli dylwn i
ebsonio. Dych chi'n gweld, mewn gwirionedd dydy Derrero ddim
yn Gymry. Furffion nhw yn yr un colleg celf yn Falmouth a
fynychodd Pete Fowler, (roedd e cwpwl o flyneddoedd uwchlaw
nhw), symudodd y bechgyn Derrero - Dave, Andy ac Ash - i fyny
i Gaerdydd wedi Andy benderfynnu dilyn ei gariad Mary pan
aeth hi i astudio mewn ysgol ffilm yn Newport.
Wedi BCW gamddeall
ychydig mewn sgwrs deleffon, mae'r band yn cael ei ystyried
yn gymain o ran o'r sîn Cymreig â unrhyw fand
arall o Gaerdydd. Wrth gwrs, oherwydd dan ni'n gwybod beth
dan ni'n gwybod nawr, dylen ni fod yn dweud i Derrero i bisio
bant ond allwn ni ddim gwneud hynny, ti'n gweld, oherwydd
maen nhw'n rhy... wel, maen nhw'n rhy dam da, yn y bôn.
Mae eu pop llweygus-ond-hollol-hygyrch, cytûn, dim-neb-synnwyr-hiwmor
yn annhebyg i unrhywbeth sy'n cael ei gynhyrchu gan fandiau
Cymreig eraill; gellir maddau rhywun am feddwl fod yr uchod
yn disgrifio y Super Furry Animals neu Gorky's Zygotic Mynci,
ond mewn gwirionedd, mae Derrero yn swnio dim bid fel rhain
ychwaith. Efalli byddai cymariethau Teenage Fanclub yn fwy
cywir, ond yn benodol yng Nghymru, yn wir, mae'r swn Derrero
yn unigryw.
Y tro cyntaf cyfweldon
ni Derrero, roedd Emma ac minnau yn meddw gaib yn eistedd
ar y cwrbyn tu allan y Red Eye yn Islington, gogledd Llundain,
ac trodd y sgwrs i ganolbwyntio esgidiau platfform, medd-dod
a pryfed cop. Y tro yma, beth bynnag, sicrheues i'r sobrwydd
o fy hunan (a'r band) pan cwrddes i Dave, y chwareuwr bas,
ac Andy, y canwr/drwmiwr am sudd oren tu allan tafarn yn Camden
cyn iddynt chwarae eu gig NME yn Y Monarch in May. Tra bod
Dave yn cael y diodydd, mae Andy a minnau yn siarad am slotiau
cefnogi diweddar Derrero gyda'r SFA yn ystod cwpwl o gigs
chwaraeon nhw i hyrwyddo eu halbwm diweddaraf, Mwng. Ydy Derrero
wedi cefnogi y Furries o flaen?
"Ydyn, yn
Yr Alban," medde Andy. "Eitha sbel yn ôl,
i weud y gwir, rownd yr amser cafodd Radar ei ryddhau yn gyntaf,
sy'n eitha sbel yn ôl," mae e'n chwerthin, "dwy
flynedd, on' dyw e?"
"Roeddwn nhw'n
gigs eitha bach iddyn nhw, ond neis." Mae e'n sylwi fy
mod i wedi dechrau recordio yn barod, a mae e'n pwyntio at
y recordydd tâp: "Yw e mlaen?"
Ydy, on' nadw i'n
slei? Felly, mae Radar Intruder yn ail-rhyddhad, ydy e?
"Mae e'n ail-deilliad,"
mae Andy yn esbonio. "Dyna beth mae'n cael ei alw, sydd
dim ond meddwl dyw e heb gael eu newid; dim ond mwy o gopïau
ar silffoedd. Mae'n debyg fod e'n digwydd trwy'r amser, bandiau
yn ail-rhyddhad yr un can. Yn y dechrau, roedden ni'n synnu
pam - roedden ni'n dweud "yn siwr mae digon o stwff 'da
ni i rhoi rhywbeth arall allan" ond mae e dal yn berthnasol
oherwydd ei fod ar y albwm, ac mae e'n un o'r tiwniau mwyaf
ennyd, felly dyna'r rheswm, dw i'n meddwl."
Pa gefnogaetheu
eraill y mae Derrero wedi gwneud yn diweddar? Dw i'n cofio
gweld eu enw ar uffern o lot o hysbysebion fel cefnogaeth
am rhai bandiau ardderchog.
Mae Andy yn chwerthin.
"Trienu nad oedd e'n uffern o lot! Wel, naethon ni ychydig
o bethau, i'r rhyddhad o "Unstraighforwardtune".
Cefnogon ni Sebadoh dwywaith, a Spinarama, y dyn cyn-Wedding
Present, y prif ganwr, ei beth newydd. Ac wedyn Gorky's, dw
i'n meddwl naethon ni mwy o gigs gyda nhw. Dan ni wedi chwarae
gyda Gorky's eitha lot, syn stwff da i gyd.
"Dan ni'n
edrych ymlaen at y daith Grandaddy," mae e'n parhau.
"Dan ni'n gwneud tua wyth dyddiad o gwmpas Lloegr ac
Yr Alban, dylai hynny fod yn wuch oherwydd dan ni wir i mewn
iddo nhw.
Mae un o'r dyddiadau
Grandaddy 'ma yn yr Electric Ballroom yn Camden Town. Dw i'n
dweud wrth Andy oherwydd fy mod wedi bwy yn Camden am y trideg
un mlynnedd, diwethad, galla i cofio dawnsio fy mh'nawniau
Sul i ffwrdd fan 'cw pan roedd y lle yn roller disco yn y
70au a'r 80s.
Mae Andy yn chwerthin:
"Od!"
Hefyd mae e'n farchnad
dan do ar penwythnosau, ac maen nhw'n cynnal ffair recordiau
yno, ac wedyn yn y nos mae e'n troi'n glwb a man cyfarfod
cerdd. Mae e'n le aml-ddefnydd, dw i'n dweud wrth Andy.
"Felly, ti
wedi gweld e mewn ei agweddau gwahanol? Felly tyfest ti i
fyny yn Camden, a ti'n dal yma ?"
Mae Dave yn dychwelyd
o'r bar ac mae'r cyfweliad yn parhau. Dwi'n gofyn pa mor dda
mae rhyddhadiadau Derrero wedi gwneud ers y cyfweliad dwiethaf
- dwi'n siwr fy mod wedi gweld enw'r band yn y wasg gerddoriaeth
"parchus" ers hynny.
Andy: "Dan
ni wedi cael mwy o syllw, on ydan ni? (?)"
Dave: "Ydyn,
llawer mwy o sylw. Mae pobl wedi bod yn sylwi."
Andy: "Gyda
Hall or Nothing, yn amlwg..." [swyddfa wasg y band, sydd
hefyd yn gofalu am' y Manics, SFA, Stereophonics a Kylie Minogue].
Mae'n nhw'n gwmni
gwasg da iawn, on ydyn nhw? (?)
Mae Andy yn nodio.
"Ydyn, mae hynny yn eitha arwyddocaol yn wir, oherwydd
roedden da ni bobl wasg da o'r blaen, neu yn honedig; roedden
nhw'n gwmni mawr, ac roedd cwpl o bethau 'da nwh, ond nid
gymaint â meddylion ni. Ond mae'n debyg roedd Caffy,
a welodd ni'n cefnogi Patrick Jones yn y Water Rats, wedi
eu syfrdannu, felly maen nhw wedi cymryd ni ymlaen am ychydig
o arian i ddechrau, a mae nhw wedi gwneud llawer. Mae nhw'n
wuch, mae'n ymddangos.
Sut cafodd Dererro
y gig Patrick Jones?
Mae Andy yn esbonsio:
"Ffoniodd Pat Big Noise a dweud, "bardd dw i, dw
i eisiau gwneud rhywbeth sydd cynnwys cerdd hefyd," ac
dw i'n meddwl daeth Ceri [un hanner o'r partneriaeth Big Noise]
off y ffôn gyda fe sylwaeddoli'r ymhlygaidau o beth
allen nhw wneud, ac yna meddylon nhw, ie, dyw e heb gael ei
seinio a mae e'n frawd i Nicky Wire, felly aethon nhw amdano
fe. Dw i'n meddwl ei fod e wedi bod yn werth y drafferth."
Os dw i'n cofio
yn iawn, roedd canwr/gitarydd Derrerro, Andy, yn rhan o grw^p
cefnogi Patrick nos hynny.
Dave: "Roedd
e'n chwarae gitâr."
Andy: "Digon
gwir, Ashley yn gweithio i rhywun arall eto! Mae e wedi chwarae
da'r Gorky's ychydig hefyd.
Ar y gair, mae Ashley yn cyrraedd y dafarn
"Son am y
diafol," mae Dave yn chwerthin. Mae Ash yn gwênu
ond yn aros yn ddistaw trwy weddill y cyfweliad.
Dw i'n gofyn am
arddangosfa diweddar cynhaliodd Derrero yng Nghaerdydd, sy'n
cynnwys cyfraniadau o amryw gerddor ac arlunydd Cymreig, yn
cynnwys Pete Fowler a canwr SFA, Gruff Rhys.
Sut naeth e ddigwydd?
Mae Andy yn esbonio:
"Dim ond trwy ymarfer celf a cerdd ers coleg, ac eisiau
arddangos rhywbeth, ac yna meddwl bod ni'n nabod llawer o
bobl creadigol sy'n gallu cael eu cynnwys."
Oedd gwaith da
chi i gyd yn yr arddangosfa?
"Cafodd Ash
rhai darnau o farddoniaeth a dramau," medde Andy, "ac
es i â ychydi o luniau a nes i set fach a stwff. Byddai
Dave wedi gwenud darn, ond aeth e allan a cael chwalad da'r
Gorky's"
Mae Dave yn chwerthin.
"Es i allan gyda Gorky's yn lle gorffen fy llun! Ond
adeiladodd Mary rhyw psygod papur mache a'u crogi nhw o'r
nenfwd..."
Andy: "Pysgod
mwy na bywyd! Mae tanciau pysgod da ni adre, a mae e wedi
mynd mewn i'n isymwybod..."
Fyddwch chi gwneud
mwy o arddangosfeudd?
"Efallai,"
synfyfyriodd Andy. "Cawn ni weld. Fydden ni ddim eisiau
ailadrodd e, dim ond er mwyn gwneud hynny, a bod e ddim yn
troi mas mor dda. Os yw e'n teimlo'n naturiol yna ie, yn siwr,
a bydden ni cael perfformiwyr diddorol eto- aroswn ni a gweld."
Mae Mary, cariad
Andy, wedi dod i mewn i'r band i chwarae allweddellau. Beth
sbardunodd y penderfyniad 'na?
"Dw i ddim
i weud y gwir," medde Andy. "Doedden ni ddim yn
meddwl amdano fe, ymarfer oedd en ni, dw i'n meddwl, a..."
Mae Dave yn parhau:
"Roedden ni'n recordio gyda hi, defnyddio hi ar allweddellau,
a roedden ni eisiau gwneud hynny yn fyw yn hefyd oherwydd
doedd da ni neb i chwarae. Roedd Mary yn hongian rownd yr
rehyrslas eniwê, felly gofynon ni hi chwarae ychydig
pa roedden ni'n ymarfer, ac mae wedi datblygu, ac nawr mae
hi'n rhan o'r band."
Andy: "Roedd
e'n gwneud llawer o synnwyr y pryd 'ny, oherwydd wrth recordio,
roedden ni eisiau lledu tu hwnt i dri rhan a ychwanegu tameidiau,
ti'n gwybod, ac roedden ni eisiau adgreu hynny'n fyw."
Roedd en
symudiad ysbrydol, oherwydd mae allweddallau Mary yn rhoi
rhywbeth ychwanegol ir sw^n cyfangwbl. Dw in gofyn
am duedd Mary i guddio yng nghefn y llwyfan yn ystod gigs.
"Mae hin
ymlusgo ymlaen," mae Dave yn chwerthin.
"Mwyaf or
amser mae en oherwydd fod y llwyfannau yn rhy fach,"
esbonia Andy.
Mae e bron fel
petai hi'n cesio bod yn anweledig
"Efallai tipyn
bach," mae Andy yn cyfaddef. "Dw i ddim yn meddwl
gwelodd hi erioed ei hun fel perfformiwr cerddorol, felly
mae e'n siwr i fod ychydig yn od."
Mae allweddellau
Mary yn chwanegu aeddfedrwydd, bron, i beth mae Derrero yn
gwneud. Mae Unstraightforwardtune - gyda ychydig draciau arall
ar yr albwm diweddaraf ma - yn ymlacgar iawn, wrth cymharu
ar stwff ar eu albwm cyntaf, a oedd yn eitha cyffrous
mewn cymhariaeth i Fixation With Long Journeys.
Mae Andy wedi eu
syny fy mod yn cofio eu halbwm cyntaf eto.
"Ti dal yn
cofio fe?" mae en gofyn. "Y peth gydar
un cyntaf, roedd en teimlo eitha byw, mwy fel albwm
byw. Ond ar y llaw arall, aethon ni'n eitha creadigol gyda
fe, roedden nin eitha hapus gyda fe, tin gwybod,
yn meddwl am syniadau cynhyrchiad ac ati. Ond sylwes fod Select
wedi dweud taw'r albwm newydd oedd ein cyntaf felly mae e
ychydig fel 'sa'r un cyntaf wedi ei ysgubo o dan y carped.
Gobeithio bydd yr albwm nesa yn bod hollol wahanol yn cerddorol,
eto, mae llawer o amswer wedi pasio.
Gydar gig
dim ond mater o oriau i ffwrdd, dw in gofyn os ydy Derrero
yn mwynhau chwarae yn llundain yn wir. Mae rhai cerddorion
yn casáu fe, ac galla i weld pam; rhywsut mae torf
Llundain yn fwy ffwdanus, llai bodlon i adael mynd a mwynhau
eu hunain.
Dave: "Dw
in ddim yn meindio, mewn gwirionedd. Roedd en
arfer bod yn waith anodd, chwarae i neb mewn man cyfarfod
bach, ond
mae en gwella. Yn arbennig pan tin
cefnogi band mawr."
Ac gigs yn gyffredinol?
Tin cael ymateb da wrth y gynulleidfaoedd?
Mae Andy yn oedi
cyn ateb. "Dim yn wir. Dw i ddim yn gwybod, dan ni dal
yn ceisio cael fanbase. Mae neb yn dod i'n gweld ni yng Nghaerdydd,
mewn gwirionedd! Gobeithio byddwn nin gallu rhoi rhyw
fath o daith ynghyd o man cyfarfod bach gyda bandiau o lefel
tebyg yn fuan. Tin gwybod, meddwl ar y llinellau ma
efallai, am ein taith hunain, ond dan ni ddim yn siwr eto."
Byddwn in
dychmygu fod cefnogi bandiau mawr yn helpu - sylwes i yn y
gig Super Furry Animals yn Brighton fod pobl yn edrych ar
Derrero yn iawn, talu sylw, clapio...
"Dan nin
cael rhai achlysurol sydd wedi clywed ein stwff, syn
beth cyffrous iawn," mae Andy yn derbyn.
"Mae en
gwella" mae Dave yn ychwanegu.
Andy: "Mae
en od, sut mae en gweithio, oherwydd gyda Terris
dim ond un peth gwasg mawr ac maen nhwn symud i fyny
gêr yn hollol, mae en od. Dw in meddwl gyda
ni, mae en fwy graddol."
Beth ydy digwydd
am weddill 2000? Oes Derrero ynrhyw gynlluniau mawr?
"Dan ni eisiau
recordio alwm arall eleni, yn obeithiol bydden ni'n eu orffen
e cyn ddiwedd y flwyddyn," medde Dave.
A'r gobaith yw
bydd yr albwm ma yn ennill ychydig o sylw, ac efallai
gwerthu ychydig o gopïau," mae Andy yn ychwanegu.
"Gallai hynny arwain at daith eitha da o'n hunain."
Maer hanner
arall o Big Noise, Greg Haver, yn ymuno ar y pwynt ma.
"Bydd taith Grandaddy yn helpu. Mae en taith bach
da i'w wneud."
Dyna'r cysylltiad
dw in eu hatgofio. Bydd ffan SFA yn mynd i weld Grandaddy
oherwydd or cysylltiad teithio, a pan maen nhwn
gweld Gradaddy byddan nhwn gweld chithau - mae e bron
fel effaith knock-on.
Mae Andy yn cytuno:
"Ie - ac mae cerddorion eraill yn eu hedmygu."
"Naethon nhw
ddall allan am Derrero hefyd" ychwanegodd Gref. "Roedden
nhw wir yn eisiau ni i gefnogi. Roedd yn rhaid i ni doi'r
Bluetones i lawr i wneud e, achos oedden ni'n gwybod faint
roed Grandaddy eisiau ni wneud eu taith nhw"
Gobeithio y bydd
cymaint o ofyn am Derrero gyda cerddgarwyr ag sydd gyda bandiau
eraill.
Mae Fixation With
Long Journeys allan nawr, ar Big Noise Recordings.
|