Fflwff a'r Pysgod Dyma Fflwff. Cath fach ddu a gwyn yw hi. Mae hi'n byw mewn ty+ mawr gyda gardd enfawr. Yn yr ardd mae pwll ac yn y pwll mae pysgod. Mae Fflwff yn hoffi pysgod! Mae hi'n oer heddiw. Mae'r pwll yn rhewi ac mae'r pysgod yn nofio dan y rhew. Mae Fflwff yn gwylio'r pysgod yn nofio yma ag acw. Mae hi'n plygu. Mae hi'n rhuthro! Ond syllwch! Mae'r rhew yn rhy denau, Fflwff yn rhy drwm ac mae'r rhew wedi torri. Druan o Fflwff! Mae hi'n wlyb ddiferol! A dydy hi ddim yn hoffi pysgod mwyach!