Fflwff a'r Llenni. Heddiw, mae'n heulog. Mae'n haf. Mae Fflwff yn chwarae gyda ei llygoden tegan. Yn ddisymwth, mae Fflwff yn gweld pili pala yn hedfan drwy'r ffenest. Mae'r pili pala yn glanio ar y llenni. Mae'n ymestyn ei adenydd e. Mae Fflwff yn meddwl fod y pili pala yn hudol. Mae hi'n cerdded at y pili pala, yn araf. Mae'r pili pala yn hedfan i fyny'r llenni. Mae Fflwff yn dechrau dringo'r llenni. I fyny ac i fyny, i'r pen. Yna mae'r pili pala yn hedfan ymaith trwy'r ffenest. Mae Fflwff yn methu symud. Mae'r llenni yn siglo. O diar! Mae Fflwff a'r llenni yn cwympo i'r llawr. Wps!!