Mewn cyfrol newydd o'r
enw Welsh Castles gan wasg Y Lolfa ceir golwg dadlennol a gwahanol
ar gestyll Cymru. Yn wahanol i lawer o'r llyfrau ar y pwnc, sy'n
canolbwyntio ar y cestyll Normanaidd a Seisnig adnabyddus fel Caernarfon
a Chonwy, mae'r llyfr hwn hefyd yn talu'r sylw dyledus i gestyll
cynhenid Cymreig fel Dolforwyn, Dolwyddelan, Castell y Bere a Dryslwyn.
Mae'r llyfr yn llawn
straeon sydd yn gysylltiedig â'r cestyll - y mwyafrif am y
tywallt gwaed a'r brwydro a fu rhwng y Cymry a'r normaniaid, ac
maent i gyd yn adlewyrchu
gorffennol lliwgar cestyll Cymru.
Yn ôl yr awdur,
Geraint Roberts: "Rwy'n gobeithio fod y llyfr yn llenwi bwlch.
Mae llawer o'r llyfrau am gestyll Cymru yn canolbwyntio ar yr adeiladau
mwyaf adnabyddus, megis cestyll Edward I, ac er fy mod yn rhoi penodau
i rai o'r cestyll hynny, dwi'n credu ei bod yn bwysig fod pobl yn
dysgu mwy am gestyll y Cymry eu hunain a'r aberth a'r brwydro a
fu yng nghyfnod allweddol y Goncwest. Rwyf hefyd wedi ceisio adrodd
straeon llai adnabyddus, ond rhai sy'n ddiddorol a dadlennol, yn
ogystal. Mae'r cyfan, gobeitho, mewn arddull digon ysgafn a darllenadwy.
"Byddai'n dda gweld
y cyrff sydd yn gwarchod a hyrwyddo'n treftadaeth ni fel Cymry yn
talu mwy o sylw i'r cestyll Cymreig llai adnabyddus, megis rhai
o gestyll y Tywysogion a'r Arglwyddi Cymreig."
Ceir straeon o bob cyfnod
er y Goncwest yn y gyfrol yn ogystal â phenodau ar hanes Cymru
a datblygiad y castell yng Nghymru. Dyma'r wythfed gyfrol i'w chyhoeddi
yn y gyfres boblogaidd 'It's Wales' sy'n cyflwyno gwahanol agweddau
o fywyd Cymru mewn dull hylaw a hwylus. Daw'r awdur, Geraint Roberts,
o Ystradgynlais ac astudiodd hanes ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth.
Mae ar hyn o bryd yn gweithio i Fenter Brycheiniog yn hybu'r iaith
Gymraeg yn Ne Powys. Mae'n weithgar yn ei gymuned, ac mae newydd
ei apwyntio'n gadeirydd ar Gyngor Tref Ystradgynlais - y cadeirydd
ifancaf ers tro.
Welsh Castles gan
Geraint Roberts
It's Wales rhif 8
086243 550 1, £3.95
Dyddiad Cyhoeddi: 25.6.01
|