gan Debs Prowse
"Dyma gân o'r enw Turning Tide, a chysegrwyd i'r person
lawr fan 'na. Gobeithio fyddwch chi'n teimlo'n well yn fuan."
Brixton Academy, 3 Tachwedd 1999, ac mae rhyw ddyn anlwcus wedi
cael ei dynnu allan o'r dorf ac yn gorwedd yn anymwybodol ar stretsier
yn y pwll diogelwch. Am y 15 munud diwethaf, mae paramedics a gweithwyr
cymorth cyntaf wedi gofalu amdano fo, ei gariad yn gwylio mewn dagrau,
tra fod Gruff Rhys yn checio'n aml ar gyflwr y dyn.
Noson llawn digwyddiadau, 'te.
Mae'n, wir, dwi byth wedi gweld Super Furry Animals
mor ddifyrrus, wedi ymlacio a mor siaradus. Mae'n hollol wahanol
i'r dyddiau pan gellid gwylio nhw o rhes flaen yr LA2 heb dywallt
eich peint, y dyddiau pan fyddai Gruff ddim yn siarad onibai
i gyflwyno'r gân nesaf; heno, mae o'n gwatwar y dorf yn
ysgafyn yn ystod Fire In My Heart, wrth stopio weithiau i adael
i'r gwrandawyr ganu ar ei gyfer, yn sefyll efo'u freichiau wedi'u
croesi ac yn |
|
lledwenu tra o'n ni'n neud ei job amdano fo. Mae
o'n fwy o showman heno na dwi wedi gweld o'r blaen. Mae'r dorf
yn mynd yn hollol wallgof. Erbyn y diwedd, pan mae'r Gods Of
Communication yn sefyll heb symud ar y llwyfan yn ystod The
Man Don't Give A Fuck, mae boi efo dreadlocks yn ei wallt yn
neidio dros y terfyn dogelwch, wrth osgoi dau ddyn diogewlch
ac yn goresgyn y llwyfan ar ei ben ei hun, yn dawnsio'n wyllt
o flaen yr aliens cyn i reolwr y llwyfan, yn y diwedd ei dynnu
i ffwrdd. |
Naw diwrnod ar ôl y gig a dwi ar y ffôn i faswr y Furries,
Guto Pryce, wrth gofio'r noson. Dwi'n dweud wrtho fo o'n i wedi
trafod y gig yn Brixton efo newyddiadurwr, Simon Price. 'Da ni'n
meddwl roedd o'r gig gorau SFA o'n ni 'di gweld erioed. Mae'n debyg
'mod i 'di gweld nhw'n chwarae tua 20 neu 30 o weithiau erbyn hyn,
ond rhaid mai'r Brixton ydy'r gorau. Mae'r sw^n yn ardderchog ac
mae 'na lai o gamgymeriadau.
|
Mae Guto yn chwerthin. Dwi'n adennill fy hunanfeddiant yn
gyflym - dwi'm yn deud dy fod ti'n arfer neud lot o gamgymeriadau,
dwi'n deud wrtho fo, ond mae'r sioe yn dynnach.
Yn lwcus, mae Guto'n cytuno. "Yn hollol. 'Da ni 'di
chwarae lot o gigs shoddy dros y blynyddoedd, yn neilltuol
pan oedd y band yn dechrau. 'Da ni'n ymwybodol o hynny a dwi'n
meddwl bod ni'n mynd yn well rwan."
|
Cymharwch hwn ir tro cyntaf imi weld y Super Furries yn chwarae,
ym mis Mehefin 1996 yn yr LA2; roedd y lle'n hanner-gwag ac roedd
hin bosib i fynd i'r blaen a dal i ddal eich diod heb gael
eich bwrw drosodd. Dwi'n cofio Gruff yn datgan y caneuon ond yn
deud dim byd arall, dim banter o gwbwl. Cymharwch hynny â
safle rwan - dyddiau yma mae'n fwy o extravaganza.
"Os ti'm yn mynd yn well does dim pwynt neud o," meddai
Guto.
Mae Super Furry Animals newydd ddod yn ôl o daith hir o America
a Phrydain. Ydyn nhw'di deffro eto?
Guto: "Dim ond jest, ond 'da ni'n mynd ar daith unwaith eto
dydd Mawrth."
Ydych?! Lle 'dach chi'n mynd?
"Ewrop. Scandinavia, Holland, Yr Almaen, Sbaen a Ffrainc."
Am faint?
Tan y gig yng Nghaerdydd."
Y gig yng Nghaerdydd fydd y sioe enfawr byddan nhw'n
chwarae yn yr Arena Ryngwladol ar 20 Rhagfyr. Duw! Rhaid bod chi
'di blino!
"'Da chi'n dod i arfer efo fo ar ôl sbel," mae
Guto'n chwerthin.
Roedd hi'n daith a dynnodd adolygiadau
ffantastig, yn enwedig yr un gan Neil Kulkamey o'r gig yn Llandudno
yn Melody Maker. Sut mae hi'n teimlo i weld rhywun yn bod yn
frwdfrydig am rywbeth bod chi 'di creu? Rhaid fod o'n anhygoel. |
|
"Ydy, mae'n dda bod pobol yn 'get it', 'sti," mae Guto
yn cyfaddau. "Ond, welaist ti'r adolygiad yn yr Independent?
Roedd 'na un drwg ynddo fo, felly mae'n ddoniol, mae gan pobol blas
gwahanol hefyd. 'Da ni'n cael gwasg da fel arfer, felly mae'n neis
iawn."
Mae'n ymddangos bod chi'n fand 'industry'; hynny yw, dydy'r cyhoedd
sy'n prynu'r recordiau sy'n mynd i'r siartiau ddim yn dal arno fo...
Mae Guto'n chwerthin. "Dwi'n dymuno y fydden nhw!"
Cyfweliad cyntaf y Super Furry Animals imi weld oedd tua 4 mlynedd
'nôl yn y Melody Maker. Roeddwch chi'n dadlau os ydy safleoedd
yn y siartiau'n bwysig neu beidio. Felly, 'dach chi ddim wedi newid
eich meddwl am y testun 'na?
"Wel, 'da ni isho cael ein clywed," ebe Guto. "Dyna'r
peth. Os mae pobol yn prynu eich record a dydy o ddim yn mynd i'r
siartiau, am unrhyw reswm, os maen nhw'n cael eu prynu mewn siopau
sydd ddim yn effeithio'r siartiau, wedyn... mae'n ok, ti'n gwybod?"
Ond mae'r busnes yn licio chi, on'd ydyn? Pawb sy'n gwybod...
Guto: "Erm... Ydyn, ond mae'r cylchgrawn Q yn ein casáu
ni!"
Wel, bob tro mae 'na ryw wancyr...
Dwi'n meddwl weithiau bod Super Furry Animals yn dod drosodd fel
band 'cwlt'; mae'n ymddangos bod y rhai 'in the know' yn rili 'get
it', y cerddorion a'r newyddiadurwyr, ond yn aml dydy'r cyhoedd
ddim. Ydych chi'n hapus efo'r notoriety'ma, neu fyddech chi'n hapusach
pe byddai pob sengl yn mynd i #1?
Mae Guto'n bendant. "O, bydda i'n hapus pe byddai pob sengl
yn mynd i #1! Da ni'n neud miwsig er mwyn iddo fo gael ei
glywed. Mewn ffordd, mae'n neis i gael fanbase, 'da ni byth wedi
bod yn elitist, 'da ni byth wedi deud bod ni isho chwarae o flaen
cymaint o bobol a dyna'r cwbwl. Ond ar y llaw arall fyddan ni byth
yn cymrodeddu'n hunain er mwyn chwarae o flaen mwy o bobol. Bydd
o'n digwydd yn ein modd ni."
Felly 'da chi'n bendant iawn am sut ydych chi ishi neud pethau?
Guto: "O, ydyn."
Ti'n golygu bod chi ddim yn industry puppets?
"Nag ydyn - fyddai fo ddim yn lot o hwyl!"
Mae'n siwr fod o'n wir - os mae'ch hobi yn mynd yn yrfa, mae'n
stopio bod yn hwyl.
"Ydy," mae Guto'n cytuno. "'Da ni'n lwcus iawn i
fod yn y safle yma, - teithio'r byd a chwarae miwsig. 'Da ni'n lwcus
iawn. Dwi'n siwr mae 'na bobol yn y byd sy'n ennill chwech, saith
mil o bunnau y flwyddyn wrth neud jobs cachu ac yn cael dim byd
am neud o hefyd. Dwi'm yn ennill miliynau a dwi'n gyfoethog, - dim
o gwbwl, ond dwi'n llwyddo a dwi'n fos fy hun a dwi'n cael lot o
hwyl; dwi'n mynd ar daeth efo'n ffrindiau a phethau. Mae 'na bobol
sy'n cwyno am eu statws bri neu beth bynnag, ond maen nhw wedi mynd
allan o'u ffordd i fod yn celebrities yn y lle cyntaf."
Ydych chi'n dyfaru gwneud unrhywbeth?
"Dim rili," ebe Guto. "'Da ni'n trio... wel, ydyn,
ond 'da ni'n trio'n galed i edrych ymlaen a bod yn bositif, a gwneud
rhywbeth amdano fo. Os oes 'na broblem efo'r ffordd mae pethau'n
rhedeg, 'da ni'n neud rhywbeth amdano fo a symud ymlaen."
'Da chi'm yn meddwl, 'Dwi'n dymuno o'n i 'di neud hynny'n wahanol?
"Wel, ydyn," meddai Guto. "Dwi'n golygu, mae 'na
gyfweliadau yn y wasg, er enghraifft, lle 'da chi'n dymuno oedden
nhw wedi mynd yn wahanol. Byddai fo'n neis i gael cyfweliad lle
'da chi'n siarad am y miwsig... roedd 'na rywbeth yn Select oedd
yn eithaf cythruddol, do'n nhw ddim yn siarad am y miwsig, dim ond
antics y band. Ond byddan ni'n fwy gofalus yn y dyfodol."
Oes 'na gwestiwn bod chi'n casáu clywed mewn cyfweliadau?
|
Mae Guto'n ateb yn syth. "Dwi'n casáu'r un sy'n
mynd... wel, dydy o ddim yn digwydd yn aml, ond pan maen nhw'n
gofyn 'Ydych chi'n wallgof? mae'n eitha sarhaus. Ac
yn ddiog. Achos, pan maen nhw'n meddwl bod chi'n neud pethau'n
wahanol, maen nhw'n meddwl bod chi'n wallgof."
Neu'n cymryd cyffuriau...
Guto: "le! A'da ni'n meddwl, Nage! ac mae'n
hollol sarhaus."
Wel, efallai bod chi wedi cymryd cyffuriau yn y gorffennol,
ond y prif beth ydy eich bod chi'n bum person creadurol iawn.
|
Mae Guto'n cytuno. "Yn union! Dyna be' 'da ni isho neud, so
dyna sut 'da 'ni'n cael buzz. Y ffordd 'da ni'n neud pethau, dyna'r
ffordd 'da ni'n mwynhau neud o. Mae'n rhyfedd. Dwi methu deall bandiau
sy'n neud pethau bod nhw ddim yn rili licio. Y ffordd maen nhw'n
cynhyrchu recordiau nad ydynt yn rili licio, dwi ddim yn deall o."
Maen nhw'n neud o am resymau masnachol?
"Ydyn! Rhesymau 'byddai fon swnio'n well ar y radio'.
Dwin meddwl bod ein recordiau'n swnio'n dda ar y radio, ond
'da ni ddim yn gofyn rhyw gynhyrchwr i ddod mewn a neud nhw swnio
fel cân radio neu beth bynnag."
Mae'r Furries wedi bod yn brysur iawn yn y stiwdio eleni - maen
nhw wedi recordio albwm Cymraeg o'r enw Mwng, ac maen nhw'n bwriadu
rhyddhau fo ym mis Mawrth. Pam ydych chi 'di recordio albwm Cymraeg
ar wahan?
"Roedd gynnom ni ganeuon Cymraeg pan recordion ni Guerilla,"
mae Guto'n esbonio, "ond meddylion ni byddai fo'n well i roi
nhw efo'u gilydd yn lle cân token Cymraeg yma ac yno, ar ochr-B
ac efallai un neu ddau ar albwm. O'n ni'n meddwl byddai fo'n neis
i roi nhw efo'u gilydd. Achos mae Mwng yn swnio'n fwy fel albwm.
Recordiwyd yn bennaf yn fyw yn y stiwdio, ac maen nhw'n mynd yn
well efo'u gilydd."
Pa mor dda bydd o'n neud, wyt ti'n meddwl? Fydd y caneuon Cymraeg
yn effeithio pa mor dda mae o'n gwerthu?
"Dwi'm yn siwr... dwi'n meddwl bydd o'n neud yn iawn,"
meddai Guto. "Mae gennym ni fanbase sy'n prynu'r
recordiau, ac mae hynny'n cw^l, ti`n gwybod?
Pan 'da ni'n rhyddhau senglau, hyd yn oed os 'da ni ddim yn cael
unrhyw airplay 'da ni'n gwybod fydd y fanbase yn prynu'r record.
Ac mae hynny'n deimlad rili neis, i wybod mae 'na bobol tu ôl
i chi."
Newch chi ryddhau senglau o Mwng?
"'Da ni'n meddwl ohono fo. Efallai un. le, pam lai? Yn amlwg,
dydy o ddim yn mynd i werthu miliwn o gopïau ar y diwmod cyntaf,
ond dydy hynny ddim yn reswm i beidio â neud o."
So, na fydd safle yn y siartiau yn bwysig iawn efo sengl
Cymraeg?
"Dydy o byth wedi bod yn bwysig iawn," ebe Guto
yn bendant. "'Da ni jyst isho i'n recordiau cael eu clywed.
Dydy o ddim yn gystadleuaeth, dydy o ddim yn sbort neu rywbeth."
|
|
Wrth gwrs, mae'r band newydd ddod adre o daith fawr, so dydy hyn
ddim yn hawdd i'w ofyn... fydd 'na daith i gyhoeddi Mwng?
"Dyna be' 'da ni'n meddwl amdano ar hyn o bryd," meddai
Guto. "Hoffen ni neud rhywbeth gwahanol... dwi'n siwr y fydd
rhywbeth, cwpwl o sioeau. Achos mae'r album yn live based hefyd,
so bydd o'n dda i'w chwarae fo'n fyw."
Bydd hynny'n ddiddorol - i weld sut bydd ffans Saesnig yn adweithio
i holl sioe o eiriau Cymraeg.
"Bydd," mae Guto'n cytuno. "Efallai cawn ni'n boo
off y Ilwyfan, dwi'm yn gwybod. Ond o leia bydden ni wedi trio."
Dwi'n meddwl. Mae pawb sy'n dod i weld SFA yn gwybod bod chi'n
Gymraeg.
"Ydyn, dyna'r peth," meddai Guto. "Dwi'n meddwl
bod ein ffans yn open minded. Mae pobol yn mwynhau'r darn electronig
ar y diwedd, ac maen nhw'n licio popeth 'da ni'n neud."
Wel, cerddoriaeth ydy'r common denominator. Dyna'r
un peth bod pawb yn rhannu. Dyna'r peth prydferth am gerddoriaeth,
mae o'n mynd heibio bob ffin. Efallai bod hyn yn swnio'n hipi dipi,
ond mae'n wir!
Mae Guto'n chwerthin. "Ti'n gywir!"
A'r common denominator yma ydy'r peth sy'n gyrru bron
mil o bobol ar draws y byd, o wledydd mor bell o'u gilydd â
Brasil a Siapan, Awstralia a Gogledd America, i ymuno â'r
Super Furry Animals e-group, rhyw fath o ganolfan gysylltiad ar
gyfer ffans y band. Cafodd ei ddechrau tair blynnedd nôl gan
ffan Americanaidd, Karen, sy'n rhoi llawer o'i hamser, ymdrech ac
ymdroddiad mewn i ofalu amdano fo. Dwi 'di ymuno â'r rhestr
fy hun yn ddiweddar, dwi'n deud wrth Guto.
Mae Guto yn frwdfrydig iawn am Karen a'r grw^p. "Mae hi'n
ffantastig. Mae'n hollol humbling pan 'da chi'n gweld pa mor bell
mae pobol yn teithio i'ch gweld chi, neu faint o waith mae hi'n
neud ar yr internet. Mae'n hollol humbling."
Mae hi'n gweithio'n galed iawn.
"Ydy! Mae hi'n anhygoel! Ac ar y daith Americanaidd daeth
hi â llawer o recordiau i ni hefyd, oedd yn grêt!"
Ers imi ymuno â'r e-group, dwi 'di sylwi bod lot o bobol
yn gofyn os ydy'r Furries yn bwriadu rhyddhau casgliad o'u fideos.
Dwi'n gofyn hwn i Guto.
"Nag ydyn!" mae o'n chwerthin. "Na ydy'r ateb!"
Pam?
"Dwi'n casáu pob un o'n fideos," mae o'n chwerthin.
"Maen nhw'n hollol gachu! Roedd Fire In My Heart yn dda, ac
roedd Northem Lites yn dda, ond yn bennaf maen nhw wedi bod yn wastraff
o arian! Ond dim ond barn fi ydy hynny. Maen nhw 'di bod yn ok ond
os da chi n mynd i neud casgliad dwi'n meddwl dylsen nhw fod
yn dda iawn."
Beth am International Language of Screaming? Roedd hwnna'n fideo
da.
"Oedd, ond roedd o'n gomedi," mae Guto'n ochneidio. "O'n
ni isho iddo fo fod yn horribl ac ofnus, ond yn y diwedd roedd o
fel ffycin' Carry On horror!"
Ond dydych chi ddim yn ofnus neu'n horribl! Dyna'r pwynt! 'Da chi
ddim yn dod draws fel hynny!
|
"Ond 'da ni isho bod yn horribl
ac yn ofnus!"
Ond nid y Super Furry Animals ydy hynny! 'Da chi'n greaduriaid
cwtchlid, blewog! Mae'n ymddangos taw fi ywr unig berson
sy'n meddwl fel hyn:
"Dwi'n meddwl bod ni heb gael ein deall gan y mwyafrif
o gyfarwyddwyr ein fideos..."
|
Beth ydy hoff fideo y band?
"Roedd Demons yn dda achos caethom ni w^yl yn Colombia am
wythnos! Dyna'r ffordd dwi'n edrych amo fo!"
Beth am ganeuon? Oes 'na weithiau pan 'da chi'n mynd ar y llwyfan
gan feddwl, dwi'm isho chwarae'r gân 'ma achos mod i'n
ei chasáu hi rwan'?
"Weithiau, oes," ebe Guto. "Mae Something 4 The
Weekend yn anodd ar hyn o bryd - mae rhai ohonom ni'n licio fo,
a dydy'r lleill ddim. Yn bennaf, dyna achos 'da ni isho symud ymlaen,
ond 'da ni'n gwybod fod pobol yn dod i'n gweld ni er mwyn clywed
ein senglau a chlywed y caneuon bod nhw'n adnabod hefyd, felly 'da
ni'n trio chwarae'r hen stwff a'r stwff newydd hefyd.
Mae'n rhaid ichi fod yn deg i bobol sy'n dod i'ch gweld chi hefyd.
Pe tasech chi'n chwarae gormod o ganeuon sydd heb eu clywed o'r
blaen, byddai pobol yn pissed off dwi'n meddwl."
Mae perfformiadau byw'r Super Furry Animals' wedi newid dros y
blynyddoedd; y peth diweddara' ydy'r Gods Of Communication sy'n
dod ar y llwyfan yn ystod The Man Don't Give A Fuck. Pwy sydd yn
y costiwmau?
Mae Guto'n chwerthin. "Unrhyw un 'da ni'n gallu ffeindio,
fel arfer! Rhywun o'r gynilleidfa pum munud o'r diwedd!"
Dwi'n rhyfeddu os mae'r sioeau gwell 'ma'n ran o'r cynllun'.
Beth ydy nod SFA? Ac ar ôl iddo fo gael ei gyflawni, fyddwch
chi'n rhoi fyny?
"Na fyddwn. Miwsig ydy'r nod, a dwi'n meddwl bod ni yn ei
gyflawni fo," meddai Guto. "Mae gennym ni lot mwy o syniadau..."
Mae 'na gyflenwad heb ddiwedd, on'd oes?
Mae Guto'n cytuno. "Oes! 'Da ni'n lwcus achos 'da ni'm yn
cael trafferth pan 'da ni'n mynd i'r y stiwdio. Does dim rhaid i
ni boeni am y caneuon, 'da ni jyst yn poeni am sut i'w recordio
nhw, achos dyna be' 'da chi'n neud mewn stiwdio. Ond 'da ni'n edrych
ar gwpwl o albymau o flaen yn ein pennau eniwe."
Sut `da chi'n ffeindio'r amser i sgrifennu caneuon newydd?
"Does dim angen amser i sgrifennu caneuon newydd," mae
Guto'n cywiro fi. "Yr unig peth ydych chi angen ydy'ch brên!
'Da ni wastad yn cael syniadau newydd, a phan 'da chi'n mynd i'r
stiwdio maen nhw i gyd yn dod allan."
Ww, mae Guto'n slapio'n arddwm!
Guto: "Pam?"
Wel, dwedaist ti 'does dim angen amser!' Ww, ok! Dwi 'di cael fy
nghywiro!
Mae Guto'n chwerthin. "Na, o'n i jyst yn meddwl yn uchel!
'Da ni'n sgrifennu caneuon a 'da ni ar daith yn aml ond da ni'n
get by. Hyd yn oed os 'da ni'n chwibanu yn y cawod. 'Da chi wastad
yn creu melodïau. Dyna peth arall dwi'n deall, bandiau sy'n
cael problemau sgrifennu caneuon newydd. Achos mae gennym ni gymaint
o syniadau newydd, 'da ni methu aros i fynd i'r stiwdio."
A dydy'ch caneuon ddim jyst yn gitar/drwm/bâs teip o beth...
mae 'na gymaint o haenau...
"Pan 'da ni'n mynd i'r stiwdio, mae 'na lot o syniadau'n barod,
felly 'da ni jyst angen cael y syniadau am sut i'w trefnu nhw."
Be' dach chi'n hiraethu amdano pan 'da chi ar daith?
"Bwyd da!" Mae Guto'n chwerthin. "Heb fwyd da, dwi'n
mynd yn sarrug ac yn flinedig!"
Dwi di sylwi bod cariadon y bechgyn yn troi fyny i
lot o gigs y band. Ydyn nhw'n mynd ar yr holl daith?
"Duw, nag ydynt!" mae Guto'n chwerthin. "Mae'n
debyg byddan nhw'n mynd yn wallgof! Dydy'r bws ddim yn le
neis i fod! Na, dwyt ti ddim yn gweld nhw yn Derby neu Stoke.
Dwyt ti ddim yn gweld nhw yn y llefydd sydd ddim mor glamorous!"
Oherwydd eich bod ar daith cymaint o'ch amser, oes `da chi
ddigon o amser i ymlacio?
|
|
"Ffyc, dwi 'di anghofio sut i ymlacio, i fod yn onest! Playstation
a recordiau, TV, bwyd, gwin, popeth da mewn bywyd!"
Ydych chi'n cael y siawns i weld bandiau eraill yn aml? Os ydych,
beth ydy'r band gorau ichi weld eleni?
"'Da ni'n gweld y bandiau sy'n chwarae efo ni`n bennaf...
mae na lot o fandiau da. Chwaraeodd Topper efo ni yn Llandudno ar
yr ail noson, ac o'n nhw'n ardderchog."
Eleni mae'r band wedi hyrwyddo Clwb Pêl Droed Cardiff City.
Beth ydy hyn amdano, ac am faint o amser?
Guto: "Mae'n golygu dim stress ohonom ni achos 'da ni jyst
yn printio'r crysau a dyna'r gwbwl, does dim rhaid i ni hongian
allan neu beth bynnag. Hyd yn oed efo'r photo shoot, aeth yr aliens
yn ein lle! Mae o'n neud bywyd yn haws i ni i gyd."
Tro diwetha' imi gyfweld â Gruff, dywedodd am anfon yr eirth
ar daith i Siapan er mwyn i'r band osgoi neud o!
"le!" mae Guto'n chwerthin. "Mae chwarae'n fyw'n
laff, ond dim ots am unrhywbeth arall."
'Da chi byth wedi bod yn fand 'meet 'n' greet', on'd ydych?
Mae Guto'n chwerthin. "Duw, nag ydyn!"
Pan dwi'n eich gweld chi mewn partis aftershow, dwi'm yn siwr am
ddod drosodd i ddeud helo...
Mae Guto'n cywiro fi. "Dylset ti!"
Ond bob tro 'da chi'n edrych fel, 'o Duw, dyma un arall o'r digwyddiadau
schmoozing 'na!'
"Pan mae'n ffans, 'da ni'm yn meindio," mae Guto'n esbonio.
"Ond pan mae'n ddigwyddiad y busnes, dwi yn meindio!"
Mae'n rhaid ichi ysgwyd llaw rhywun sy'n un peth â llyfu'u
tinau...
"'Da ni'm yn neud o'n aml, da ni'n lwcus" meddai
Guto. "Dydy Creation ddim yr un fath o label eniwe, 'da ni'n
ffrindiau efo pawb yno 'da ni'n dod ymlaen efo pawb."
Ydych chi'n gyfforddus efo'ch safle, neu ydych chi dal yn embarrassed
weithiau? Nes i sylwi roedd Gruff yn fwy cyfforddus a siaradus yn
V99 a Brixton nag oedd o yn gigs eraill.
"'Da ni byth yn embarrassed ar y llwyfan achos 'da ni'n hyderus
yn be' da' ni'n neud. 'Da ni'n mynd yn embarrassed dim ond os mae
pawb yn gofyn am ein autographs! Ond 'da chi'n dod i arfer efo fo,
dydy o ddim yn rywbeth bod ni 'di crefu amdano. Mae o'n mynd i ddigwydd,
mae'n anochel, ond mae o dal i fod yn dipyn bach yn embarrassing.
Mewn siopau, yn y dre, dydy o ddim yn digwydd yn aml ond mae o'n
embarassing. Ond ar y llwyfan, os wyt ti'n mynd i fod yn embarrassed
ddylset ti ddim bod yno. Mae 'na lot 'da ni isho rhoi drosodd a
'da ni isho i bobol ei glywed fo."
Mae'n debyg bod y band wedi cael cwpwl o flynyddoedd llawn o brofiadau
anhygoel. Beth ydy profiad gorau i SFA gael eleni?
"Roedd America'n ardderchog, dyna'r un dwi'n meddwl,"
meddai Guto. "America oedd y peth diwetha' ardderchog i ddigwydd,
so dyna'r un sy'n aros yn fy meddwl. Jyst mynd i lefydd newydd,
dyna'r peth 'mod i'n mwynhau. Roedd San Francisco yn ffantastig."
Beth ydy'r peth mwyaf anhygoel a gallai ddigwydd i Super Furry
Animals yn y dyfodol?
"Ffycin' hell, dwi'm yn gwybod! Dwi'n golygu, parhau neud
be' 'da ni'n neud, ond yn fwy ac yn well. Dyna'r nod. Ond 'da ni'n
gyfforddus iawn efo'r ffordd mae pethau'n mynd. Mae o'n mynd yn
raddol, so mae o'n neis a dydy o ddim wedi bod yn rhy wallgof. 'Da
ni 'di neud pob taith mewn llefydd mwy, a 'da ni'n teimlo'n gyfforddus
efo fo."
Ac wrth gwrs, mae 'na'r gig yn y CIA mis nesaf...
"Oes! Wel, dyna'r un mawr, mae'n siwr."
Beth sy'n neud chi'n falch o'ch hunain?
"Miwsig, yn bendant, achos bydd y recordio yno am byth, gobeithio,
a dwi'n falch iawn o'r recordiau. A'r gigs hefyd. Gobeithio bydd
lot o bobol yn dod adre o'r gigs gan fwynhau nhw, a gobeithio welwn
nhw rywbeth gwahanol a chael profiad dymunol. Dwi'm isho bod yn
cocky, ond dwi'n meddwl fod o'n digwydd lot o'r amser, dwi'n meddwl
bod ni'n mynd yn dda at chwarae'n fyw. So dwi'n falch o hynny. Gobeithio
'mod i'n gywir!"
Yn bendant mae o'n gywir. Dydy Super Furry Animals byth wedi bod
mor ddymunol, mor ddifyrrus, mor gariadus, dim ots faint maen nhw
isho dod drosodd fel ofnus weithiau. Hyd yn oed os mae cath yn poeri
a chrafu, tu ôl y crafangau mae'na anifael cwtchlid, blewog
yn aros i gael ei charu.
I ymuno â e-group SFA neu i dderbyn newyddion am y band,
ymwelwch eu safle we swyddogol: http://www.superfurry.com.
|