|
gan Pat Clayton
hen ffrindiau, hen gelwyddau
Maer awdur enwog, Prys Prytherch, wedi bod yn dweud
celwyddau ers blynyddoedd. Wnaeth o eriod ysgrifennu unrhyw
beth ei hun! Ond yng Ngw+yl Glanllyn maer gorffenol yn
dod wyneb yn wyneb efo Prys. Pwy yw Lowri Llwyd? A pham mae
barman Gwesty Plas y Llyn yn casáu Prys gymaint? Dyma
nofel yn llawn twyll, cyffro a dial.
Details: |
ISBN 0 86381 349 6
£3.25
Gwasg Carreg Gwalch
|
|
|
|
|
|
|
|
garddio yn y gwaed
Mae Crad Rowlands, seren y rhaglen deledu Popeth yn yr
Ardd yn mynd yn fwy amhoblogaidd bob wythnos. Ond pan
maer tîm cynhyrchu yn dod o hyd i ffordd i gael
mwy o wylwyr, mae mwy a mwy o broblemau yn ei wynebau
Beth ddigwyddodd iw wraig gyntaf? Faint o feibion sydd
ganddo?
Ie, lle peryglus ydir ardd, yn enwedig pan
mae mwy nag un neidr yn cuddio yno.
Details: |
ISBN 0 86381 334 8
£3.25
Gwasg Carreg Gwalch
|
|
|
|
|
|
dim dianc
Mae Robin a Nerys Pryce yn byw yn Awstralia, ond ar eu ffordd
i Ayers Rock ar gyfer eu mis mêl mae damwain ofnadwy yn
digwydd. Wnaeth Nerys ddim ceisio lladd Luke Smith a dyna pam
y cerddodd hi or llys yn wraig rydd wedir achos.
Ond mae teulur Smiths eisiau dial, ac yn gorfodi Robin
a Nerys i symud i Seland Newydd. Yna, daw Nerys i fyw i Gymru,
ond ydi hynnyn ddigon pell oddi wrth y brodyr Smith?
Details: |
ISBN 0 86381 374 7
£3.50
Gwasg Carreg Gwalch
|
|
|
|
|
|
|
|
gofal! dysgwyr
Mae tensiynau a phroblemau yn codi rhwng dysgwyr y cwrs Cymraeg
yn Ysgol Haf Ty+ Cerrig. Pam mae Iola, y ferch or Wladfa
yn benderfynol o ddod o hyd i Feibion Glyndw+r? Ydi Gareth a
Siân yn llwyddo i gael wythnos ramantus hefoi gilydd?
Ai dysgwr go iawn ydi Owen? Oes unrhyw un yn medru achub Ty+
Cerrig? Maer atebion - a llawer mwy - yn y nofel ddoniol
hon am ddysgu Cymraeg!
Details: |
ISBN 0 86381 413 1
£3.50
Gwasg Carreg Gwalch
|
|
|
|
|
|
*
|
|
aderyn y nos
Maer Rhyfel Byd Cyntaf newydd ddod i ben a milwyr o Ganada
wedi cael eu symud i wersyll Parc Cinmel yng ngogledd Cymru.
Ond maer milwyr yn protestio. Pam nad ydyn nhwn
cael mynd adref? Yng nghanol y tensiwn ar problemau mae
Danny, milwr ifanc, eisiau aros yng Nghymru efoi gariad,
syn ferch leol, ond mae popeth yn mynd oi le. Maer
heddlu milwrol yn meddwl ei fod o wedi marw, ac felly mae Dannyn
dechrau bywyd newydd rhyfedd a pheryglus. Fydd on gorfod
cudion hir.
Details: |
ISBN 0 86381 445 X
£3.50
Gwasg Carreg Gwalch |
|
|
|
|
|
|
|
aderyn ar ffo
Pwy laddodd y cigydd lleol? Pwy ydyr twrist Americanaidd
cyfoethog sydd eisiau dringor Wyddfa? Wnaeth yr offeiriad
Pabyddol rhyfedd saethu Robert Wyn Jones? Danny ywr ddolen
goll ir holl ddigwyddiadau, ond ar ôl nifer o anturiaethau
maen dal yn rhy beryglus iddo ddod alla oi guddfan,
felly am faint fydd on gorfod cuddio eto?
Details: |
ISBN 0 86381 462 X
£3.50
Gwasg Carreg Gwalch |
|
|
|
|
|
rhydd fel aderyn
Ar ôl pum mlynedd mae Danny wedi cael llond bol ar guddio
ac mae o bron â marw eisiau dod allan oi gyddfan.
Mewn ty+ gwair mae on cyfarfod Jacques - y Sioni Winwns
o Lydaw syn sâl - ac mae Dannyn troin
Sioni Winwns er mwyn iddo gael mynd i weld Megan, ei wraig.
Yn y cyfamser, mae gan Megan edmygwr sydd eisiau cael gwared
ar Danny. A beth am Myfanwy, mam Megan? Oes dyfodol iddi hi
a Huw? Fydd yr aderyn brith yn gwnued ei nyth or diwedd?
Mae hyn - a llawer mwy - yn cael ei ddatrys yn nofel olaf Trioleg
yr Aderyn Brith.
Details: |
ISBN 0 86381 521 9
£3.50
Gwasg Carreg Gwalch
|
|
|
* aderyn brith - shady character
|
|