Fflwff a Mair Dyma Mair. Mae Mair yn ffrind i Fflwff - maen nhw'n byw yn yr un ty^. Heddiw, mae Mair yn ysgrifennu traethawd am ei gwaith cartref, ond dydy hi ddim yn hapus iawn oherwydd mae'n bwrw glaw ac mae hi eisiau chwarae tu allan. Ond edrychwch! Dyna Fflwff! Mae Fflwff yn caru Mair ac phan mae hi'n ei gweld, mae hi'n rhedeg i ddweud 'Helo!'. Mae Fflwff yn neidio ar y ddesg ac yn cerdded ar waith cartref Mair. O na! Mae traed Fflwff yn frwnt ac mae olion traed ar draethawd Mair. Fflwff ddrwg!