go back home!
Get Fluent CD-ROMs
CMC t-shirts
Welsh music
where to learn
cheat sheets
how to learn
Welsh song lyrics
teachers and courses
ratw
CMC news
short stories
interviews
features
weblogs
books
papers and magazines
audio
chat
join the CMC email list
keep updated
explore
links
who is Suw?
contact us
help us
give us money
press room
legal stuff
thanks!
     
  Zabrinski
gan Debs Prowse

Yr olygfa: Portacabin di-raen sy'n cael ei ddefnyddio fel stafell newid dros-dro, tu cefn i'r llwyfan yn Eisteddfod 1999, Môn.

Y cast: Debs ac Emma, holwyr i’w rhyfeddu atynt, a'u prae, Zabrinski, grwp ifanc o dalentau mawrion o Gaerfyrddin sy'n chwarae'r math o psychadelia trwm na ddyliai pobl 19 oed fod yn gwybod amdano. Mae rapiwr y Tystion, Gruff Meredith, yn cysgu ar bentwr o siacedi yn un gornel o’r ystafell, heb fod yn ymwybodol o'n presenoldeb ni, ei draed noeth yn blastar o fwd. Mae gitarydd y Big Leaves, Meilir, yn torri ar ein traws yn frysiog i sgrownjio sigaret.

Yr awyrgylch: Mae pawb heblaw Gruff mewn hwyliau da, yn bloeddio'r cwestiynau a'r atebion dros swn y band sy'n chwarae ar Faes B.

Petai hyn yn ffilm a'r uchod yn naratif, byddai'r trac sain yn sgrechian i stop ar y pwynt yma. Y swn yw achos ein problemau...

A dweud y gwir, mae tâp y cyfweliad yn anealladwy heblaw am ambell i sylw rhyfedd:

"Burger, ti'n edrych fel Mickey Dolenz o'r Monkees."

"Ie, fi yw'r aelod gwallt fuzzy o Zabrinski driodd fwyta wyneb Debs yn y Steddfod llynedd."

Ac yn y blaen. Yr unig ateb yw ffonio'r canwr Matthew ar ôl cyrraedd 'nôl i Lundain ac ail-wneud y cyfweliad cyfan.

Felly, ymddiheuriadau i Burger, Pwyll ac aelodau eraill o'r band nad yw eu cyfraniadau nhw yn gallu ymddangos yn y cyfweliad terfynol; tro nesa' bydd yn rhaid i chi weiddi'n uwch.

Rwy'n dechrau trwy ofyn i Matthew sut y cychwynodd y band.
Matthew: "Fe ddechreuodd e fel math o beth kiddie era, gyda fi a Burger yn ffwcio o gwmpas. Ro'n i'n arfer chwarae drymiau i fand gyda Burger, ro'n ni'n arfer ffwcio o gwmpas, wnaethon ni erioed chwarae unrhyw gigs, ac ro'n ni'n eitha' cachu mewn gwirionedd. Wel, yn gachu iawn, roedd e fel Britpop math o beth.

"Fe adawodd ein canwr ac fe brynes i gitâr a phenderfynu sgrifennu rhai caneuon, ac fe ddywedodd Burger, 'Pam na wnei di chwarae gitâr a chanu?' O hynny fe ddewison ni ffrindiau oedd yn eitha' da yn offerynnol ac fe jyst ddechreuon ni chwarae caneuon."

Am beidio ag ymarfer...
Matthew: "Na, dy'n ni ddim. Does gyda fi ddim syniad sawl gwaith ry'n ni'n wedi ymarfer eleni. Tua dwywaith neu rywbeth fel hynny! Fe chwaraeon ni 20 o gigs ac ymarfer ddwywaith, ond mae hynny'n rhan o hwyl y peth. Er y dylien ni ymarfer, achos mae pethau yn mynd o chwith! Ond pan mae'n dod i gigs, mae'n dda iawn yr adeg hynny, achos ry'n ni'n ei glywed e am y tro cyntaf hefyd!"

Wnei di fy atgoffa i pwy sy'n gwneud beth?
"Fi yn canu a chwarae gitâr, ac yn sgrifennu bron y cyfan o'r caneuon, a Robin hefyd, sy'n bartner i fi yn y cyfansoddi, ac mae e'n chwarae allweddellau hefyd ac yn canu cefndir. Mae Burger, sy'n ffwcio o gwmpas gyda'i gitâr, Emyr sy'n chwarae bas, Jonathan yn chwarae drymiau, ac Iwan Morgan yw ein... mewn gwirionedd, sa i'n gwybod beth mae e'n ei wneud! Mae e'n gwneud y samplo a'r pethau cynhyrchu. Mae e'n sortio'r peth ma's, yn nhermau'r trac cefndir. Yna mae Pwyll sy'n gwneud ein recordio ni, dyw e ddim yn lico chwarae yn fyw so mae e'n recordio popeth i ni ar ei gyfrifiadur. Ond mae e'n fath o foi cynhyrchu/recordio ac mae e'n dda iawn."

Am sut y cafodd y band ei enw...
"Y gwirionedd yw bod Burger yn mwydro am ryw ffilm o'r enw Zabriski Point, a fydde wedi bod yn blocbyster enfawr yn America yn y 70au. Fe warion nhw filiynau amo fe a methu yn drychinebus. Ro'n i'n lico'r enw ac yn ei ynganu'n anghywir, felly fe droiodd e ma's fisl Zabrinski."

Am y digwyddiad yn y clwb rygbi, a chwarae tair cân yn unig er mai chi oedd y prif fand...
Mae Matthew yn chwerthin. "Ro'n ni’n hedleinio'r clwb rygbi yng Nghaerfyrddin. Mae hyn i gyd yn dod yn ôl at y peidio ymarfer. Os nad ydyn ni'n cael soundcheck syn para tua 50 gwaith mor hir â'r gig ei hun, ry'n ni'n hollol gachu. Felly fe benderfynon ni feddwi'n gaib yn lle hynny.

"Mae grwpiau fel Anweledig a Tystion yn gallu gwneud hynny yn dda iawn, ond allen ni ddim â gwneud hynny o gwbl felly fe feddwon ni'n gaib ac fe chwaraeon ni... sa i hyd yn oed yn gwybod ai tair cân oedd yna, fe allai fod yn ystod yr ail... ac fe aeth pawb yn wallgo'.

"Fe ddaeth Matthew o Texas Radio Band a'i gitâr acwstig, a oedd i fod yn egwyl yn y canol pan fydden ni'n gwneud rhai caneuon acwstig, ac fe jyst benderfynodd e stampio arno fe ac fe ddechreuodd hynny rywbeth ac ro'n ni bron â chael crasfa gan ychydig o fois y dre! Fe ddihangon ni yn ddiogel ond roedd e'n eitha' dychrynllyd. Roedd e'n laff er hynny, y gig gore i fi chwarae erioed!

"A dweud y gwir allwn ni ddim ag enwi un peth. Wy'n gwybod y byddai hynnyn beth eitha' ystrydebol i ddweud, ond... mae e i gyd yn deillio mewn gwirionedd ohonof fi'n pigo off beth mae pawb arall yn y band yn cael eu dylanwadu ganddo.

"Mae gan Robin chwaeth hollol wahanol i’r gweddill ohonon ni, ac mae pawb yn codi eu dylanwadau eu hunain ac yn eu rhoi nhw at ei gilydd. Mae’r caneuon i gyd wedi’i gwneud gan un syniad bychan neu ychydig o syniadau bychain.

"Does yna ddim math o, 'dyma’r cordiau, beth am chwarae.' Mae e i gyd yn bolocs, ryn ni jyst yn ffwcio o gwmpas a gweld beth sy'n digwydd. Mae peth ohono fe jyst wedi'i wneud trwy droi fyny a mynd yn ffycd! Dy'n ni ddim yn gwybod beth sy'n digwydd weithiau - weithiau ry'n ni jyst yn bennu lan gyda chân. Dyw rhai pobl ddim yn licio nhw ond... mae lot o bobl eisiau'r roc, caneuon catchy pedwar cord, ac mae'n beth eitha' poblogaidd eich bod chi naill ai yn dwlu arnon ni neu yn ein casau ni!"

Am beidio byth â gwybod eich geiriau eich hunain...
Mae Matthew yn bloeddio chwerthin. "Sa i byth yn llwyddo i sgrifennu unrhyw eiriau achos...sa i'n gwybod! Pan ryn ni’n ymarfer neu'n troi fyny i gig, wyn cael melodi positif yn fy mhen o fewn tua tair eiliad i'r gân gael ei sgrifennu, so mae'r melodi yna yn sownd a alla i ddim â chael gwared ohono fe ac mae e wastad yna. So rwy' jyst yn dechrau dyfeisio pethau, ac mae'n newid o gig i gig, ac mae'r geidau mor gachu weithiau, maen nhw'n gallu bod y rwtsh mwya' annealladwy erioed!"

Am beth oeddech chi'n canu yn y Steddfod?
"Roedd rhaid i ni gyfieithu ein geiriau o Saesneg i Gymraeg, sy'n gallu bod yn beth gwael achos dyn ni ddim yn dda iawn am sgrifennu geiriau yn Gymareg, maen nhw wastad yn bennu off gyda'r un geiriau, fel 'hapus' a 'haf' a phethau fel'na. So fe benderfynais i jyst i ganu nonsens a dweud mai Cymraeg oedd e, ac os oedden nhw'n ein cyhuddo ni o ganu yn Saesneg jyst dweud, 'na, na, fe wnaethon ni ganu yn Gymraeg! Rhowch yr arian i ni!'

"Ges i un boi yn dod lan ata i mewn gig y diwrnod o'r blaen - ar ôl i ni chwarae - ac fe ddywedodd e, 'Wnes i rili mwynhau eich set chi, ond mae gyda 2Unlimited fwy o ffycin eiriau na chi!' Ro'n i'n eitha' licio hynny, mae'n meddwl ein bod ni'n unigryw. Ond na, sa i'n dda iawn gyda geiriau."

Ddim yn dda iawn i'r bobl sy' eisiau canu gyda chi...
"Na, ond cyn belled â bod melodi yna... Mae gyda ni un gân, Melody Made, a oedd ar Garej tua wythnos neu bythefios yn ôl, a does dim geiriau ynddi hi, mae jyst yn w-wws, lalalas, pethau fel'na. Mae pawb yn nabod y diwn yn ein hardal ni, ac fe allan nhw i gyd ganu gyda ni ond heb fod angen unrhyw eiriau."

Am ddechrau eich label eich hunain...
"Ydi, mae hynny'n cael ei wneud ar hyn o bryd. Ryn ni'n recordio'r stwff ta beth, a dyn ni heb ei ryddhau e fesul miloedd. Fe wnaethon ni ychydig gannoedd o dapiau yn y Steddfod, fe gaethon ni wared amyn nhw i gyd. Wnaethon ni ddim eu gwerthu nhw o gwbl, jyst rhoi lot ohonyn nhw am ddim.

"Mae gan Iwan ei label ei hun, ac ryn ni'n mynd i wneud mini-albwm neu gobeithio albwm os oes digon o arian gyda ni, ym mis Chwefror. Mae gyda ni lot o ganeuon newydd yn cael eu gwneud ar hyn o bryd ac ry'n ni eisiau eu gosod nhw lawr. Ac mae Owain yn Ankst yn mynd i roi ychydig o stwff allan i ni hefyd."

Am ddweud wrth bobl am fynd oddi ar y ffordd osgoi gydag amp...
"Ryn ni wedi symud o'r ty yna nawr. Roedd e'n edrych dros y ffordd osgoi. Felly fe ddechreuon ni ryw fath o berthynas gyda gwylwyr y ffordd osgoi oedd yn gorfod sefyll a gwarchod y ffordd osgoi bedair awr ar hugain y dydd. Felly ro'n ni'n arfer rhoi amp yn y ffenest dop oedd tua 300 llath o'r ffordd osgoi, a dechrau siarad a chanu carolau Nadolig a phethau at y gwylwyr nos. Ac roedden nhw i gyd yn canu a dawnsio gyda ni.

"A bob hyn a hyn, os nad oedden nhw’n gallu cael y tresmaswyr oddi ar y ffordd osgoi, roedden nhw'n rhoi arwyddion i ni yn y ffenest ac fe (fydden ni'n sgrechian drwy'r microffôn, 'Cerwch o'na, ffyc off! Cerwch off y ffordd osgoi!' a bydden nhw'n ei heglu hi o'na ar eu beiciau cyn gynted ag y gallan nhw. Roedden ni'n dweud wrthyn nhw y bydden nhw'n cael eu saethu o fewn 30 eiliad os nad oedden nhw'n mynd o'na. Dyna oedd yr hwyl gorau ges i mewn hydoedd!"

Am y Rastafarian gwyn...
Mae Matthew yn giglo. "Mae e'n gaeth i sbîd. Mae e'n hollol wallgo, mae e 'di cholli hi'n llwyr. Mae e'n gwisgo het rasta ac mae e tua 80 mhwydd oed! Fe ffeindion ni fe y tu allan i'n fflat ni jyst yn gwisgo pâr o y-fronts gwyrdd, ac roedd gyda fe'r ffon Foses fawr yma gydag e! Ei enw fe yw Jules, ac fe ddechreuon ni weiddu arno fe, 'Jules, dyma lais Duw! Rwyt ti'n cael dy erlid am dy droseddau yn erbyn cymdeithas!' Ac roedd e wir yn meddwl taw Duw oedd e! Ac roedd y stryd gyfan yn gwylio. Ac roedd e'n mynd i ladd ei hunan off y wal y tu allan i'n fflat ni! Achos roedd e'n meddwl taw dyna ddiwedd ei fywyd e! Roedd e wir yn mynd i wneud hynny, roedd e'n mynd i neidio! Fe ddeffron ni un noson a ffeindio ei ffon e ar ben ein grisiau ni, a dy'n ni ddim wedi ei weld e ers hynny! Stori ddychrynllyd iawn!"

Am Gorky's yn galw Burger yn 'Toby Mangle'...
"Fe ddechreuodd Burger fynd i gigs Gorky’s pan oedd e lot yn iau. Roedd e tua 11 neu 12 yn meddwi, ac roedd pawb arall yn 18. Fe aethon ni i'r ysgol gyda Gorky’s ac roedden nhw'n arfer galw Burger yn 'Toby Mangle'. Roedden nhw i gyd yn ei alw fe'n hwnna. Ac fe ddaeth i fod ymhob gig Gorky’s, bydden nhw'n cyflwyno pob cân i Toby Mangle! A dyna'r unig ffordd maen nhw'n gwybod i'w alw fe nawr, dy'n ni ddim yn gwybod ei enw, dim ond fel Toby Mangle!"

Ac i orffen...
"Bydden i'n licio dweud 'sori' ar ran Burger. Fe aethon ni i gig Maharishi ac Anweledig yng Nghaerfyrddin tua pythefnos yn ôl, ac fe ddechreuodd Burger ffeit gyda chanwr Maharishi. Dy'n ni ddim yn arbenng o hoff o Maharishi; mewn gwirionedd, dy'n ni ddim yn arbennig o hoff o lawer o fandiau Cymreig.

"Fe ddechreuoedd Burger ffeit eitha' mawr, rhwng Ceri Anweledig, cwpwl o ffrindiau, Burger a phobl Maharishi... so wy' eisiau ymddiheuro am hynny! Ryn ni'n bobl wan. Dyn ni ddim eisiau ymladd! Allwn ni ddim â rhoi crasfa i neb! Ac maen nhw i gyd yn edrych lot caletach na ni beth bynnag! Ond sori! Os nad ydych chi'n licio ni, plîs peidiwch â rhoi crasfa i ni! Rhowch grasfa i Burger, nid i ni!"

 
     

© debs williams 2002, 2003
cyfieithiad gan kate crockett

[Get Fluent] [CMC t-shirts] [buy Welsh music] [where to start] [cheat sheets]
[how to learn] [Welsh lyrics] [teachers and courses] [ratw] [CMC news]
[short stories] [interviews] [features] [weblogs] [books] [papers and magazines]
[audio] [chat] [join the email list] [keep updated] [links] [who is Suw?]
[contact us] [help us] [give us money] [press room] [legal stuff] [thanks] [home]


Legal warning notice: The material on this site is protected by copyright laws. Use of this site is strictly subject to our current terms which may change from time to time. Please also read our privacy policy and security statement.