Fflwff a Sinsir Dacw Sinsir, ffrind Fflwff! Edrychwch - mae hi yn y cae nesa at dyˆ Fflwff! Mae Sinsir a Fflwff yn hoffi chwarae yn y cae, rhedeg ar ôl llygod, hela adar a dringo coed. Wrth iddyn nhw chwarae yn y gwair hir, mae'r ffindiau'n clywed sw+n Mae 'na rywbeth siffrwd yn y gwair! Beth allai fod? Mae Fflwff yn gobeithio mai llygoden ydy e. Dydy Sinsir ddim yn siwr beth ydy e! Mae Fflwff a Sinsir yn ymlusgo'n anweledig trwy'r gwair, ond mae'r sw+n wedi peidio! Felly mae'r cathod bach yn aros yn amyneddgar i'r siffwrd dechrau eto. Mae'n boeth yn yr heulwen. Mae'r awyr yn glir a glas, ac mae'r adar yn canu yn y coed. Mae Fflwff a Sinsir yn setlo lawr i gysgu pan maen nhw'n clywed y sw+n eto. Mae Fflwff yn neidio i'w thraed a rhedeg trwy'r gwair, gyda Sinsir dilyn tu ôl i. Maen nhw'n ymlysgo'n dawel a neidio dros gangen wedi cwympo pan, yn sydyn, maen nhw'n dod i glwt o wair gwastad, ac maen nhw'n darganfod pwy sy'n gwneud y sw+n! Cadno mawr coch! A dydy e ddim yn rhy hapus i gael e aflonyddu! Mae'r cadno mawr coch yn chwyrnu yn uchel! Mae Fflwff a Sinsir yn troi ar eu sodlau a rhedeg nerth eu pennau yr holl ffordd adre!