Fflwff a'r Stêc Mae Fflwff yn newynog heno. Mae hi wedi bod yn chwarae tu allan trwy'r dydd, felly mae hi wedi blino, ac yn newynog. Mae Mair yn y llofft, a does 'na unrhywun yn y gegin, ond gall Fflwff argoli stêc. Stêc neis, tew a llawn sudd! O, mae Fflwff yn newynog iawn! Mae hi'n mynd i'w bowlen, ond mae'r bowlen yn wag. Mae hi'n edrych i fyny, ac gall hi weld yr ymyl y plat. Y plat gyda'r stêc yw e! Yn ofalus, mae Fflwff yn neidio ar ben y bwrdd gweithio, nesaf at y plat. O! Mae'r stêc yn arogli yn hyfryd! Ac edrychwch! Mae 'na dipyn bach yn hongian dros yr ymyl. Mae Fflwff yn cnoi'r tipyn bach o'r stêc ac yn tynnu, ond mae e'n dal yn sownd. Mae ti'n tynnu mwy, ond mae'r plat yn llithro yn groes y pen. Mae hi'n tynnu eto ond trychineb! Mae'r plat wedi cwympo i'r llawr. Mae Fflwff yn rhedeg nerth ei thraed a phlymio drwy'r fflap cath cyn bod unrhwyun yn dod!