go back home!
Get Fluent CD-ROMs
CMC t-shirts
Welsh music
where to learn
cheat sheets
how to learn
Welsh song lyrics
teachers and courses
ratw
CMC news
short stories
interviews
features
weblogs
books
papers and magazines
audio
chat
join the CMC email list
keep updated
explore
links
who is Suw?
contact us
help us
give us money
press room
legal stuff
thanks!
     
 

llyfr sydd hefyd yn brofiad

Mae cyhoeddwyr llyfr newydd Gruffydd Meredith wedi mynd ati i mewn ffordd wahanol i geisio annog pobl ifanc i brynu llyfr Cymraeg. Ar ôl trio gwahanol ddulliau eraill, er enghraifft gwerthu llyfrau mewn tafarndai, mae gwasg Y Lolfa yn cynnig copi o CD gan MC Mabon am ddim gyda phob copi o’r llyfr Dyddiadur Alci Hypocondriac. Yn ôl Garmon Gruffudd o wasg Y Lolfa:

"Gan fod Gruffydd Meredith yn fwy enwog fel canwr rap nag fel awdur o ni’n meddwl y bydde fe’n ffordd dda o gael pobl i brynu ei lyfr. Y syniad yw fod y darllennydd yn rhoi’r CM ymlaen wrth ddarllen y llyfr, ac os ydyn nhw am fwynhau’r profiad celfyddydol i’r eithaf dyle nhw hefyd yfed chwech can o Stella yr un pryd."

Mae’r llyfr sy’n gofnod o fywyd diogyn sy’n crwydro o fed-sit i fed-sit ac o glefyd i glefyd hefyd yn cynnwys dwsinnau o ffotograffau du a gwyn a thoriadau papur newydd bisar sy’n ychwanegu at naws y llyfr. Mae’r awdur yn ogsystal â disgrifio uffern bywyd bedsit yn athronyddu ar fywyd yn ei ffordd amharchus ei hun, er enghraifft:

"Pam ffyc bod hen bobl yn codi more gynnary er mwyn neud bygyr ôl trwy'r dydd tra gallen nhw gysgu tan ddau y pnawn ac yne gwylio'r teli, cymryd drygs ac yfed llwythi o alcohol a chael eu harestio gyda'r nos."

Mae’r CD sy’n dod am ddim gyda’r llyfr yn unigryw gan mai hon yw’r CD gyntaf yn y Gymraeg heb sôn am y Saesneg i gael i recordio ar ddictaffôn.

Details:

dyddiadur alci hypocondriac
Gruffyd Meredith
ISBN: 0-86243-600-1
Y Lolfa
£5.95

 
     

© suw charman 2002, 2003 unless otherwise stated

[Get Fluent] [CMC t-shirts] [buy Welsh music] [where to start] [cheat sheets]
[how to learn] [Welsh lyrics] [teachers and courses] [ratw] [CMC news]
[short stories] [interviews] [features] [weblogs] [books] [papers and magazines]
[audio] [chat] [join the email list] [keep updated] [links] [who is Suw?]
[contact us] [help us] [give us money] [press room] [legal stuff] [thanks] [home]


Legal warning notice: The material on this site is protected by copyright laws. Use of this site is strictly subject to our current terms which may change from time to time. Please also read our privacy policy and security statement.