Pwy oedd y maswr gorau
erioed i gynrychioli Cymru? Barry John neu Phill Bennett? Mewn llyfr
newydd am arwyr rygbi'r genedl dewiswyd 'Benny' o flaen y 'Brenin'
John. Tra na ellir ddadlau fod Gareth Edward yn haeddu ei le yn
safle'r mewnwr, beth am Bleddyn Williams a Steve Fenwick fel y canolwyr
gorau erioed?
Yn y llyfr newydd o'r
enw Welsh Rugby Heroes a gyhoeddir gan wasg Y Lolfa mae'r awdur
Androw Bennett yn amddiffyn ei ddewis gyda phenodau am bob safle
ar y cae rygbi. Tra nad oes un o'r tîm presennol yn cael eu
hystyried yn arwyr, rhoddir canmoliaeth i Scott Quinnell, er ei
fod yntau dal yng nghysgod ei dad, Derek, sydd wedi ei ddewis ymhlith
y pymtheg gorau.
Er nad yw'n bosib cymharu
chwaraewyr o gyfnodau gwahanol, bydd y dadlau'n parhau a'r drafodaeth
yn ddiddiwedd, ac ym marn Androw Bennett mae'r angen i chwilio am
arwyr fwy nag erioed ar hyn o bryd: "Gyda'r tîm cenedlaethol
mor ddifflach a digymeriad ar hyn o bryd mae'r angen am ysbrydolaiaeth
o'r gorffennol yn fwy nag erioed. Ac er fod y gyfrol hon yn canolbwyntio
ar arwyr ers yr Ail Ryfel Byd, mae gan bob cenhedlaeth eu gwhanaol
arwyr ac mae'n siwr y bydd llawer yn dadlau mai chwaraewyr cynharach
fel Dickie Owen ar ddechrau'r 20fed oedd gwir arwyr rygbi Cymru."
Dyma'r tîm Cymreig
gorau erioed yn ôl Androw Bennett:
15. J.P.R. Williams,
14. Gerald Davies, 13. Bleddyn Williams 12. Steve Fenwick,
11. J.J. Williams 10. Phill Bennett, 9. Gareth Edwards, 1. Courtney
Meredith,
2. Bryn Meredith, 3. Graham Price, 4. R H. Williams, 5. Rees Stephens,
6. Dereck Quinnell, 7. Haydn Morgan, 8. Mervyn Davies.
Wedi ei fagu ar rygbi
ym mhentre Llangennech, datblygodd Androw Bennett i gael gyrfa fel
dyfarnwr oherwydd ei olwg diffygiol a'i ddiffyg taldra. Mae'n awdur
nifer o lyfrau Cymraeg, yn cynnwys dyddiadur Jonothan Humphreys
a'r nofel Dirmyg Cyfforddus.
Details: |
Welsh
Rugby Heroes
Androw Bennett
ISBN: 086243 552 8
Y Lolfa
£3.95
|
|